A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Newyddion Diweddaraf

25.07.12

Cludwyr y Fflam yn mynychu Cyfarfod Croeso i ddathlu’r Gemau Olympaidd

Cludwyr y Fflam Olympaidd
Yn yr achlysur roedd (o'r chwith) Kevin Hamilton, Hannah Charnley, Y Cyngh David Meredith, Y Cyngh David Jones, Adele Nicoll, a Colin Davies.

I gyd-daro â dechrau’r Gemau Olympaidd yng Nghaerdydd y prynhawn yma (25 Gorffennaf), cynhaliodd Cyngor Sir Powys gyfarfod croeso ar Faes y Sioe Fawr i ddathlu’r Gemau a bywydau iach a gweithgar yn y sir.

Ymysg y gwesteion a wahoddwyd roedd detholiad o Gludwyr y Fflam o Bowys a gymerodd ran yn 
Nhaith Gyfnewid y Fflam Olympaidd a aeth drwy Fachynlleth, Llanymynech a’r Trallwng fis Mai.

Ymhlith y rhain roedd Adele Nicoll, myfyrwraig yn Ysgol Uwchradd Y Trallwng, Kevin Hamilton, sy’n hyfforddwr yng Nghanolfan Hamdden Bro Ddyfi, cystadleuydd Olympaidd Arbennig Colin Davies a Hannah Charnley sy’n ddisgybl yn Ysgol Penmaes.

Diolchwyd iddynt gan y Cyngh David Jones, Arweinydd Cyngor Sir Powys a’r Cyngh David Meredith, Cadeirydd Sir Frycheiniog, sef sir nawdd y Sioe Fawr eleni.

Cafodd y gwesteion becyn fideo yn dangos y gweithgareddau Olympaidd ar hyd a lled y sir, gan gynnwys Taith Gyfnewid y Fflam, y Gemau Mini-Olympaidd yr oedd mwy na 4,000 o blant ysgol yn rhan ohonynt dros y misoedd diwethaf, ac amrywiol achlysuron athletau a Pharalympaidd.

“Mae Powys yn lle gwych ar gyfer chwaraeon a ffyrdd iach a gweithgar o fyw, ac rydym yn ffodus iawn fod gennym rai o’r mannau gwyrdd prydferthaf ac amgylchedd iach,” meddai’r Cyngh Jones. “Rydym wedi llwyddo i ddangos hyn i’r byd pan ddaeth y Fflam Olympaidd yma fis Mai”.

“Hoffwn i ddiolch i Gludwyr y Fflam sy’n cynrychioli’r 23 o Bowys a redodd gyda’r fflam Olympaidd am helpu i roi’r sir ar y map. Gobeithio iddyn nhw fwynhau’r digwyddiad a pharhau i gael ysbrydoliaeth yn ei sgil, er mwyn datblygu eu mentrau ym maes gemau neu elusennau.”

Rhoddwyd cydnabyddiaeth hefyd i ymgyrch Dulliau Iach o Fyw y cyngor, sy’n annog trigolion i fwynhau teithio ar gefn beic a mynd am dro ar rai o lwybrau hardd y sir ac yn anelu at wella dulliau o fyw staff y cyngor.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y gwaith yma trwy ddyfarnu Gwobr Safon Blatinwm i’r Sir fel rhan o’u menter Safon Iechyd Corfforaethol.

“Yn ogystal â darparu cyfleusterau gwych ar gyfer y trigolion, rydym hefyd yn credu ei fod yn bwysig canolbwyntio ar iechyd a lles ein gweithwyr. Ni yw’r cyflogwr mwyaf yn y sir, ac ymgyrch Dulliau Iach o fyw sydd wedi ein helpu ni i wneud hynny.

Ychwanegodd: “Hoffwn hefyd dalu teyrnged i’r aelodau o staff sydd wedi gweithio mor galed i drefnu’r digwyddiadau Olympaidd a gynhaliwyd. Mae llawer o waith yn digwydd yn y cefndir i sicrhau bod modd cynnal yr holl achlysuron hyn yn llwyddiannus.”


23.06.12

Llanidloes yn mynd i'r eithaf gyda'r X Games

X Games yn Llanidloes

Am ddiwrnod cyfan, roedd Llanidloes yn un o gyrchfannau pwysig byd chwaraeon wrth i'r dref groesawu achlysur X Games i Bowys am y tro cyntaf erioed. Y nod oedd annog plant gydag ond ychydig o ddiddordeb mewn chwaraeon traddodiadol i roi cynnig ar rywbeth ychydig yn wahanol. 

Caewyd Stryd y Dderwen Fawr i draffig, a daeth dros 100 o bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed at ei gilydd i gymrd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon ar y strydoedd, er enghraifft pêl-fasged cadair olwyn a phêl-fasged stryd, gymnasteg rydd, sglefr-fyrddio, saethyddiaeth, sbrintio stryd a dawnsio a llafar-ganu'r anogaeth. Roedd campau barcuta pŵer a beicio mynydd hefyd yn digwydd ychydig y tu allan i ganol y dref.

Difyrrwyd y dyrfa gan berfformiad tîm beicio mynydd Savage Skills a'u synnodd gydag amrywiaeth o styntiau a thriciau ar ddwy olwyn.

Dywedodd Tricia Turner, Swyddog Datblygu Chwaraeon Cyngor Sir Powys: “Mae Chwaraeon Powys wedi cynnal nifer fawr o achlysuron ar hyd a lled y sir i ddod ag ychydig o'r chwiw Olympaidd i'r ardal, a hwn oedd y digwyddiad cyntaf i ddod â gweithgareddau nad oeddent yn rhai traddodiadol i sylw pobl ifanc.  

“Rydym yn gobeithio bod yr holl ddigwyddiadau rydym wedi eu trefnu, er enghraifft y digwyddiadau Mini Olympaidd sydd wedi digwydd ledled y sir, yn darparu treftadaeth chwaraeon barhaol i Bowys am flynyddoedd.”

Dywedodd Katie Hamer, Swyddog Datblygu Chwaraeon: "roedden ni'n ffodus iawn gyda'r tywydd, ac rydyn ni'n falch iawn bod cymaint wedi dod a bod popeth wedi mynd rhagddo'n ddidrafferth. 

“Roedd yn destun mwynhad gweld pobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithgareddau nad oedden nhw'n rhai traddodiadol, a gobeithio y byddwn ni'n gweld pobl yn fwy brwdfrydig dros gymryd rhan mewn chwaraoen o ganlyniad i hynny.”

 

22.06.12

Yr amrywiaeth gweithgareddau sydd ar gael ar gyfer yr Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol

Athletau ysgol

Gyda'r Gemau Olympaidd ar ein gwarthaf, bydd ysgolion ledled Powys yn paratoi eu disgyblion i fynd i ysbryd yr Wyl trwy gymryd rhan yn yr Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol, rhwng 25 a 29 Mehefin.

Nod y fenter yw annog plant i gymryd rhan mewn mwy o chwaraeon Olympaidd a Pharalympaidd ac arddel gwerthoedd y Gemau. Y llynedd, fe gymerodd bedair miliwn o bobl ifanc ran yn nathliad mwyaf Prydain o chwaraeon ysgol, a disgwylir llawer mwy y tro yma.

