A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Ym Mehefin 2009, fel yn 2004 cafwyd etholiadau i Senedd Ewrop ar system o gynrychiolaeth gyfrannol o'r enw ‘System d’Hondt'. Cynhelir etholiadau i Senedd Ewrop bob 5 mlynedd. Mae cyfanswm o 785 o aelodau yn y senedd, gyda deuddeng rhanbarth y Deyrnas Gyfunol yn anfon 72 aelod iddi. Mae Powys, sydd yn rhanbarth Cymru, yn anfon pedwar aelod i Senedd Ewrop.
Bydd yr etholiadau nesaf yn cael eu cynnal ym mis Mehefin 2014. Â
Mae dwy Etholaeth Seneddol yn Sir Powys: Brycheiniog a Sir Faesyfed a Sir Drefaldwyn.  Mae 646 o Aelodau yn Nhy'r Cyffredin, gyda Lloegr yn anfon 529, Cymru yn anfon 40, Yr Alban 59 a Gogledd Iwerddon 18. Caiff yr etholiadau eu cynnal ar system ‘cyntaf i'r felin’; cafodd yr etholiad diwethaf ei gynnal ar 6 Mai 2010, a bydd yr etholiad nesaf yn cael ei gynnal cyn mis Mehefin 2015.
Cynhaliodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei etholiadau diwethaf ym mis Mai 2011. Mae pob etholaeth seneddol yn anfon un Aelod Cynulliad trwy system 'y cyntaf i'r felin'. Yn ogystal â'r deugain aelod hynny, bydd ugain aelod arall yn cael eu hethol trwy system gynrychiolaeth gyfrannol, sy'n addasiad o 'System d’Hondt’. O dan y system honno, caiff Cymru ei rhannu'n bum rhanbarth, sy'n anfon pedwar aelod yr un. Mae etholaethau seneddol Sir Drefaldwyn a Brycheiniog a Sir Faesyfed o fewn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, tra mae etholaeth Seneddol De Clwyd o fewn rhanbarth Gogledd Cymru ac etholaeth seneddol Castell Nedd yn rhanbarth Gorllewin De Cymru ar gyfer ethol yr aelodau rhanbarthol hyn. Bydd yr etholiadau arferol nesaf ar gyfer y Cynulliad yn cael eu cynnal ym mis Mai 2016.
Mae 73 rhanbarth etholiadol yn Sir Powys, sydd yn anfon un aelod yr un i'r Cyngor. Mae'r trefi mwy yn cael eu rhannu'n sawl rhanbarth; er enghraifft, mae'r Drenewydd yn anfon pum aelod i'r Cyngor, tra bydd nifer o gymunedau yn dod ynghyd yn yr ardaloedd llai poblog i anfon un aelod. Caiff y Cyngor ei ailethol yn gyfan bob pedair blynedd, ac roedd yr etholiadau diwethaf i fod i gael eu cynnal ym mis Mai 2003. Serch hynny, nid oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n awyddus i gylch ethol cynghorau sir gyd-fynd â chylch y Cynulliad, felly defnyddiodd ei rym i newid dyddiad yr etholiadau i 10 Mehefin 2004. Mae etholiadau arferol nesaf y Cyngor Sir i gael eu cynnal y 2012. Pwy yw Cynghorwyr Sir Powys?
Cafwyd adolygiad o Drefniadau Etholiadol Cymunedau Sir Powys o dan Adran 57(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a ddaeth i rym ar 1 Mai 2008. Mae yma bellach 110 Cyngor Tref a chymuned ym Mhowys (roedd 111 yn flaenorol), gyda chyfanswm o 1,041 o Gynghorwyr Cymuned i'w hethol (1,078 yn flaenorol).  Mae'r cymunedau'n amrywio'n fawr yn ddaearyddol ac yn nifer y trigolion. Mae gan y lleiaf 143 o etholwyr a saith cynghorydd, ac mae gan y mwyaf 8,166 o etholwyr ac 16 o gynghorwyr. Mae'r rhan fwyaf o'r ardaloedd wedi'u rhannu'n wardiau a gynrychiolir gan nifer benodol o gynghorwyr, gan roi llais cliriach i drigolion ardal benodol o fewn y gymuned. Mae nifer o gynghorau yn berchen ar eiddo neu dir er budd y gymuned, tra mae eraill yn berchen ar gyfleusterau cymunedol, megis mynwentydd a neuaddau cymuned. Maent oll yn rhoi llais i'w cymuned a bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Cyngor Sir yn ymgynghori â hwy ar faterion lleol.Â
Nid oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n awyddus i gylch ethol cynghorau cymuned gyd-fynd â chylch y Cynulliad, felly defnyddiodd ei rym i newid dyddiad yr etholiadau i 10 Mehefin 2004. Cafodd etholiadau arferol diwethaf y Cynghorau Cymuned eu cynnal ar 1 Mai 2008. Bydd yr etholiadau arferol nesaf ar gyfer y Cynghorau Cymuned yn cael eu cynnal yn 2012.
Clercod Cynghorau Tref/Cymuned Powys
Cyfeiriad E-bost: electoral.services@powys.gov.uk
Teleffon: 01597 826717
Ffacs: 01597 826220
Cyfeiriad:
Gwasanaethau Etholiadol
Neuadd y Sir
Spa Road East
Llandrindod
Powys
LD1 5LG
Gweld manylion cyswllt Siaradwr Cymraeg ar gyfer y gwasanaeth yma