Children & Young Peoples Partnership - Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc

Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Powys » Blaenoriaethau » Teuluoedd yn Gyntaf

Teuluoedd yn Gyntaf


Cynllun Gweithredu cyntaf Teuluoedd Powys 2012 - 13

Families_First_Powys_Action_Plan_2013-14_bi.pdf

Mae Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Powys wedi mabwysiadu dull strategol a chydweithredol o weithio gyda phob corff partner cyhoeddus ym Mhowys trwy Aelodaeth o'r Bwrdd Gwasanaeth Lleol a Powys Yn Un. Cynllun integredig unigol yw hwn sy'n canolbwyntio ar ddiogelu a lleihau anghydraddoldeb. Mae'r model a'r fframwaith ar gyfer Teuluoedd yn Gyntaf wedi cael ei ddatblygu o ganlyniad i Asesiad Anghenion Strategol a ddynododd 10 Canlyniad ar gyfer y Cynllun Powys yn Un sef:

  1. Mae pobl ym Mhowys yn byw mewn cymunedau cefnogol, sy'n rhannu ac yn hunan ddibynadwy
  2. Mae pobl ym Mhowys yn cael budd o economi amrywiol a ffyniannus
  3. Mae pobl ym Mhowys yn cael y sgiliau i ddilyn eu huchelgeisiau
  4. Mae teuluoedd Powys yn ddiogel a gyda lleoedd cefnogol i fyw ynddynt
  5. Mae pobl ym Mhowys yn iachus ac yn annibynnol
  6. Mae pobl ym Mhowys yn byw mewn tai fforddiadwy o ansawdd dda
  7. Mae pobl ym Mhowys yn mwynhau amgylchedd glân, diogel a gwyrdd
  8. Mae pobl ym Mhowys yn ddiogel a hyderus ac yn teimlo felly
  9. Mae pobl ym Mhowys yn cael eu cefnogi i godi allan o dlodi
  10. Gall pobl ym Mhowys ddefnyddio'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt yn rhwydd

Mae'r Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf, ynghyd â Gwasanaeth Cymorth Integredig i Deuluoedd, a sefydlwyd o'r 1 Ebrill 2012, yn dod o fewn Canlyniad 4 ond byddant yn cael effaith ar nifer o ganlyniadau eraill.  Bydd gweithredu trwy Gynllun Powys yn Un hefyd yn mynd i'r afael â thlodi dan Ganlyniad 9 ac mae'r matrics yng Nghynllun Powys yn Un wedi'i fwriadu i ddylunio hyn.

Mae'r Cynllun Teuluoedd yn Gyntaf yn cydnabod fod plant, pobl ifanc a theuluoedd ym Mhowys angen cymorth sydd wedi'i gydlynu, ac wedi'i deilwra i'w hamgylchiadau unigol trwy un man cyswllt. Y flaenoriaeth yw datblygu gweithio lleol mewn partneriaeth (cymunedol) sy'n cynnig y cymorth hwn, ar draws ystod o faterion o berthnasedd, gan gynnwys diweithdra, addysg, iechyd, tai, rhianta, budd-daliadau, dyled, sgiliau a chamddefnyddio sylweddau.

Trwy'r broses o newid systemau cyfan, y bwriad yw sefydlu fframwaith cyfunol i ddatblygu a gwella gwasanaethau cyffredinol ynghyd â dull o rwydweithio i ddiogelu a diwallu anghenion plant diamddiffyn a'u teuluoedd. Prif elfennau'r strategaeth sy'n cael eu hyrwyddo yw:-

  • Gwaith atal gwell a gwaith ymyrraeth cynharach.
  • Cynnwys y plant a phobl ifanc mwyaf diamddiffyn ac sydd wedi'u difreinio gan gynnwys y rheini sy'n cael eu gwahardd a/neu sydd ag anghenion ychwanegol.
  • Pwyslais cryfach ar rianta a theuluoedd a darparu cymorth cyffredinol ac wedi'i dargedu yn well.
  • Datblygu a diwygio'r gweithlu er mwyn datblygu gweithlu gwasanaethau plant a phobl ifanc mwy medrus a hyblyg
  • Mwy o integreiddio ac atebolrwydd trwy'r ffordd y caiff gwasanaethau eu cynllunio, eu comisiynu a'u cyflwyno, yn enwedig ar lefel y gymuned.

