A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

E-lyfrau am ddim o Lyfrgelloedd Powys

e-lyfrau i Gymru

Cyfle i fenthyg e-lyfrau heb adael y ty, 24 awr y dydd!

Os ydych yn aelod o Wasanaeth Llyfrgelloedd Powys, gallwch fenthyca e-lyfrau o gysurwch eich cartref eich hunan, gan ddefnyddio ein gwasanaeth am ddim, e-lyfrau i Gymru.

Mae llawer o lyfrau i ddewis o'u plith, o'r rhai mwyaf poblogaidd i rai sy'n eich helpu i ddysgu sgiliau newydd, i ffuglen glasurol i lyfrau coginio. Mae e-Lyfrau i blant yma hefyd.

  • I ddefnyddio'r gwasanaeth yma, rhad i chi fod yn aelod o Wasanaeth Llyfrgell Powys. Cliciwch yma i ddysgu sut y gallwch ddod yn aelod.
  • Wedi cofrestru'n barod? Cliciwch yma i fynd yn syth at y catalog e-Lyfrau.
  • (Yn anffodus nid yw e-Ddarllenwyr Kindle yn gallu defnyddio elyfrau'r llyfrgell gan nad yw dyfeisiau Amazon yn cydfynd a deunydd sy'n cael eu benthyca gan y llyfrgell.  Mae'n bosibl y bydd dyfeisiau Kindle Fire yn cydfynd ag elyfrau'r llyfrgell trwy lwytho'r Bluefire App, ond nid yw Amazon yn rhyddhau'r App hwn yn eu siop App, gan fod dyfeisiau Kindle i'w defnyddio'n bennaf ar gyfer gwasanaeth e-lyfrau Amazon eu hunain).

Sut mae'n gweithio?

  • Lawrlwythwch e-lyfrau i'ch cyfrifiadur, ac yna'u trosglwyddo i'ch e-Ddarllenydd.  Gall defnyddwyr iPhone, iPad, Android a Kindle Fire  lawrlwytho llyfrau'n uniongyrchol i'w hoffer.  I ddilyn canllawiau fesul cam ar gyfer lawrlwytho eich e-lyfr cyntaf, cliciwch yma.
  • Pan fyddwch wedi cofrestru, gallwch fewngofnodi i wefan e-Lyfrau trwy ddefnyddio rhif eich cerdyn llyfrgell a'r rhif adnabod personol (PIN) a gawsoch pan wnaethoch chi gofrestru ar y wefan.
  • Gallwch fenthyg hyd at 4 llyfr ar y tro, ac mae pob llyfr a lawrlwythwch ar gael am hyd at dair wythnos.
  • Does dim ffi am fenthyg ein e-lyfrau. Bydd y llyfrau'n diflannu'n awtomatig o'ch dyfais ar ddiwedd y cyfnod benthyg.
  • Os yw'r llyfr rydych am ei gael eisoes gan rywun arall, gallwch wneud cais iddo gael ei gadw ar eich cyfer yn rhad ac am ddim. Byddwch yn cael gwybod pan fydd ar gael i chi ei lawrlwytho.

  

Llywodraeth y Cynulliad a chonsortiwm o 14 o awdurdodau llyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys Powys, sy'n ariannu eLyfrau i Gymru.

 

RSS