Wedi cynnal saith achlysur Mini-Olympaidd llwyddiannus dros y misoedd diwethaf, bydd Cyngor Sir Powys yn cynnal gweithgareddau tebyg yn Llanidloes ar 25 Mehefin, Y Drenewydd ar 27 Mehefin a Llanfair-ym-Muallt y diwrnod canlynol. Bydd saith arall yn dilyn yr Wythnos Chwaraeon Ysgol, felly bydd dros 4,000 o ddisgyblion yn cymryd i gyd

Bydd myfyrwyr Ysgol Uwchradd Crughywel hefyd yn cael cyfle i roi cynnig ar chwaraeon newydd yn ystod eu horiau cinio, gan gynnwys saethyddiaeth, pêl-droed ddall, pêl-fasged o gadair olwyn, boccia, golff, tae kwondo a thennis gydol yr wythnos a bydd disgyblion Ysgol Uwchradd Gwernyfed yn gallu cymryd rhan mewn gwersi paffio a jwdo.

Bydd cyfarfod athletau i ysgolion mawr hefyd yn cael ei gynnal yn Ysgol Gynradd Cefnllys ddydd Mawrth 26 Mehefin, a bydd yr ysgolion llai yn cystadlu yn Ysgol  Gynradd y Groes ddydd Iau.

Mae gwyl griced i fechgyn hefyd wedi'i threfnu ar gyfer Dydd Llun 25 Mehefin i gyd-daro â Diwrnod Chwaraeon y Byd, sy'n helpu pobl ifanc i ddysgu am dimau, athletwyr a diwylliannau'r 205 gwlad fydd yn cystadlu yn y gemau olympaidd ac o ddangos sut y mae Llundain 2012 wedi creu cyfeillgarwch rhnwg pobl o bob rhan o'r byd. 

Daw gweithgareddau'r wythnos i ben gyda Gala Nofio Ysgolion Powys yn Aberhonddu ar y Dydd Gwener.

 

                                                                                                                                                              

19.06.12

Gemau X i gyrraedd strydoedd Llanidloes

Bydd cyfle i sgrialu yn y Gemau X

Yn union yng nghanol Llanidloes, bydd Stryd y Dderwen Fawr yn newid i fod yn arena campau eithafol rhwng 4 – 8 pm nos Sadwrn 23 Mehefin ar gyfer y Gemau X.

 

Prif nod y digwyddiad hwn fydd trefnu gweithgareddau am ddim i bobl ifanc sydd ddim yn cymryd rhan mewn campau traddodiadol, ond sydd am roi cynnig ar gampau newydd megis gymnasteg rydd, sgrialu a chodi hwyl.

 

Ymhlith y gweithgareddau eraill fydd saethyddiaeth, pêl-fasged stryd a chadair olwyn, sbrintio stryd, dawnsio stryd a barbiciw, gyda beicio mynydd yn ‘Kennel Fields’ a barcuto pŵer yn Ysgol Uwchradd Llanidloes.

 

Hefyd bydd arddangosfa stryd gan dîm campau beicio mynydd pennaf y DU, Savage Skills, sy’n arbenigo mewn llwyfannu sioeau rhyngweithiol i syfrdanu cynulleidfaoedd o bob oedran.

 

Rhaid i blant gofrestru o flaen llaw trwy’r Gwasanaeth ieuenctid, 5 x 60 neu grŵp CFFI.

 

10.06.12

Disgyblion yn mwynhau'r Gemau Mini Olympaidd.

Y cylchoedd Olympaidd
Disgyblion ym Machynlleth yn creu eu cylchoedd Olympaidd eu hunain

Er bod y fflam Olympaidd wedi hen fynd, mae ysbryd y Gemau yma o hyd ym Mhowys wrth i lu o ysgolion cynradd gymryd rhan yn eu Gemau Mini Olympaidd eu hunain yn dilyn Taith Gyfnewid y Fflam Olympaidd yn Y Trallwng a Machynlleth.

Daeth dros 750 o ddisgyblion o 17 o ysgolion cynradd o wahanol fannau yn y sir i gystadlu ac i gynnal eu fersiwn eu hunain o'r Seremoni Agoriadol yng Nghanolfannau Hamdden Bro Ddyfi a'r Flash.

Roedd pob ysgol yn cynrychioli gwlad wahanol trwy wisgo'r wisg a chrysau-t priodol a chludo baneri, ac fe enillodd Ffordun a Llanbrynmair wobrau am eu portreadau llawn dychymyg o Jamaica a'r Unol Daleithiau.


Cafodd y plant eu hyfforddi gan wirfoddolwyr, a chymryd rhan mewn karate, bowls, pel-fasged, ymaflyd codwm, saethu gyda dryll laser, pel-law, golff, boxercise, rhedeg rhydd, zumba a champau paralympaidd boccia, pel-droed dall, pel-foli cadair olwyn a phel-gol, yn ogystal a dysgu dawns y masgot Olympaidd.

Bu pawb wrthi'n perfformio hon yr un pryd yn y Seremoni ar y diwedd, lle cyflwynwyd band llawes pwrpasol i bob plentyn a oedd yn arddangos y gwerthoedd Olympaidd  sef penderfyniad, dewrder, ysbrydoliaeth, rhagoriaeth, parch, cydraddoldeb a chyfeillgarwch.

Dywedodd Cydlynydd Pobl Ifanc Cyngor Sir Powys Wendy Langford: "Er bod Taith Gyfnewid y Fflam Olympaidd wedi mynd heibio bellach, mae'n bwysig ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y cyffro a gynhyrchwyd ym maes ymarfer corfforol.

"Fy hoff ran i o'r diwrnod oedd gweld y plant yn perfformio'r dawnsfeydd o'r gwledydd roeddent yn eu cynrychioli, yn gweld ffrwyth yr holl waith caled roeddent wedi'i wneud a'r balchder oedd ganddynt yn eu perfformiad. Rhoddodd hyn ias i mi a wnaeth i mi deimlo ysbrydoliaeth a hud y Gemau Olympaidd.

"Diolch o galon i'r holl hyfforddwyr, clybiau cymunedol a chanolfannau hamdden am adael i ni ddefnyddio'u cyfleusterau a'u gwirfoddolwyr.  Hefyd hoffwn ddiolch i Goleg Powys. Yr oedd eu myfyrwyr yn broffesiynol iawn ac wedi cyflwyno hyfforddiant o safon uchel - roedd y plant wedi mwynhau'r profiad yma'n fawr iawn".

30.05.12

Miloedd yn tyrru i Bowys i ffarwelio â'r fflam Olympaidd

Hayley Lynch

Fe roddodd drigolion Powys ffarwel godidog i Daith Gyfnewid y Fflam Olympaidd Llundain 2012 yng Nghymru trwy dyrru i’w gweld wrth iddi deithio drwy Lanymynech a’r Trallwng cyn croesi’r ffin.

Roedd nifer y tyrfaoedd oddeutu 20,000 o bobl rhwng y ddau ddigwyddiad ar y dydd Mercher a’r digwyddiad ar y dydd Llun ym Machynlleth gan sicrhau bod y Daith Gyfnewid wedi cael ei chroesawu gan strydoedd dan eu sang ym mhob man yr oedd yn ymweld â hi yn y sir.

Croesawodd dyrfa anhygoel o 12,000 o bobl y Daith Gyfnewid wrth iddi ddod i’r Trallwng a oedd yn cynnwys bron i 3,000 o ddisgyblion o wahanol ysgolion o amgylch y sir.  Roedd y bloeddio uchel oedd yn croesawu Cludwyr y Fflam wrth iddynt redeg ar hyd y llwybr yn anhygoel. 

