A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Safonau Masnach - Cyngor i ddefnyddwyr

Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth

Mae gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth yn cynnig cyngor cyfrinachol, diduedd ac am ddim ar faterion defnyddwyr.  Ewch i www.adviceguide.org.uk neu ffoniwch llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 08454 04 05 05.  Gallan nhw gynnig cyngor ar faterion fel nwyddau diffygiol, gwaith a gwasanaethau o safon isel. Dylech hefyd gysylltu â nhw i roi gwybod am fasnachu anonest a thwyll. Mae Cyngor ar Bopeth yn gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaethau Safonau Masnach yr Awdurdod Lleol trwy ddarparu lefel sylfaenol o gyngor a gwybodaeth am amrywiaeth eang o broblemau defnyddwyr. Bydd cwynion sydd angen ymchwiliadau neu gymorth pellach yn cael eu cyfeirio at Safonau Masnach neu wasanaethau cyngor eraill.

Ni fydd galwadau i rifau 0845 gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth yn costio mwy na phum ceiniog y funud o llinell dir BT  (a chostau defnyddio'r ffôn), a gallai'r galwadau hynny fod yn rhad ac am ddim, gan ddibynnu ar eich cynllun talu. Gall galwadau o ddarparwyr ffonau sefydlog eraill neu ffonau symudol amrywio. Cofiwch wirio'r gyfradd gyda'ch darparwr gwasanaethau ffôn.

 

Trustmark

Mae TrustMark yn gynllun sy'n rhoi'r cyfle i chi ddod o hyd i grefftwyr sydd wedi cael eu cymeradwyo o dan y safon TrustMark i wneud gwaith trwsio, cynnal a chadw neu welliannau ar eich eiddo.  Cynllun yw Trustmark a gefnogir gan y Llywodraeth, a'i nod yw sicrhau bod crefftwyr yn ddibynadwy ac yn gwneud gwaith o ansawdd da.  Mae busnesau sy'n ymaelodi â'r cynllun yn ymrwymo i redeg eu busnesau mewn modd cyfreithiol, gonest a theg ac mae'r busnesau hyn yn cael eu fetio a'u monitro gan Weithredwr y Cynllun TrustMark.  

Dod o hyd i grefftwr wedi'i gymeradwyo gan Trustmark

 

Negeseuon Cymunedol Ringmaster

Trwy'r system hon, gellir anfon negeseuon i'r cyhoedd, busnesau a grwpiau eraill sydd â diddordeb sydd wedi cytuno i gofrestru â'r cynllun. Gellir derbyn negeseuon trwy neges ffôn sydd wedi'i recordio o flaen llaw, ffacs, e-bost neu neges destun. Nid oes tâl am y gwasanaeth hwn.

Mae'r system wedi helpu i wella cyfathrebu rhwng yr Heddlu, y Gwasanaeth Safonau Masnach, Asiantaethau Cyngor, y Gymuned Busnes a'r Cyhoedd. Bydd manylion trosedd, digwyddiadau amheus ac achosion diweddar o dwyll yn cael eu bwydo i'r system i greu neges Ringmaster a fydd yn cael ei darlledu i'r derbynwyr mwyaf priodol trwy gyfrwng y dull y maent wedi'i ddewis (ffôn, ffacs, e-bost neu neges destun). Rhaid i ni bwysleisio NA ELLIR defnyddio system Ringmaster fel cyfrwng i roi gwybod am drosedd. Rhaid rhoi gwybod am bob achos o drosedd yn y ffordd arferol, naill ai trwy'r rhif 101 (achosion nad ydynt yn rhai brys), neu 999 ar gyfer achosion brys.

Cofrestrwch ar gyfer system Ringmaster  (trwy wefan Ringmaster Powys ).

Cysylltwch â ni

Mae manylion am sut i gysylltu â ni ar gael o'n tudalen - Cysylltwch â ni.

Cyswllt Gwasanaeth

Mae manylion cyswllt ar gyfer nifer o safleoedd ar gael ar gyfer y Gwasanaeth hwn. Dewiswch eich tref agosaf:

RSS