A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Bydd Treth y Cyngor yn cael ei gasglu i helpu i dalu am wasanaethau lleol fel ysgolion, ffyrdd, llyfrgelloedd, yr heddlu, tân a chasglu gwastraff. Mae Treth y Cyngor yn daladwy ar bron pob eiddo domestig.
Mae dwy ran i'r bil Treth y Cyngor sylfaenol. Mae a wnelo 50% â'r eiddo, a 50% â'r bobl sy'n byw yno. Codir yr elfen 50% sy'n ymwneud â'r bobl sy'n byw yma ar y sail fod dau neuy fwy o bobl yn byw mewn eiddo.
Bydd y Swyddog Rhestru yn Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gosod pob eiddo mewn 'band' penodol. Yna bydd Cyngor Sir Powys yn gosod tâl ar gyfer pob band.
Bydd gwasanaeth treth y cyngor yn rhoi gwybodaeth i ddeiliaid tai am eu treth y cyngor a'r taliadau. Gallai hyn gynnwys gwybodaeth am daliadau, ôl-ddyledion, cymhwysedd i gael gostyngiad ac ati a chopïau o filiau.
Nodwch eich cyfeirnod Treth y Cyngor bob tro pan fyddwch yn gwneud ymholiad am eich cyfrif.