Er mai dim ond am ryw 3 munud yr oedd y fflam yn Llanymynech fe ddaeth tua 2,000 o bobl i lenwi ochrau’r ffordd i weld Pete Latham yn cludo’r Fflam ar hyd y briffordd cyn i’r confoi fynd ar ei ffordd tuag at y Trallwng.

Yr athletwraig Adele Nicoll oedd y cyntaf i redeg trwy’r dref a bu’n rhedeg o flaen ei hysgol uwchradd.  Mae’r ferch, 15 oed, yn bencampwr taflu pwysau iau a’r awgrym yw y bydd hi’n debygol o gystadlu yng ngemau Olympaidd y dyfodol.

Dywedodd: “Roedd rhedeg gyda’r Ffagl wedi rhoi cymaint o wefr i mi ac roedd cael pawb yn fy nghefnogi’n brofiad anhygoel.

“Roedd y Ffagl yn eithaf trwm ond dwi’n arfer taflu pwysau ond tra’r roeddwn yn rhedeg doeddwn i ddim wedi blino, roeddwn am gadw i fynd.

“Llwyddais i weld fy mam a fy nhad a fy hyfforddwr yn y dyrfa ond roedd mynd heibio fy ffrindiau yn gyffrous iawn.  Roedd gwybod eu bod yn gwaeddi fy enw ac yn gwaeddi amdanaf yn cŵl iawn.”

Aeth yr anrhydedd o fod y Cludwyr olaf yng Nghymru i Hayley Lynch sy’n feichiog iawn.  Roedd yn disgwyl rhoi genedigaeth i’w bachgen bach tri diwrnod yn ôl, ac er bu’n rhaid iddi redeg dwywaith y pellter a Chludwyr eraill y fflam oherwydd absenoldeb, llwyddodd Hayley i gludo’r fflam ar hyd y Stryd Lydan i Eglwys y Santes Fair lle cafodd ei throsglwyddo yn ôl i’r llusern am y tro olaf yng Nghymru.

Ond nid oedd yr hwyl drosodd i nifer o ddisgyblion wrth iddynt fynychu’r Ŵyl Olympaidd yng Nghanolfan Hamdden y Flash, y Trallwng ac fe gawsont gyfle i brofi sesiynau mewn nifer o chwaraeon gan gynnwys gymnasteg a phêl-droed dall.

30.05.12

Ryan yn rhedeg yn y Daith Gyfnewid y Fflam Olympaidd

Ryan Gardner

Cafodd ddisgybl o Ysgol Uwchradd y Trallwng gyfle i ddisgleirio wrth iddo gludo’r Ffagl Olympaidd drwy Groesoswallt o flaen torfeydd enfawr.

Roedd Ryan Gardner o Geri yn un o wyth o gludwyr y Fflam a gafwyd eu dewis i redeg yn y dref ar y gororau cyn i’r Fflam Olympaidd deithio ymlaen i Bowys i ymweld â Llanymynech a’r Trallwng.

Mae’r bachgen 12 oed yn aelod o rwydwaith ‘Get Set’ sydd a’r nod o ysgogi pobl ifanc i gymryd rhan yn Llundain 2012 a’r prosiectau cysylltiedig, yn ogystal â rhannu Gwerthoedd y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd o gyfeillgarwch, rhagoriaeth, parch, ysbrydoliaeth, penderfyniad, dewrder a chydraddoldeb.

Ar hyn o bryd, mae Ryan yn gapten ar dîm pêl-droed yr ysgol ac mae ei sgiliau ar y cae chwarae wedi rhoi’r cyfle iddo gynrychioli ei sir ond mae hefyd wedi llwyddo i gynnal safon ragorol yn ei waith ysgol.

Gan ddisgrifio ei brofiad o gludo’r Ffagl, dywedodd: “Roedd yn anhygoel, roedd yn brofiad gwych ac mae’n rhywbeth y byddaf yn ei gofio am weddill fy mywyd.  Wrth i mi redeg roeddwn yn gallu gweld fy neulu a’m ffrindiau i gyd yn y dyrfa, doeddwn i ddim am i’r profiad ddod i ben.

“Cefais fy enwebu am wneud yn dda yn academaidd ac ar y maes chwaraeon ac oherwydd hyn cefais fy newis gan yr ysgol i fod yn rhan o’r rhwydwaith ‘Get Set’.  Mae’n brofiad da iawn oherwydd nid oes llawer o bobl yn cael eu dewis felly dwi’n falch iawn.

“Rwyf newydd gael fy newis felly dyma’r peth cyntaf dwi wedi’i wneud sy’n gysylltiedig â’r prosiect sy’n anhygoel, ond dwi’n edrych ymlaen at wneud rhagor o bethau yn y dyfodol.”

28.05.12

Y Fflam Olympaidd yn cyrraedd Machynlleth

Stephen Doyle yn cludo'r Fflam drwy Fachynlleth

Cafodd Powys ei blas gyntaf ar y Gemau Olympaidd wrth i dref Machynlleth gael ei chynnau ar Daith Gyfnewid y Fflam Olympaidd trwy’r dref.

Daeth miloedd o drigolion a phlant ysgol i lenwi’r strydoedd, i chwifio’u baneri a gweiddi wrth iddynt aros i gael cipolwg prin ar y Fflam Olympaidd hanesyddol wrth iddi basio trwy’r sir am y tro cyntaf.

Pavlo Makogonchuk, llawfeddyg o’r Iwcraen, oedd y fflamgludwr cyntaf, ac fe glywodd fonllefau’r dyrfa fywiog wrth iddo redeg am 300m ar hyd Heol Pentrerhedyn. Yna, trosglwyddwyd y Fflam i Theresa Colley o Sir Gaerloyw, sydd wedi codi arian ar gyfer plant anabl, ac fe orffennodd hi ei hadran ger twr y cloc, gan godi arian ar gyfer plant anabl.

Un o’r trigolion lleol, Stephen Soyle redodd ddarn olaf y Daith Gyfnewid leol. Cododd symiau enfawr i’r Lleng Brydeinig ac mae wedi bod yn weithredol wrth hybu chwaraeon a’r celfyddydau yn ardal Machynlleth. Derbyniodd llawer iawn o gefnogaeth wrth iddo loncian a dawnsio ei ffordd yn ôl i Pen’rallt and Heol y Doll cyn i’r confoi droi am Fangor.

Darparwyd adloniant gan dri o gerbydau’r noddwyr, sef Coca Cola TSB a Samsung, a’r strydoedd yn llawn lliw a’r haul yn tywynnu, roedd yn bendant yn ddiwrnod na fyddwn i fyth yn ei anghofio. Roedd yn bendant yn ddiwrnod na fyddwn i’n ei anghofio’n rhwydd.

Yn ystod y prynhawn, dechreuodd rhai o’r ysgolion a ddaeth i weld y Daith Gyfnewid fynd ati i fwynhau eu Gŵyl Olympaidd eu hunain yng Nghanolfan Hamdden Bro Ddyfi. Wedi’r seremoni agoriadol, fe gynrychiolodd disgyblion y gwahanol siroedd yn eu hoff chwaraeon, gan gynnwys athletau, gymnasteg a boccia, sy’n gam Paralympaidd.

Ddydd Mercher (30 Mai) bydd y Daith Gyfnewid yn dod i mewn i’r sir unwaith eto pan fydd y rhedwyr yn cludo’r fflam trwy Lanymynech tua 10.30 o’r gloch cyn teithio trwy strydoedd Y Trallwng ychydig cyn 11.00 o’r gloch.

