A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Cofrestr Etholwyr

Caiff y Gofrestr Etholwyr ei chyhoeddi ar y 1af o Ragfyr bob blwyddyn.  Yn ystod misoedd Medi, Hydref a Thachwedd, byddwn yn ceisio cysylltu â phob ty yn y Sir er mwyn i'r preswylwyr gofrestru eu hunain.

Os nad yw eich enw wedi'i gynnwys ar ein rhestr, neu os ydych wedi symud yn ddiweddar, gallwn ychwanegu enwau at y rhestr ar ddiwrnod gwaith cyntaf pob mis o 1 Ionawr hyd at 1 Medi.  Y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw anfon y Cais i gael eich cynnwys ar y Gofrestr Etholwyr o'r ddolen "Sut i gofrestru?" isod. Rhaid i bob ymgeisydd o'r cartref arwyddo ei linell gais bersonol ef/hi ar y ffurflen; ni chaiff neb arall wneud ar eich rhan.

Pan fyddwch yn anfon y ffurflen hon atom, byddwn yn ychwanegu eich enw at ein rhestr o ymgeiswyr newydd.  Gall unrhyw etholwr wrthwynebu rhoi eich enw ar y rhestr.  Byddwn yn ysgrifennu atoch os bydd hyn yn digwydd.  Os na fydd gwrthwynebiad i'ch cais, byddwn yn diwygio eich manylion o fewn 2 i 6 wythnos o dderbyn eich ffurflen.  Byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych pan fydd eich cais wedi'i ganiatau.

Dim ond dan oruchwyliaeth ym mhrif swyddfeydd y Cyngor yn Llandrindod a'r Trallwng y mae'r gofrestr lawn i'w gweld er mwyn ymgynghori.

Mae rheolau arbennig ar gyfer ychwanegu enwau at y gofrestr yn ystod cyfnod etholiad.  Oherwydd hyn, efallai na fyddwch yn cael pleidleisio yn yr etholiad hwnnw os bydd eich enw'n cael ei ychwnaegu mewn cyfnod o'r fath.

Dolenni Cysylltiedig

Sut i gofrestru?

Sut i gysylltu â ni

Cyswllt Gwasanaeth

Gwasanaethau Etholiadol

Cyfeiriad E-bost: electoral.services@powys.gov.uk

Teleffon: 01597 826717

Ffacs: 01597 826220

Cyfeiriad:
Gwasanaethau Etholiadol
Neuadd y Sir
Spa Road East
Llandrindod
Powys
LD1 5LG

Gweld manylion cyswllt Siaradwr Cymraeg ar gyfer y gwasanaeth yma

RSS