A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Tîm aml-asiantaeth yw Tîm Cymorth Integredig i Deuluoedd sy'n gallu gweithio'n ddwys gyda theuluoedd dros gyfnod penodedig i helpu newid dulliau teulu o fyw, gan wella'r canlyniadau i blant a phobl ifanc i gadw teuluoedd gyda'i gilydd.
Mae'r Tîm yn darparu gwasanaeth i deuluoedd sydd â'r angen mwyaf, a effeithir gan rieni sy'n camddefnyddio sylweddau. Mae'r Tîm yn gweithio gyda'r teulu i helpu i greu gwydnwch a sicrhau diogelwch y plentyn.
Mae ffocws y gwaith ymyrraeth ar ddynodi anghenion y teulu cyfan. Mae'r tîm yn gweithio'n ddwys dros gyfnod byr o amser, ac yn gweithio fel adnodd i'r teulu a phobl broffesiynol eraill sydd â chyfrifoldeb dros reoli achosion. Mae'r tîm yn gallu gweithio'n hyblyg i gynnwys aelodau'r teulu, gan gynnwys gwaith cyfnos a gwaith ar benwythnosau.
Er mwyn cael eich cyfeirio at y tîm, rhaid i'r teulu fod eisoes yn derbyn cymorth oddi wrth wasanaethau plant yr awdurdod lleol.
Trwy ddod ag ystod o staff medrus ynghyd, gellir cefnogi teuluoedd i oresgyn yr anawsterau y gallant o bosibl fod yn eu profi.
Mae'n bwysig fod rhieni yn derbyn cymorth dwys a bod eu plant yn cael eu diogelu - mae'r Tîm Cymorth Integredig i Deuluoedd yn delio gyda'r teulu cyfan.
Os bydd anghenion y plentyn yn cael eu trin, gall y tîm weithio gyda'r teulu i drafod y meysydd o bryder a gwneud gwelliannau positif a all alluogi'r teulu i fyw gyda'i gilydd eto. Fel arall, gall y gwasanaeth cymorth integredig i deuluoedd olygu dod o hyd i leoliadau addas yn gynnar yn y broses fel y gellir rhoi'r cyfleoedd gorau posibl i'r plant.
Gellir asesu ac ymateb yn briodol ac yn gyflym i newidiadau sydyn i sefyllfaoedd teuluol.
Mae'r Tîm yn gweithio i:-
Cyflwynwyd y Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 i gyflwyno rheoliadau i atgyfnerthu'r cymorth i blant a theuluoedd diamddiffyn trwy gyflwyno'r Gwasanaeth Cymorth Integredig i Deuluoedd er mwyn darparu cymorth dwys yn gynharach i deuluoedd lle mae rhieni sy'n camddefnyddio sylweddau yn cynyddu'r peryglon i'r plentyn gan arwain atynt yn cael eu derbyn i ofal.
Mae'r Gwasanaeth Cymorth Integredig i Deuluoedd (GCIiD)Â yn cael ei weithredu yng Nghymru mewn camau. Mae'r tri Cham I Arloeswyr wedi bod mewn grym ers mis Medi 2010 sef Casnewydd, Wrecsam a Merthyr Tudful/Rhondda Cynon Taf.
Ar 14 Gorffennaf 2011, fe wnaeth y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol gyhoeddi cyflwyno'r GCIiD mewn dwy ardal arall:
Mae consortiwm Canolbarth a Gorllewin Cymru yn unigryw i Gymru gan mai dyma'r unig Wasanaeth Cymorth Integredig i Deuluoedd sy'n cynnwys dau Fwrdd Iechyd ac awdurdodau lleol amrywiol.
Â
Pauline Higham
Rheolwr ArdalÂ
pauline.higham@powys.gov.uk
Ffôn: 01938 551823
Â
|
|
|
|
|
Â