 

25.05.12

Y Ffagl Olympaidd yn nesáu at Bowys

Taith Gyfnewid y Fflam Olympaidd

Mae’r torfeydd mawr a’r haul di-ben-draw wedi cyfrannu at y cyffro sy’n cael ei brofi gan y cyhoedd Prydeinig wrth i Daith y Fflam Olympaidd symud drwy’r wlad, ac wythnos nesaf tro Powys fydd hi i weld yr olygfa anhygoel.

Dydd Llun bydd y Fflam Olympaidd yn cael ei chario drwy strydoedd Machynlleth ychydig ar ôl 10 o’r gloch y bore, cyn ei bod yn gadael Cymru ar ôl ymweld â Llanymynech am tua 10.30 y bore a’r Trallwng am tua 10.50 y bore.

Bydd miloedd o ddisgyblion o wahanol ysgolion o amgylch y sir yn mynychu’r digwyddiad, ac yn sicr bydd nifer o drigolion o’r tair cymuned ac o bell yn manteisio ar y cyfle i wylio’r Daith Gyfnewid fel sydd ddigwydd mewn mannau eraill hyd yma.

Cynghorir gwylwyr i gyrraedd tuag awr o flaen llaw er mwyn manteisio ar y mannau gwylio gorau.  Bydd y mannau gorau i weld y Ras Gyfnewid ar ochr chwith y ffordd a bydd yna gyfle i gael nwyddau am ddim o’r noddwyr hefyd, fodd bynnag bydd popeth i’w weld o’r ochr dde hefyd.

Er mwyn creu cymaint o le gwylio ag sy’n bosib ar hyd y llwybr bydd cyfyngiadau parcio ar Heol Pentrerhedyn a Heol Penrallt ym Machynlleth, yn ogystal ag ar Stryd Lydan yn y Trallwng.  Disgwylir y bydd y rhain wedi clirio erbyn 2 o’r gloch y prynhawn ym mhob digwyddiad.

Os bydd y tywydd braf yn parhau, cynghorir gwylwyr i ddod ag eli haul a ddigon o ddŵr gyda hwy er mwyn gwneud yn siŵr nad ydynt yn gorboethi.

Mae busnesau ar hyd llwybr y Daith Gyfnewid yn cael eu cynghori i beidio â threfnu bod unrhyw nwyddau yn cael eu dosbarthu ar ôl 7.30 y bore gan na fydd unrhyw fynediad i gerbydau tan ar ôl i’r ardal gael ei chlirio. 

Wrth i’r Ffagl deithio drwy’r cymunedau, bydd ffyrdd yn cael eu cau yn eu tro  gan yr heddlu, ond unwaith y bydd y confoi wedi teithio drwy’r ardal bydd y ffyrdd hyn yn cael eu hailagor.  Rhybuddir modurwyr i ddisgwyl rhywfaint o oedi ar y diwrnod.

Bydd gwyriad mewn grym o amgylch Llanymynech ar 30 Mai a bydd hefyd mewn grym o gyffordd Pont Mardy yr A483, i’r de o Landysilio, ar hyd y B4393 trwy’r Amwythig tuag at Groesoswallt.  Bydd y ffordd ar gau o 9.30 y bore hyd nes bod y Daith Gyfnewid wedi mynd trwy’r pentref.

Mae mapiau yn dangos y llwybr a mannau eraill o bwys megis toiledau a meysydd parcio ar gael trwy fynd i www.powys.gov.uk/olympics, ynghyd â rhagor o wybodaeth a chwestiynau cyffredin.  Gallwch gael rhagor o wybodaeth hefyd drwy ffonio 0845 602 7030.

Bydd Cyngor Sir Powys hefyd yn trydar o’r digwyddiad, ac os hoffech gael y newyddion diweddaraf yn ystod y ddau ddiwrnod dilynwch @PowysCC ar Twitter.

Os nad yw’n bosibl i chi gyrraedd y cymunedau i wylio’r digwyddiad, mae’r BBC yn darlledu’n fyw wrth i’r Ffagl deithio drwy’r DG ewch i www.bbc.co.uk/torchrelay.

 

23.05.12

Gwybodaeth bwysig i bobl sy'n mynychu Taith Gyfnewid y Fflam Olympaidd yn Llanymynech

Fflam Olympaidd

Oherwydd penderfyniad yr Asiantaeth Briffyrdd i gau ffordd yr A483 trwy Pant yn ystod Taith Gyfnewid y Fflam Olympaidd mae Cyngor Sir Powys wedi’i orfodi i osod gwyriad o amgylch Llanymynech o gyffordd yr A483 Pont Mardy, i'r de o Landysilio, ar hyd y B4393 trwy'r Amwythig tuag at Groesoswallt.

Bydd hyn yn golygu y bydd y ffordd ar gau o 9.30 a.m hyd nes bod y Daith Gyfnewid wedi teithio drwy'r pentref.  Dylai unrhyw un sydd am fynychu cam Llanymynech o'r Daith Gyfnewid gyrraedd o leiaf awr cyn yr amser y disgwylir y fflam am 10.30 am.

Gofynnir i'r bysiau sy'n cludo ysgolion i'r digwyddiad i osod arwydd yn eu ffenestr blaen i ddangos eu bod yn mynychu'r Daith Gyfnewid.

 

23.05.12

Casgliadau Machynlleth yn cael eu heffeithio gan Daith Gyfnewid y Fflam Olympaidd

Casgliadau ailgylchu

Oherwydd bod Taith Gyfnewid y Fflam Olympaidd yn teithio trwy Fachynlleth Ddydd Llun 28 Mai, ni fydd Cyngor Sir Powys yn gallu casglu deunyddiau ailgylchu o rai mannau o’r dref.

Mae’r eiddo y bydd yr achlysur yn effeithio arnynt yn y lleoedd canlynol:

• A487 Stryd Pentrerhedyn o’r gylchfan ar ymyl y dref hyd at Dwr y Cloc.
• A487 Heol Penrallt o Dwr y Cloc i’r Gofeb Ryfel.
• A487 Heol y Doll o’r Gofeb i’r Orsaf
• A489 Heol Maengwyn o Dwr y Cloc i gyffordd Forge Road junction
• Eiddo ar Heol y Banc, Ffordd Mynydd Griffiths a Lôn y Banc  sy’n arwain oddi ar y pedair stryd uchod.

Bydd casgliadau ailgylchu ar gyfer yr eiddo yma ar y diwrnod dilynol, sef Dydd Mawrth 29 Mai, felly rhowch eich blychau allan ar y diwrnod hwnnw yn lle. Bydd taflen yn cael ei dosbarthu i’r holl eiddo dan sylw'r wythnos nesaf.

 

18.05.12

Powys yn paratoi ar gyfer Taith Gyfnewid y Fflam Olympaidd

Taith Gyfnewid y Fflam Olympaidd

Anogir trigolion Powys yn daer i lenwi strydoedd Y Trallwng a Llanymynech ar 30 Mai i fod yn dystion i olygfa gyffrous Taith Gyfnewid y Fflam Olympaidd wrth iddi wibio trwy'r sir.

Yn yr achlysur unigryw yma bydd y Cludwyr a ysbrydolodd lawer yn cludo'r Fflam Olympaidd drwy'r strydoedd wrth iddi deithio o amgylch y wlad cyn cyrraedd y Stadiwm Olympaidd ar gyfer y seremoni agoriadol.

Yn ogystal â chynnig cyfle i gael cipolwg ar y Fflam arbennig hon, mae'r Daith Gyfnewid hefyd yn cynnwys cerbydau ac adloniant gan y noddwyr, sef Coca Cola, Samsung a Lloyds TSB a fydd yn anelu at greu awyrgylch carnifal ar hyd a lled y DU.

