Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Powys » Cymryd Rhan » Fforwm Ieuenctid Powys » Trafodaeth Dan Sylw
Cynghorau Ysgol oedd y pwnc a ddewiswyd ar gyfer trafodaeth dan sylw Fforwm Ieuenctid Powys eleni. Bu aelodau'r fforwm ieuenctid yn ymchwilio'r pwnc led led ysgolion uwchradd ym Mhowys. Derbyniwyd bron i 300 o ymatebion a chyflwynwyd y canfyddiadau cychwynnol gan y Fforwm Ieuenctid yn y Drafodaeth Dan Sylw yng Nghynhadledd y Cynghorau Ysgol ym mis Ebrill.
Ymunodd y siaradwyr gwadd Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru, Jane Harries, Arweinydd Prosiect Cyfranogi Disgyblion DCELLS a Mererid Lewis o'r Uned Cyfranogi Genedlaethol â'r Fforwm Ieuenctid. Roedd uwch swyddogion, cynghorwyr sir, staff ysgol a gweithwyr ieuenctid ymhlith y 61 oedd yn bresennol.
Y prif gasgliad o'r dydd oedd y dylai cynghorau ysgol gysylltu â'i gilydd er mwyn rhannu arfer da; gallai hyn fod trwy gynhadledd cynghorau ysgol ar gyfer cynrychiolwyr cynghorau ysgol ac athrawon cyswllt.
Mae adroddiad o'r dydd, y cyflwyniadau a chrynodeb o'r arolwg i'w gweld isod.
|
4.7 M |
|
4.3 M |
|
|
1.4 M |
|
|
2.2 M |
|
|
3.6 M |
|
672 K |