Fel y bydd y dull hwn yn datblygu, rydym yn symud gam wrth gam tuag at Lwybr Cynyddol Cynhwysol (Progressive Universal Pathway) sy'n cydnabod y gall unrhyw deulu angen cymorth ychwanegol ar ryw adeg yn ystod bywyd eu plentyn. Bydd cymorth amserol a phriodol yn hanfodol i atal anawsterau i blant a theuluoedd rhag cynyddu. Mae'r model yr ydym yn ei gynnig yn edrych ar sefydlu'r fethodoleg hon dros gyfnod o leiaf pum mlynedd fel y bydd yn dod yn arfer prif ffrwd. Mae'r fethodoleg hon hefyd yn caniatau ar gyfer gwasanaethau cynhwysol i gael gafael ar gymorth/ymyrraeth ychwanegol a'i ddarparu i deuluoedd sydd â lefelau uwch o angen, na fyddent wedi bod ynghlwm â hwy yn draddodiadol.

Mae agweddau allweddol Teuluoedd yn Gyntaf yn cynnwys nifer o flaenoriaethau comisiynu gydag un o'r rhain yn dod o fewn y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol sef

  • Fframwaith Asesu Teuluoedd ar y Cyd Powys
  • Man cyswllt unigol trwy unrhyw wasanaeth cyffredinol neu wasanaeth wedi'i dargedu.
  • Fframwaith Asesu wedi'i fabwysiadu'n gyffredinol sy'n helpu dynodi cryfderau'r plentyn, unigolyn ifanc a'r teulu ynghyd â'r meysydd lle y gallant fod angen help a chymorth i wella eu gallu eu hunain a'u gwydnwch gan ddiwallu eu hanghenion eu hunain yn y pen draw.
  • Chwe Phanel Atebion Adnoddau Lleol lle y gall ystod o bartneriaid gynnig syniadau ac adnoddau i gefnogi'r anghenion a ddynodwyd ac adolygu cynnydd a'r canlyniadau a gyflawnwyd.
  • Dull Tîm o Amgylch y Teulu sy'n sicrhau fod y plentyn, unigolyn ifanc a'r teulu yn gweithio gyda'i gilydd ynghyd â'r gwasanaeth alllweddol a enwebwyd ar gynllun unigol a fwriadwyd i gwrdd â'r angen.

Rydym hefyd yn anelu tuag at set o wasanaethau sydd wedi'u symleiddio a all weithio fel rhan o'r Tîm o Amgylch y Teulu ac sydd wedi'u nodi fel blaenoriaeth o'n proses asesu anghenion. Mae'r rhain yn cynnwys:-

  • Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau Integredig (eisoes wedi'i gomisiynu gan Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Powys)
  • Gwasanaeth Anabledd Integredig i Blant a Phobl Ifanc
  • Gwasanaeth Cefnogi Ymddygiad a Theuluoedd Integredig (Haen 2)
  • Gwasanaeth Iechyd Meddwl a Lles Integredig
  • Mae ystod o ofynion seilwaith eraill wedi cael eu cynnwys o fewn y Cynllun Teuluoedd yn Gyntaf, megis:-
  • Cyd-leoli gwasanaethau ar yr un safle er mwyn lleihau teithio a dryswch
  • Cyfranogiad gwella gan blant, pobl ifanc a'u teuluoedd wrth gynllunio, datblygu a chyflwyno gwasanaeth
  • Gwybodaeth a data gwell i helpu teuluoedd a phobl broffesiynol i ddynodi anghenion yn gynt, osgoi dyblygu a ffyrdd cliriach o gyfeirio pobl at ble i gael help a chymorth
  • Gwella sgiliau a gallu'r gweithlu i gyflwyno'r holl bwyntiau uchod.

Am ragor o wybodaeth ar Deuluoedd yn Gyntaf yng Nghymru http://wales.gov.uk/topics/childrenyoungpeople/parenting/help/familiesfirst/?lang=en