Disgwylir y bydd y Fflam i'w gweld yn Llanymynech rhwng 10.36am a 10.39am ac yna ymddangos eto yn Y Trallwng am 10.55am cyn gadael am 11.13am. Amseru bras yw hyn, gan fod ffactorau fel tywydd gwael, traffig trwm a thyrfaoedd yn gallu amharu ar yr amserlen.

Cynghorir y gwylwyr i gyrraedd tuag awr o flaen llaw i gyrraedd y mannau gwylio gorau, gan ein bod yn disgwyl llu o bobl, a thros 4,500 o blant yn cynrychioli 45 o ysgolion Powys a nifer o rai eraill o'r tu allan i'r sir i ddod i weiddi eu hanogaeth ar Gludwyr y Fflam yn y ddau achlysur, yn ogystal ag yn ystod gorymdaith debyg trwy Fachynlleth ar 28 Mai.

Dynodwyd mannau penodol i ddisgyblion yr ysgolion sefyll. Fodd bynnag, bydd digon o le i bawb arall. I gael y cyfle gorau i weld y Daith Gyfnewid a chael unrhyw roddion rhad ac am ddim oddi wrth y noddwyr, yr ochr chwith i'r ffordd yw'r orau, ond bydd modd gweld o'r ochr dde hefyd.

Gyda chymaint o bobl yn debygol o ddod i weld,  bydd cyfyngiadau parcio dros dro yn cael eu gosod ar Stryd Lydan Y Trallwng, i greu cymaint o le â phosibl i'r gwylwyr. Disgwylir y bydd y rhain wedi'u tynnu i lawr erbyn 2 o'r gloch.

Gofynnwyd i fusnesau ar hynt y Daith Gyfnewid beidio â threfnu i gerbydau ddosbarthu nwyddau ar ôl 7.30 y bore, gan na fydd cerbydau'n cael defnyddio'r ardal nes y bydd wedi'i chlirio.

Wrth i'r Fflam basio trwy'r cymunedau, bydd yr heddlu'n cau'r ffyrdd fesul cam, ond cyn gynted ag y bydd y confoi wedi teithio' trwy'r ardal honno, bydd y ffyrdd yn cael eu hailagor. Rhybuddir gyrwyr i ddisgwyl problemau gyda'r traffig ar y diwrnod.

“Rwyf wrth fy modd fod rhywbeth sy'n cael cymaint o gydnabyddiaeth â'r Fflam Olympaidd yn teithio trwy'r sir", meddai Arweinydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd David Jones.

“Rwy'n gobeithio y bydd trigolion o bob rhan o Bowys yn gallu dod i weld yr olygfa unigryw yma a mwynhau achlysur bythgofiadwy ar drothwy eu drws.”

 

18.05.12

Ar eich beic am Ddiwrnod o Hwyl i'r Teulu ar thema Seiclo

Diwrnod o Hwyl i'r Teulu ar Feiciau

Mae Canolfan Hamdden Bro Ddyfi yn paratoi ar gyfer y gemau Olympaidd yr haf hwn trwy gynnal Diwrnod o Hwyl i'r Teulu ar Feiciau ar 26 Mai gydag amrywiaeth eang o weithgareddau i annog pobl i fynd ar gefn eu beiciau.

Mae'r digwyddiad am ddim yma'n gyfle gwych i baratoi ar gyfer Ras Gyfnewid y Fflam Olympaidd sy'n mynd trwy Fachynlleth ddeuddydd yn ddiweddarach, gyda sesiynau'r bore a'r prynhawn yn cynnig cyfle i blant roi tro ar eu treiciau a'u gwibgerti, gan wylio pobl ar feiciau un olwyn yn perfformio a rhoi tro ar y ramp styntiau.

Bydd arddangosfa hefyd ar feiciau clasurol gan yr Arddangosfa Seiclo Genedlaethol, gemau beic Nintendo Wii i'w chwarae a'r cyfle i greu diod iachus ar feic "smwddi". Bydd plant sydd wrthi'n dysgu sut i seiclo hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn gwersi gallu seiclo.

Gall oedolion gal gwybodaeth ar ymuno â'u clwb seiclo lleol, gan gael archwiliad diogelwch a chynnal a chadw ar eu beic neu fynd ar daith "peloton" gymdeithasol 35 milltir a drefnir gan Glwb Seiclo Hafren.

I'r plant iau nad ydynt yn hollol barod i fynd ar ddwy olwyn, bydd castell gwynt a sioe bypedau ar gael hefyd, ynghyd â chrefftau ar thema seiclo a sesiynau paentio wynebau. Gall trigolion lleol hefyd gale cyfle i ymlacio gyda sesiwn nofio am ddim.

Bydd pethau'n dechrau prysuro fin nos pan fydd ymwelwyr yn gallu cyflwyno eu henwau i gystadlu mewn sesiwn rasio, lle bydd y cystadleuwyr yn rasio ar feiciau llonydd sydd wedi'u cysylltu â gliniadur. Bydd gwobrwyon i'r dynion a'r merched mewn cystadlaethau iau, cystadlaethau dan 14 a chystadlaethau hyn.

Gyda bar trwyddedig a bwyd gydol y dydd, mae'n ffordd berffaith i'ch teulu fynd i ysbryd y Gemau Olympaidd.

Mae'r achlysur yn cychwyn am 10am, a'r gystadleuaeth roler rasio yn dechrau am 4.30pm. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth trwy ffonio 016654 703300 neu edrych ar http://broddyfileisure.powys.gov.uk.

 

18.05.12

Athletwyr Powys yn Codi'r Faner dros Gymru

Daniel Jones
Enillodd Daniel Jones y fedal aur yn y gystadleuaeth nofio dull rhydd 50m

Mae athletwyr ifanc o Bowys wedi bod yn cystadlu yn erbyn goreuon y DU mewn pencampwriaeth genedlaethol.

Cynrychiolodd pedwar ar ddeg o bobl ifanc o Bowys Gymru yng Ngemau Ysgol Sainsbury's y DU 2012 - achlysur aml-gamp ar gyfer yr athletwyr ifanc gorau.

Yn y flwyddyn agoriadol yma, cynhaliwyd y gemau yn y Parc Olympaidd a mannau eriall y mis yma i adeiladu ar gyffro ac ysbrydoliaeth Gemau Olympaidd 2012.

Nod Gemau Ysgol Sainsbury's 2012 oedd creu lleoliad llawn ysbrydoliaeth a chymhelliant a fyddai nid yn unig yn rhoi cyfle i'n chwaraewyr ifanc dawnus ffynnu a pherfformio ar eu lefel uchaf, ond hefyd yn annog mwy o bobl ifanc y gymryd rhan mewn chwaraeon a llwyddo ynddynt.

Cynhaliwyd cystadlaethau mewn deuddeg camp, gyda 1,600 o athletwyr yn cystadlu.

Cyfunwyd pob un o'r deuddeg camp yn achlysur pedwar diwrnod a oedd yn ailgreu teimlad ac awyrgylch y Gemau Olympaidd, y Gemau Paralympaidd a Gemau'r Gymanwlad.

