A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Trethi Busnes

Beth yw Trethi Busnes?

Mae'r trethi annomestig, neu'r trethi busnes, a gesglir gan gynghorau lleol yn ffordd y gall busnesau ac eraill sy'n meddiannu eiddo annomestig wneud cyfraniad tuag at gostau gwasanaethau lleol. Rhoddir y trethi mewn cyllideb gyfunol gan y llywodraeth ganolog a'u hailddosbarthu i gynghorau lleol yn unol â nifer y bobl sy'n byw yn yr ardal. Defnyddir yr arian hwn, ynghyd â refeniw gan drethdalwyr y cyngor, grant cymorth refeniw a ddarperir gan y Llywodraeth a symiau penodol eraill, i dalu am wasanaethau a ddarperir gan eich cyngor lleol ac awdurdodau lleol eraill yn eich ardal.

Gwerth Trethadwy

Heblaw am eiddo sy'n cael eu heithrio rhag talu Trethi Busnes, mae gan bob eiddo annomestig werth trethadwy sy'n cael ei osod fel arfer gan swyddogion prisio Asiantaeth y Swyddfa Brisio, Asiantaeth o fewn Cyllid y Wlad. Mae'n llunio a chynnal rhestr lawn o werthoedd trethadwy.

Mae gwybodaeth gynhwysfawr ar  Wefan y Swyddfa Brisio ynglyn â phrisio eiddo busnes. Hefyd, mae cyfleuster chwilio ar y wefan i'ch galluogi i weld beth yw'r gwerth trethadwy presennol ar gyfer eich eiddo.

I weld ein Polisi Biliau, Casglu ac Adennill

Billing_and_Collection_Policy_cy.doc

Dolenni Gwybodaeth Trethi Busnes:

Beth os oes gennyf ymholiad ynglyn â Threthi Busnes?

Sut ydw i'n gwneud taliadau Trethi Busnes?

Gwefan y Swyddfa Brisio

Yn ol i Hafan Treth y Cyngor a Budd-daliadau

 

 

Cyswllt Gwasanaeth

Mae manylion cyswllt ar gyfer nifer o safleoedd ar gael ar gyfer y Gwasanaeth hwn. Dewiswch eich tref agosaf:

RSS