A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Symud Ty

I wneud cais am dy, rhaid i chi lenwi ffurflen gais am dy, a chyfeirio at Ddatganiad Dyrannu Tai Cyngor Sir Powys. Mae copïau caled o’r rhain ar gael yn unrhyw un o’n swyddfeydd rhanbarthol. Os ydych yn cael trafferth i lenwi’r ffurflen, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglyn â’r wybodaeth sydd ei hangen arnom, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Dogfennau Perthnasol

Ffurflen Gais am Dy

125 K

Os ydych yn ddigartref neu'n cael eich bygwth â bod yn ddigartref, bydd rhaid i chi lenwi ffurflen gais, ond dylech gysylltu ag un o'r swyddogion digartrefedd am gyngor a chymorth.

To top

Pwy all wneud cais?

Gall unrhyw un 16 mlwydd oed a throsodd wneud cais am dy. Fodd bynnag, ni fydd rhai grwpiau yn gymwys. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Pobl benodol o dramor
  • Rhywun y mae eu hymddygiad yn cael ei ystyried yn annerbyniol (e.e. ôl-ddyledion rhent neu niwsans) ac yn ddigon difrifol i’w wneud yn anaddas i fod yn denant 

 

 

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ty cartwn

Ar ôl i ni dderbyn eich ffurflen gais, efallai y byddwn yn cysylltu â chi am ragor o fanylion neu gyngor. Pan fydd yr holl wybodaeth angenrheidiol gennym, byddwn yn anelu at brosesu’ch cais o fewn 7 diwrnod o’i dderbyn.

Byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych os ydych yn gymwys, ac os hynny, faint o bwyntiau rydych chi wedi'u cael. Mae ein datganiad polisi yn darparu manylion llawn am y Cynllun Pwyntiau, ac mae fersiwn byr ohono i’w weld dros y dudalen.

Byddwn yn ysgrifennu atoch pob 6 mis i wneud yn siwr eich bod yn dal i fod angen ty ac nad yw’ch amgylchiadau wedi newid. 

Os nad ydych yn fodlon

Os ydych yn anhapus gyda’r ffordd rydym wedi ymdrin â’ch cais, er enghraifft penderfyniadau yn ymwneud â’ch cymhwyster a’ch hawl i bwyntiau, gallwch ofyn am adolygiad. 

 

 

 

Derbyn cynnig

Ar ôl i chi gofrestru, byddwch yn cael eich ystyried am dai yn ôl eich oed, anableddau, maint eich teulu a’r dewisiadau rydych wedi eu nodi ar eich ffurflen gais. Gall eich swyddfa ranbarthol leol eich cynghori ynglyn â faint o dai addas sydd ar gael.

Pan fydd ty addas ar gael, efallai y byddwch yn derbyn llythyr datganiad o ddiddordeb. Fel arfer, bydd Llythyron Datganiad o Ddiddordeb yn cael eu hanfon at y 5 ymgeisydd sydd â’r cyfanswm pwyntiau uchaf. Rhoddir 5 diwrnod i bob ymgeisydd ddweud os oes ganddynt ddiddordeb mewn derbyn y denantiaeth. Yna, mae Llythyr Cynnig Terfynol yn cael ei anfon at yr ymgeisydd sydd â’r cyfanswm pwyntiau uchaf o blith y rhai sydd wedi datgan diddordeb. 

Cyswllt Gwasanaeth

Mae manylion cyswllt ar gyfer nifer o safleoedd ar gael ar gyfer y Gwasanaeth hwn. Dewiswch eich tref agosaf:

RSS