Roedd yr athletwyr o Bowys yn cynrychioli Cymru mewn amrywiaeth o gampau, ac mae pob un wedi ennill ei gap neu ei chap yn y rowndiau blaenoro. Dyma'r tîm:

Athletau
Adele Nicoll, Ysgol Uwchradd Y Trallwng

Badminton
Emilie Gwilt, Ysgol Uwchradd Y Trallwng

Cleddyfaeth                                                                                                         William Sturgeon, Ysgol Uwchradd Gwernyfed                                               Martha James, Coleg Crist, Aberhonddu
William James, Ysgol Uwchradd Gwernyfed
Aled Scudamore, Coleg Crist, Aberhonddu
Hannah Bevan, Ysgol Uwchradd Crughywel

Hoci
Ben Wigmore, Coleg Crist, Aberhonddu

Jiwdo
Kirsty Powell, Coleg Powys Aberhonddu

Nofio
Ffion Butler, Ysgol Uwchradd y Drenewydd                                                   Daniel Jones, Ysgol Uwchradd y Trallwng

Pêl-fasged Cadair Olwyn
Ben Jones, Ysgol Uwchradd Caereinion                                                           Frankie Jones, Ysgol Uwchradd Caereinion

Rygbi Saith Bob Ochr
Bronnie Jones, Coleg Powys Aberhonddu.

 

03.05.12

Anrhydedd badminton i Ysgol Uwchradd Aberhonddu

Rekhi a Saraswati Thapa gyda'u medalau
Rekhi a Saraswati Thapa gyda'u medalau

Mae Ysgol Uwchradd Aberhonddu wedi cipio'r prif wobrau mewn twrnamaint chwaraeon a ysbrydolwyd gan y Gemau Olympaidd.

Cynhaliwyd Pencampwriaethau Badminton ysgolion Powys yng Nghanolfan Chwaraeon Llandrindod fis diwethaf (dydd Sadwrn 21 Ebrill) gyda chwedeg o ddisgyblion ysgol uwchradd ar draws y sir yn cystadlu mewn tri grwp oedran.

Roedd y tri gorau ym mhob grwp oedran (13 ac iau, 15 ac iau, a 18 ac iau) yn derbyn medalau aur, arian ac efydd fel rhan o Gemau Powys a ysbrydolwyd gan Lundain 2012.

Ysgol Uwchradd Aberhonddu ddath i'r brig, diolch i ymdrechion Rekhi a Saraswati Thapa, a oedd â rhan yn wyth o fedalau'r ysgol.

Daeth Ysgol Uwchradd Llandrindod yn ail gyda thair medal aur, tair arian a thair efydd. Cafwyd perfformiadau cryf a chystadlu brwd hefyd gan Ysgol Crughywel (wyth medal), Ysgol John Beddoes (chwe medal) ac Ysgol Llanfair-ym-Muallt (pum medal), gydag Ysgol Uwchradd y Drenewydd yn cipio un fedal ar ôl sawl blwyddyn o beidio â chystadlu.

Dywedodd Matt James, Swyddog Datblygu Chwaraeon Ardal, Cyngor Sir Powys: “Roedd yn bleser gweld chwedeg o chwaraewyr ifanc yn cystadlu yn y twrnamaint hwn a phob un ohonynt yn frwd dros fadminton.

“Mae'r buddsoddiad mewn hyfforddi a chystadlaethau lleol yn dechrau talu ffordd, ac mae'r gamp wedi elwa'n sylweddol o'r rhaglen 5 x 60 mewn ysgolion uwchradd. Bellach mae cannoedd o blant yn chwarare'r gêm yn ystod yr awr ginio ac mewn clybiau ar ôl ysgol.”

Dyma'r enillwyr:

13 ac iau, bechgyn: Matthew Reynolds, Ysgol Uwchradd Crughywel

13 ac iau, merched: Emma Kolano-Rogers, Ysgol Uwchradd Llandrindod

13 ac iau, dwbl i fechgyn: Joseph Bishop-Connolly a Rhys Cadwallader-Jones, Ysgol Uwchradd Llandrindod

13 ac iau, dwbl i ferched: Chloe Devine, Ysgol Uwchradd Aberhonddu a Rosie Emerson, Ysgol John Beddoes.

15 ac iau, bechgyn: Rekhi Thapa, Ysgol Uwchradd Aberhonddu.

15 ac iau, merched: Saraswati Thapa, Ysgol Uwchradd Aberhonddu.

15 ac iau, dwbl i fechgyn: Andy Leonard and Tinagone Phonsen, Ysgol Uwchradd Llandrindod

15 ac iau, dwbl i ferched: Rosie Emerson a Rhian Powell, Ysgol John Beddoes

15 ac iau, dwbl cymysg: Rosie Emerson a Justin Sharp, Ysgol John Beddoes

18 ac iau, bechgyn: Brandon Lewis, Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt

18 ac iau, merched: Jess Rees, Ysgol Uwchradd Crughywel

18 ac iau, dwbl i fechgyn: Brandon Lewis a Conway Jones, Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt

18 ac iau, dwbl cymysg: Saraswati a Rekhi Thapa, Ysgol Uwchradd Aberhonddu 

30.04.12

Disgyblion i giniawa ar fwydlen ar thema'r Gemau Olympaidd

Bwydlen Olympaidd

Bydd disgyblion ar hyd a lled y sir yn ciniawa ar thema'r Gemau Olympaidd fis nesaf wrth i Gyngor Sir Powys baratoi bwydlenni i ysgolion i ddathlu achlysur y campau arbennig sydd i'w gynnal yr haf yma.

Mae gwasanaeth arlwyo'r cyngor wedi creu bwydlen arbennig i ddathlu'r Gemau Olympaidd yn Llundain dros yr haf. Bydd y fwydlen arbennig ar gael yn yr ysgolion cynradd ac uwchcadd o ddydd Llun 21 tan ddydd Gwener 25 Mai.

Bob dydd bydd gan y fwydlen thema unigryw i ddathlu'r Gemau Olympaidd, gan ddechrau gyda Diwrnod America i gydnabod y Gemau Olympaidd a gynhaliwyd yn Atlanta ym 1996 a gorffen ar y dydd Gwener gyda Diwrnod Prydain i ddathlu'r Gemau Olympaidd yn Llundain eleni.

Dywedodd Delyth Jones, Prif Reolwr Arlwyo'r Cyngor, "Mae'r Gemau Olympaidd yn eicon byd-eang ac yn un o brif ddigwyddiadau chwaraeon y byd, felly peth teilwng fyddai dathlu'r cyfle unigryw yma. Rydym wedi creu'r fwydlen arbennig yma gan obeithio  bydd y disgyblion yn mwynhau'r cynnyrch yn ystod yr wythnos.”

Bydd y fwydlen ddau gwrs mewn ysgolion cynradd ac uwchradd dros yr wythnos yn dilyn y fwydlen rownd y byd, gydag enw a blas y gwahanol wledydd bob dydd, yn seiliedig ar gyn leoliadau diweddar y Gemau Olympaidd:

Diwrnod Americal – Atlanta 1996 (Dydd Llun)

Diwrnod Awstralia – Sydney 2000 (Dydd Mawrth)

Diwrnod Groeg – Athen 2004 (Dydd Mercher)

Diwrnod Tsieina – Beijing 2008 (Dydd Iau)

Diwrnod Prydain – Llundain 2012 (Dydd Gwener)

 

26.04.12

Rob, Seren Tennis Bwrdd yn ymweld ag Ysgol Penmaes

Rob Davies
Rob Davies, Paralympian yn helpu disgyblion Penmaes i feistroli'r grefft o chwarae tennis bwrdd gyda help Rhos, masgot Olympaidd Powys. Yn bresennol hefyd oedd Nicky Davies a Tom Jones, cynorthwywyr dysgu a Beverley Tucker, y cydlynydd 5x60 ar gyfer Ysgolion Arbennig.

