A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Sut ydym yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol

Cyfryngau cymdeithasol yw un o'r ffyrdd y mae Cyngor Sir Powys yn cyfathrebu gyda thrigolion, staff a phartneriaid.

Mae gennym broffiliau ar facebook (wyneblyfr), twitter (trydar), a flickr, a gallwch ddod o hyd i  restr o'n safleoedd cyfryngau cymdeithasol yma.

Rydym yn annog pobl i'n dilyn ni a byddwn yn postio gwybodaeth sy'n ymwneud â gwaith y cyngor sydd, yn ein barn ni, yn berthnasol i'r bobl sy'n ein dilyn.

Rydym hefyd yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol  i ymateb i gwestiynau a sylwadau sydd angen ymateb, a byddwn yn ymgynghori â thrigolion yn achlysurol.

Bydd cynnwys ein cyfryngau cymdeithasol yn cynnwys:

  • Cynnwys a gwybodaeth newydd am wasanaethau, mentrau, cyfarfodydd, digwyddiadau ac ymgyrchoedd
  • Mae mewnbwn RSS awtomatig o'n datganiadau i'r wasg a gyhoeddir ar ein gwefan
  • Byddwn ar adegau yn ail-bostio (ail-drydaru) gan gyrff cymunedol/sector cyhoeddus eraill ac unigolion sy'n berthnasol i Bowys, ond peidiwch â digio os na fyddwn yn ail-bostio eich cynnwys. Fel corff gyda chyfrifoldeb, gallai rhannu unrhyw wybodaeth gael ei ystyried fel cefnogi barn unigolyn neu gorff arbennig, ac mae'n bwysig ein bod yn parhau'n ddiduedd ac yn diogelu enw da'r cyngor.
  • Rydym yn cadw'r hawl i ddileu unrhyw wybodaeth o'n tudalen/proffil/mewnbwn 'twitter' sydd yn amhriodol, yn ein barn ni, ar gyfer safle cyhoeddus.

Hoffi, Dilyn a Rhwystro

Os ydych yn ein dilyn ar Twitter neu'n ein hoffi ar Wyneblyfr (Facebook), ni fyddwn yn eich dilyn chi / 'yn eich hoffi' chi yn ôl yn awtomatig. Peidiwch â digio, mae'r niferoedd yn gallu mynd yn rhy uchel i ni eu rheoli.

  • Byddwn weithiau yn dilyn neu'n hoffi pobl sy'n darparu gwybodaeth sy'n berthnasol i'n gwaith fel awdurdod lleol (er enghraifft, cyfrifon llywodraeth ganolog, y cyfryngau lleol a'n partneriaid) neu'r sawl y gallwn drosglwyddo eu gwybodaeth ymlaen er budd nifer o bobl leol.
  • O bryd i'w gilydd, rydym hefyd yn ceisio cynnig ein cefnogaeth i ymgyrchoedd lleol a chenedlaethol sy'n gysylltiedig â'n gwasanaethau.
  • Bydd adegau hefyd lle y byddwn angen hoffi neu dilyn cyfrif er mwyn cymryd rhan mewn sgyrsiau.
  • Gan ein bod yn hoffi neu'n dilyn rhywun, yn ail-drydaru neu'n rhannu eu gwybodaeth, nid yw hyn yn golygu ein bod yn eu cefnogi.
  • Os byddwn yn rhwystro eich cyfrif, bydd hyn yn ôl pob tebyg oherwydd eich bod wedi dilyn neu hoffi'r cyngor dim ond i hyrwyddo cynnyrch neu wasanaeth, neu eich bod wedi torri rheolau mannau cyfryngau cymdeithasol penodol (gweler Cymedroli)

Argaeledd

Efallai na fydd y safleoedd ar gael yn achlysurol ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddiffyg gwasanaeth os nad ydynt yn gweithio.

Monitro cyfrifon, ac ymateb

Mae ein prif gyfrifon cyfryngau cymdeithasol i Gyngor Sir Powys yn cael eu monitro yn ystod oriau gwaith dyddiau'r wythnos. Caiff eraill eu monitro yn ystod oriau agor (er enghraifft, canolfannau hamdden).

Os byddwch yn gofyn cwestiwn ar gyfryngau cymdeithasol, byddwn yn ymdrechu i ymateb mor gyflym ag sy'n bosibl, ond ceisiwch fod yn ymwybodol:

  • Y gallwn roi ateb llawnach os byddwch yn anfon e-bost at cwsmer@powys.gov.uk (oherwydd cyfyngiadau hyd cymeriadau wrth drydaru ar twitter ac ati)
  • Mae ein prif dudalennau cyfryngau cymdeithasol i Gyngor Sir Powys yn cael eu cynnal gan y Tîm Cyfathrebu a fydd yn anfon eich cwestiwn i'r maes gwasanaeth i ddod o hyd i wybodaeth ar eich cyfer, sy'n golygu na fyddwn yn ateb ar unwaith
  • Os yw eich ymholiad yn ddifrifol, yn un brys, neu'n cynnwys manylion personol, defnyddiwch y manylion cyswllt hyn

Cymedroli

Rydym yn cadw'r hawl i ddileu unrhyw gyfraniadau sy'n torri'r canllawiadau canlynol:

  • byddwch yn gwrtais, chwaethus a perthnasol
  • peidiwch â phostio negeseuon sy'n anghyfreithlon, enillibus, aflonyddgar, difriol, sarhaus, bygythiol, niweidiol, aflan, halogedig, gyda chyfeiriadau rhywiol ac sy'n dramgwyddus yn hiliol
  • peidiwch â rhegi
  • peidiwch â phostio cynnwys sydd wedi'i gopio o fan arall, nad ydych yn meddu ar hawlfraint ar ei gyfer
  • peidiwch â phostio'r un neges, neu neges debyg iawn, mwy nag unwaith ("spamming" yw'r term am hyn)
  • peidiwch â chyhoeddi gwybodaeth bersonol na gwybodaeth bersonol rhywun arall, megis manylion cyswllt
  • peidiwch â hysbysebu cynnyrch na gwasanaethau
  • peidiwch ag esgus bod yn rhywun arall

Cyfnod etholiad neu Neilltuaeth ('Purdah')

Yn ystod y cyfnod o chwe wythnos cyn etholiad -  lleol, cenedlaethol, cyffredinol neu Ewropeaidd - rhaid i gynghorau fod yn ofalus iawn i beidio gwneud neu ddweud rhywbeth y gellid ei ystyried i fod yn cefnogi unrhyw blaid neu ymgeisydd gwleidyddol mewn unrhyw ffordd. Byddwn yn parhau i roi cyhoeddusrwydd i gyhoeddiadau pwysig am wasanaethau gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol ond efallai y bydd angen i ni ddileu ymatebion os ydynt yn gefnogol i blaid wleidyddol.

Eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau fod gennych gyfyngiadau preifatrwydd priodol wedi'u sefydlu ar eich proffil/ tudalen/ mewnbwn cyfryngau cymdeithasol i gyfyngu ar yr hyn yr ydych eisiau i bobl eraill, gan gynnwys y cyngor, eu gweld. Mae nifer o wefannau a fydd yn eich helpu chi i ddeall y peryglon sy'n gysylltiedig â datgelu gormod o wybodaeth bersonol ar gyfryngau cymdeithasol, a sut i reoli'r peryglon hynny. Oherwydd hynny, gwnewch chwiliad sydyn ar google ar “privacy settings on social networking sites” i ddod o hyd iddynt.

RSS