A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Safonau Masnach - Iechyd a Lles Anifeiliaid

Ein Cyfrifoldebau

Mae gennym ddyletswydd i:

  • Amddiffyn lles anifeiliaid ar ffermydd, wrth deithio ac mewn marchnadoedd
  • Amddiffyn iechyd a lles anifeiliaid cymar
  • Atal, rheoli a difa clefydau anifeiliaid
  • Sicrhau bod modd olrhain symudiadau anifeiliaid i amddiffyn pobl ac anifeiliaid rhag clefydau sy’n cael eu trosglwyddo.
  • Sicrhau fod bwydydd yn cael eu cynhyrchu, eu cludo, eu storio a'u defnyddio mewn modd glân
  • Sicrhau fod planhigion ac anifeiliaid sy'n mynd i'r gadwyn fwyd yn cael eu gwarchod rhag cael eu gwenwyno mewn modd a fyddai'n niweidio iechyd dynol.

Rydym hefyd yn delio â thrwyddedu cybiau cwn a llety cathod, llefydd bridio cwn, stablau marchogaeth, swau, ac anifeiliaid sydd angen trwydded o dan Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus.

 

Taflenni Canllaw

Mae cyfres o daflenni canllaw yn ymwneud â gofynion Iechyd a Lles Anifeiliaid ar gael o'n tudalen cyngor busnes.

Lles Anifeiliaid

Mae Deddf Lles Anifeiliaid 2006 yn rhoi pwerau a chyfrifoldebau ehangach i Awdurdodau Lleol o ran anifeiliaid fferm ac anifeiliaid anwes.  Rhennir y cyfrifoldeb am anifeiliaid anwes gyda'r Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid (RSPCA).  Fel arfer, yr RSPCA sy'n cymryd cyfrifoldeb am anifeiliaid domestig neu anifeiliaid anwes.

Gallwch roi gwybod i ni am unrhyw bryderon sydd gennych am les anifeiliaid trwy gysylltu â'n swyddfeydd (trwy'r dudalen cysylltu â ni), neu trwy'r RSPCA.

Symud ac adnabod anifeiliaid fferm

Mae rheolau llym sy'n rheoli symud anifeiliaid fferm er mwyn rhwystro lledaenu clefydau.  Rhaid bod modd adnabod pob anifail er mwyn gallu cadw llygad ar eu symudiadau.

Os bydd achos o glefyd, mae'n hanfodol ein bod yn gwybod yn union lle mae'r da byw er mwyn cael mesurau effeithiol i reoli a dileu feirysau hynod heintus.

Er mwyn ceisio stopio clefydau rhag lledu, ceir rheolau llym sy'n rheoli dulliau adnabod a symudiadau da byw.  Mae'r rheolau hyn yn berthnasol i bawb, hyd yn oed os mai dim ond un o'r anifeiliaid dan sylw sydd gennych.

Gellir lawrlwytho dogfennau trwyddedau symud anifeiliaid o wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru

 

Sioeau Amaethyddol

Mae taflen ganllaw wedi cael ei chynhyrchu ar gyfer trefnwyr sioeau a phobl sy'n mynd â da byw i sioeau.

Gofynion glendid bwyd a phorthiant

Mae arweiniad wedi'i roi gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd am y ddeddfwriaeth uchod, a gellir ei weld trwy'r ddolen isod:

http://www.food.gov.uk/foodindustry/guidancenotes/

Stoc Trig

Mae hyn yn esbonio sut y dylid ymdrin â charcasau da byw a phwy o fewn yr awdurdod ddylai fod yn gwneud:

Anifeiliaid Marw ar y Ffyrdd

Pan fydd carcasau da byw ar y briffordd neu ymyl y ffordd, dylid rhoi gwybod i Wasanaeth Rheoli Gwastraff y Cyngor, a fydd yn trefnu i'r carcasau gael eu casglu a'u gwaredu.

Stoc Marw ar Dir Preifat

Dylid cyfeirio pob achos am stoc trig ar dir preifat at y Gwasanaeth Safonau Masnach, a fydd yn ymchwilio i'r mater ac yn trefnu i'r ffermwr/ perchennog tir dan sylw gael gwared o'r carcasau.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am ofynion sgil-gynhyrchion anifeiliaid o wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Rhagor o Wybodaeth

Mae rhagor o wybodaeth a chyngor ar gael trwy gysylltu â’r swyddfeydd trwyddedu Safonau Masnach:

Ffôn: 01874 624704

Fax: 01874 611789

Mae gwybodaeth gyffredinol ar gael hefyd gan y canlynol:

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA)

Llinell Gymorth genedlaethol - 0845 0504141

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Swyddfa Caernarfon:  01286 674144

Swyddfa Caerfyrddin: 01267 225300

Swyddfa Llandrindod: 01597 823777

To top

Cyswllt Gwasanaeth

Mae manylion cyswllt ar gyfer nifer o safleoedd ar gael ar gyfer y Gwasanaeth hwn. Dewiswch eich tref agosaf:

RSS