Mae disgyblion yn Ysgol Arbennig Penmaes yn Aberhonddu wedi cael cyflwyniad o'r radd flaenaf i dennis bwrdd pan fu Rob Davies, paraolympian yn ymweld â hwy.

Daeth y pencampwr o Aberhonddu, a ddewiswyd ar gyfer sgwad tennis bwrdd cadair olwyn Tîm Prydain Fawr ar gyfer Gemau Paraolympaidd yr haf hwn, i'r ysgol yn Heol y Gamlas i chwarae gemau yn erbyn y bobl ifanc yno cyn ateb eu cwestiynau.

Mae tennis bwrdd wedi bod yn weithgaredd poblogaidd yn ystod amser cinio yn yr ysgol, gan ddenu dros 25 o ddisgyblion yr wythnos lle y byddant yn chwarae gemau senglau a dyblau wythnosol.

Roedd ymddangosiad Rob yn wych i'r plant, a oedd wrth eu boddau i'w weld wrthi'n chwarae fel mae'n paratoi i fynd am yr aur yn Llundain ym mis Medi.

 

17.04.12

Ysgol Uwchradd Y Trallwng yn derbyn yr anrhydedd uchaf

Ysgol Uwchradd Aberhonddu gyda RHOS
Tîm dan 16 oed Aberhonddu a gollodd yn y gêm derfynol gyda RHOS, masgot Powys

Mae Ysgol Uwchradd Y Trallwng wedi derbyn yr anrhydedd uchaf mewn twrnamaint chwaraeon a ysbrydolir gan y Gemau Olympaidd.

Cynhaliwyd twrnameintiau hoci dan 14, 16 a 18 oed Ysgolion Uwchradd Powys yn ddiweddar, gydag Ysgol Uwchradd Y Trallwng yn cyrraedd y rownd derfynol ym mhob categori oedran.

Yn y gêm dan 14 oed, llwyddodd Y Trallwng i guro tîm o Ysgol Uwchradd Aberhonddu. Yn y categori dan 16 oed, Ysgol Uwchradd Crughywel oedd y buddugwyr. Llwyddodd Y Trallwng i gyrraedd y rownd derfynol ar gyfer y categori dan 18 oed, ond Coleg Crist yn Aberhonddu oedd y buddugwyr.

Y gystadleuaeth yw’r digwyddiad diweddaraf i’w gwblhau yn ‘Gemau Powys Games’ - cyfres o gystadlaethau a ysbrydolir gan Gemau Olympaidd Llundain 2012. Dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd disgyblion ysgolion uwchradd yn cystadlu am fedalau mewn 11 o ddigwyddiadau chwaraeon Olympaidd a Phara Olympaidd. Yn debyg iawn i’r gemau Olympaidd, bydd y cystadleuwyr sydd naill ai’n dod yn gyntaf, ail neu drydydd yn derbyn pwyntiau a fydd yn mynd tuag at dabl medalau cyffredinol.

Dywedodd Gareth Oldham, Rheolwr Datblygu Chwaraeon Cyngor Sir Powys: “Nod y syniad tu cefn i Gemau Powys Games yw arwain at adfywiad chwaraeon cystadleuol yn ysgolion uwchradd Powys, gan ddarparu etifeddiaeth briodol i’r sir wedi Gemau Olympaidd Llundain 2012.

“Rydym yn llongyfarch Ysgol Uwchradd Y Trallwng am ennill y gystadleuaeth ddiweddaraf. Mae hoci yn parhau i fynd o nerth i nerth ym Mhowys ac rydym yn diolch i’r athrawon Addysg Gorfforol am gefnogi’r gêm a helpu i ddatblygu chwaraewyr ieuainc.

 

29.03.12

Sêr y byd chwaraeon yn disgleirio mewn noson wobrwyo

Clwb Hoci Aberhonddu
Gweler Clwb Hoci Aberhonddu,sef Tîm y Flwyddyn yn y llun ochr yn ochr â Matt Elias

Anrhydeddwyd sêr y byd chwaraeon yn Ne Powys yng Ngwobrau Chwaraeon Brycheiniog a Maesyfed.

Tîm Datblygu Chwaraeon Cyngor Sir Powys oedd yn cydlynu’r gwobrau i gydnabod a dathlu llwyddiannau unigolion a thimoedd lleol sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon ar bob lefel.

Y gwestai arbennig oedd y cyn athletwr rhyngwladol a Hyrwyddwr ‘Ysbrydolwyd gan 2012’ Powys, Matt Elias.  Yn arwain y noson am yr ail flwyddyn oedd y cyn- gricedwr enwog Peter Walker.

Dyma restr o enillwyr Gwobrau Chwaraeon Brycheiniog a Maesyfed:

-  Arweinydd Chwaraeon Ifanc – Adam Jones

-  Gwirfoddolwr y Flwyddyn – David Sennitt

-  Tîm y Flwyddyn  (Adran Iau) – Tîm Rygbi Dan 10 Clwb Rygbi Aberhonddu

-  Tîm y Flwyddyn (Adran Hŷn) – Tîm Bowls y Brodyr Weale

-  Hyfforddwraig – Frances Bateman

-  Hyfforddwr  – Richard Jones

-  Clwb y Flwyddyn – Clwb Hoci Aberhonddu 

-  Chwaraewr Ifanc Anabl  y Flwyddyn – Morgan Jones

-  Chwaraewr Iau y Flwyddyn (Dan 12) – Luke Davies

-  Chwaraewr ifanc y Flwyddyn (Dan 18) – Rhianwedd Price

-  Personoliaeth Chwaraeon Anabl y Flwyddyn – Shain Lewis

- Gwasanaethau Amlwg i Chwaraeon – Michael King, Derek Osborne, Brian Prosser, David Vaughan 

-  Gwobr Cyrhaeddiad Eithriadol – Chaz Davies 

-   Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn – Natalie Powell 

Dywedodd Matt James, Swyddog Datblygu Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol, Cyngor Sir Powys: “Mae’r gwobrau hyn yn gyfle gwych i ni ddathlu a chydnabod ymroddiad ymhlith ein chwaraeon lleol.  Yn ystod y flwyddyn Olympaidd hanesyddol hon, mae’n braf gweld bod dau o sêr y byd chwaraeon yng Nghymru wedi gallu ymuno â ni i gefnogi a dathlu chwaraeon a gweithgarwch corfforol ym Mhowys.”

Cynhaliwyd noson debyg yn Sir Drefaldwyn ar ddechrau’r flwyddyn.

26.03.12

Llysgenhadon Ieuainc yn barod i wneud gwahaniaeth

Llysgenhadon Ieuainc yn barod i wneud gwahaniaeth: Dominic Jones, Hanna Owen, Abbie Price, Hannah Charnley a Mollie Gibbons, y Llysgenhadon Aur a drefnodd y diwrnod hyfforddi ‘adiStar’ yn Llandrindod.
Llysgenhadon Ieuainc yn barod i wneud gwahaniaeth: Dominic Jones, Hanna Owen, Abbie Price, Hannah Charnley a Mollie Gibbons, y Llysgenhadon Aur a drefnodd y diwrnod hyfforddi ‘adiStar’ yn Llandrindod.

Bydd grŵp o ddisgyblion ysgol uwchradd o bob cwr o Bowys yn annog eu cyd-ddisgyblion i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon fel rhan o’r paratoadau ar gyfer Gemau Olympaidd a Phara Olympaidd Llundain 2012.

