A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Yn ystod tymor yr hydref cynhaliwyd amrywiaeth o weithgareddau 5x60 naill ai yn ystod egwyl y bore neu amser cinio ar safle'r ysgol. Yn eu plith roedd Dodgeball, Golff, Zumba a Badminton.
Ar y cyfan daeth nifer dda i'r gweithgareddau, a chymerodd dros 40% o'r myfyrwyr ym Mlynyddoedd 7Â i 11 ran mewn rhyw weithgaredd neu'i gilydd.
Cystadleuaeth bêl-droed rhwng dosbarthiadau
Cynhaliwyd cynghreiriau pêl-droed rhwng dosbarthiadau i Flynyddoedd 7, 8 a 9 yn ystod tymor yr hydref. Cymerodd dros 70 o fechgyn o'r tair blynedd hyn ran yn y gemau wythnosol a chwaraewyd ar yr Astroturf. Roedd yn wych gweld cynrychiolaeth o bob dosbarth. 7SH enillodd cynghrair Blwyddyn 7, a hynny heb eu curo o gwbl. 8DH oedd buddugwyr Blwyddyn 8, a 9SGF enillodd cystadleuaeth Blwyddyn 9. Cyflwynwyd tlws i bob dosbarth buddugol yn y gwasanaeth boreol a byddant yn ei gadw weddill y flwyddyn. Y tymor hwn, cynhelir gemau Blwyddyn 10 a bydd y rhain yn cael eu chwarae amser cinio ar ddyddiau Llun.
Diolch i Mr Carter am ei help a'i ymroddiad wrth ddyfarnu'r gemau ymhob tywydd!
Gemau a Chystadlaethau
Fis Tachwedd, cynrychiolodd grwp o ddisgyblion Blwyddyn 7 Ysgol Gwernyfed yng Ngala Nofio'r Urdd yng Nghanolfan Hamdden Aberhonddu. Roeddem yn un o ddim ond dwy ysgol uwchradd a gafodd eu cynrychioli yn yr achlysur. Yn y rasys unigol aeth Holly Goddard ac Eva Lantos drwodd i Rasys Nofio Terfynol yr Urdd yng Nghaerdydd.
Fis Rhagfyr, cymerodd tîm o fechgyn o Flynyddoedd 7, 8 a 9 ran mewn gêm tennis bwrdd yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu. Chwaraeodd y bechgyn gemau unigol a dwbl yn erbyn chwaraewyr o Aberhonddu. Rydym yn gobeithio trefnu gêm ail gyfle yn ddiweddarach yn nhymor y gwanwyn.
Fis Ionawr, bu dau dîm cymysg o Flwyddyn 7 yn cystadlu yn nhwrnamaint Hoci Dan Do de Powys yng Nghanolfan Hamdden Aberhonddu. Bu'r ddau dîm yn chwarae yn erbyn Blynyddoedd 8 a 9 Ysgolion John Beddoes, Aberhonddu a Llanfair-ym-Muallt. Cafwyd chwarae da a daeth y ddau yn 3ydd ac yn 4ydd yn y gystadleuaeth gyffredinol.
Â
Ymhlith y gweithgareddau sy'n digwydd y tymor yma mae: Tennis Bwrdd, Badminton, Hoci Dan Do, Criced a Zumba.
Cynhelir sesiynau criced yn y Neuadd Chwaraeon amser cinio ar Ddydd Gwener dan arweiniad Mr Hanks. Mae'r sesiwn yn un agored i fechgyn a merched ym Mlynyddoedd 7 i 10. Bydd y sesiynau ymarfer hyn yn parhau dan do tan wyliau'r Pasg. Yn ystod tymor yr haf bydd y sesiynau'n cael eu cynnal y tu allan.
Amser cinio dydd Iau cynhelir y clwb Hoci Dan Do yn y Neuadd Chwaraeon. Mae Nicola Jones, sy'n hyfforddi Clwb Hoci Gwernyfed, yn arwain y sesiynau i ddisgyblion Blynyddoedd 7 ac 8.
Bydd y sesiynau Zumba yn parhau amser cinio ac yn cael eu cynnal yn y Stiwtio Ddrama. Yr hyfforddwraig leol Helena Barnard sy'n arwain y sesiynau ac mae gwahoddiad i fechgyn a merched ymhob blwyddyn ysgol.
Â