Mae pob ysgol uwchradd ac ysgol arbennig yn y sir, yn ogystal â Choleg Powys, wedi enwebu dau ddisgybl fel llysgenhadon arian. Byddant hefyd yn cael eu galw’n arweinyddion ‘adiStar’. Mae tri deg pedwar o ddisgyblion wedi cael eu dewis fel Llysgenhadon Arian a byddant yn awr yn hyrwyddo chwaraeon a gwerthoedd Olympaidd a Phara Olympaidd i blant o fewn eu hysgolion a’u cymunedau.

Mae’r fenter yn rhan o’r Mudiad Llysgenhadon Ieuainc a’i nod yw galluogi ac ysbrydoli pobl ifanc i ddod yn fodelau rôl ac arweinyddion trwy chwaraeon, gan ddatblygu eu hyder a’u sgiliau er mwyn annog cynnydd gan eraill i gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol. Bydd yn cydnabod ac yn gwobrwyo arweinyddion chwaraeon ieuainc ymroddedig yn ysgolion a chymunedau Powys gyda hyfforddiant a chyfleoedd pellach.

Bu’r llysgenhadon ar ddiwrnod hyfforddi adiStar yn Llandrindod ar ddydd Llun (19 Mawrth) i’w paratoi ar gyfer eu rôl newydd. Roedd y diwrnod, a drefnwyd gan Bump o Lysgenhadon Aur Ieuainc Powys, yn cynnwys gweithgareddau difyr megis creu cymeradwyaeth (cheer) ar thema Olympaidd i stryd a Den Dregiau.

Dewiswyd Dominic Jones o Ysgol Uwchradd Maesydderwen, Hanna Owen o Ysgol Uwchradd Llanidloes, Abbie Price o Ysgol Uwchradd John Beddoes, Hannah Charnley o Ysgol Penmaes a Mollie Gibbons o Ysgol Uwchradd Gwernyfed fel Llysgenhadon Aur a bydd y Llysgenhadon Arian yn eu cefnogi.

Roedd y llysgenhadon yn ddigon ffodus i gael Hazel Wilson a benodwyd yn ddiweddar fel Rheolwr Bowlio Lawnt Cymru ar gyfer y Gemau Gymanwlad yng Nglasgow, i ddod i’r diwrnod hyfforddi. Siaradodd Hazel â’r Llysgenhadon am ei phrofiadau a rhoi ambell ganllaw iddynt ar gyfer y dyfodol. Cafodd y disgyblion gyfle i siarad â hi a gofyn unrhyw gwestiynau.

Dywedodd Wendy Langford, Cydlynydd Pobl Ifanc Gweithgar y cyngor: “Roedd hi’n wych gweld y bobl ifanc brwdfrydig hyn yn y diwrnod hyfforddi. Maent wirioneddol eisiau gwneud gwahaniaeth a mynd yn ôl i’w hysgolion fel y gallant ysbrydoli eraill i fod yn weithgar a theimlo’n gyffrous am y Gemau Olympaidd a Phara Olympaidd.”

19.03.12

Cyffro Olympaidd yn taro strydoedd Powys

logo Llundain 2012

Bydd trigolion Powys yn cael cyfle unwaith mewn bywyd i weld drama Taith Cyfnewid Ffagl Olympaidd Gemau Llundain 2012 pan fydd y fflam hanesyddol yn pasio trwy strydoedd Machynlleth, Llanymynech a’r Trallwng ym mis Mai.

Bydd presenoldeb y fflam ym Mhowys yn cynnig y cyfle i bawb gymryd rhan yn y paratoadau ar gyfer strafagansa chwaraeon yr haf hwn, a’r gobaith yw y bydd trigolion o bob cwr o’r sir yn llenwi ochrau’r strydoedd i rannu’r cyffro wrth ddathlu campau Cludwyr ysbrydoledig y Ffagl.

Bydd y cyfle cyntaf i bobl gael cip ar y digwyddiad hanesyddol hwn ar 28 Mai pan fydd y Daith Gyfnewid yn cyrraedd Machynlleth am 10.07am, ac yn teithio trwy’r dref ar hyd ffordd yr A483 cyn mynd yn ei blaen tuag at Fangor.

Bydd wedyn yn dychwelyd i Bowys deuddydd yn ddiweddarach pan fydd yn mynd trwy Lanymynech ychydig wedi 10.30am cyn ymddangos yn Y Trallwng am 10.55am, lle bydd yn mynd ar hyd Ffordd Salop a’r Stryd Lydan cyn gadael Cymru am 11.13am i gyrraedd ei chyrchfan terfynol sef y Stadiwm Olympaidd.

Wedi teithio o’i chartref ysbrydol yn Olympia, Groeg, bydd y fflam yn dechrau ar daith 8,000 o filltiroedd o amgylch Prydain cyn cyrraedd y Stadiwm Olympaidd ar 27 Gorffennaf i oleuo’r crochan yn y Seremoni Agoriadol, gan nodi agor Gemau Olympaidd 2012 yn swyddogol.

Dywedodd Jeremy Patterson, Prif Weithredwr Cyngor Sir Powys: “Mae’n anrhydedd enfawr i Bowys groesawu’r fath eicon bydol megis y Ffagl Olympaidd ac rydym yn siŵr y bydd yn ddiwrnod bythgofiadwy.

“Mae Taith Cyfnewid y Ffagl yn gyfle gwych i’n trigolion gymryd rhan yn y Gemau Olympaidd, ac rydym yn gobeithio y bydd nifer fawr yn bresennol i gymeradwyo’r bobl ysbrydoledig sy’n gwneud cymaint o waith da yn ein cymunedau.

“Nod Cyngor Sir Powys yw datblygu a hyrwyddo nifer o weithgareddau i blant ac oedolion sy’n ymwneud â’r Gemau Olympaidd, a sicrhau fod y cyffro mae’r digwyddiad hwn yn ei greu yn helpu i adael etifeddiaeth o ran chwaraeon a diwylliant.”

Ychwanegodd Sebastian Coe, Cadeirydd LOCOG: ‘Heddiw, rydym yn dod â Taith Cyfnweid y Ffagl Olympaidd i fywyd. Mae’r Fflam yn symboleiddio’r ysbryd Olympaidd a bydd ei thaith o amgylch Prydain yn cyflwyno cyffro’r Gemau i’n strydoedd.

“Nawr fod pobl yn gwybod am y ffyrdd y bydd y Fflam Olympaidd yn cael ei chludo ar eu hyd a Chludwyr y Ffagl ar gyfer eu cymunedau, gallant gynllunio sut y gallant ddathlu a’i gwneud hi’n gyfnod Powys i ddisgleirio.”

Rhowch wybod i ni!

Os oes gennych unrhyw newyddion am ddigwyddiadau sydd â thema Olympaidd neu Ras Gyfnewid y Dorch Olympaidd, rhowch wybod i ni a gallwn eu cyhoeddi ar y tudalennau hyn ac yn ein cyhoeddiadau!

Cysylltwch â'r tîm Cyfathrebu ar 01597 826937 neu anfonwch e-bost at jonathon.rogers@powys.gov.uk a rhoi gwybod i ni am sut yr ydych yn bwriadu dathlu'r Gemau Olympaidd.

Cymru yn 2012

Llywodraeth Cymru

I gael rhagor o wybodaeth am y gemau Olympaidd yng Nghymru ewch i flog Llywodraeth Cymru sy'n rhannu profiad pobl o'r Gemau.

RSS