A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Nod yr Uned Bolisi a Chynllunio Trafnidiaeth, ynghyd a'r gwasanaethau eraill o fewn Rheoli Trafnidiaeth a Rhwydwaith yw gweithredu Strategaeth Cludiant Integredig lleol y Cyngor Sir sydd yn rhan o Gynllun Cludiant Lleol Powys.
Mae'r CCLl yn gynllun statudol sy'n gosod Strategaeth Cludiant Integredig y Cyngor Sir am gyfnod o bum mlynedd. Mae sawl adran o'r Cyngor Sir yn gyfrifol am weithredu'r CCLl yn effeithiol, ac mae'r rhain yn gweithredu fel Awdurdodau Priffyrdd, Cludiant Cyhoeddus a Chynllunio mewn partneriaeth â nifer fawr o fudiadau o fewn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.
Â
Trwy dri thim neu unedau gwasanaeth sy'n gysylltiedig a'i gilydd:
Y Tîm Polisi Cludiant sydd bennaf gyfrifol am ddatblygu, monitro ac adolygu'r Cynllun Cludiant Lleol (CCLl) a chynhyrchu Adroddiad Cynnydd Blynyddol y CCLl.
Mae'r Tîm hefyd yn helpu i sicrhau nawdd ar gyfer gweithredu cynlluniau cludiant integredig newydd, er enghraifft cynllun y Cyngor Sir Llwybrau Mwy Diogel i'r Ysgol sydd wedi ennill gwobrau, gwelliannau gwasanaeth a diogelwch ar reilffyrdd sy'n rheded trwy Bowys (Prif Lein y Cambrian a Lein Calon Cymru), strategaethau cludiant integredig trefi marchnad a datblygu rhannau lleol o lwybrau bysiau lleol a theithiau hirach.
Hefyd, mae gwaith parhaol yn cael ei wneud i leihau effaith negyddol teithio ar yr amgylchedd (megis tagfeydd traffig a damweiniau) trwy hyrwyddo cerdded, beicio, cludiant cyhoeddus a rhannu ceir. Mae hyn yn cael ei wneud mewn sawl ffordd, yn cynnwys darparu cyngor i'r awdurdodau cynllunio ar faterion priffyrdd, gweithio â datblygwyr, cyflogwyr ac ysgolion i baratoi cynlluniau teithio 'gwyrdd' a rheoli cerbydau ar briffyrdd ac ym mhentrefi a threfi'r sir mewn modd effeithiol.
Rydym hefyd yn ceisio datblygu a hyrwyddo cerdded a beicio fel dulliau o deithio i'r ysgol a'r gwaith ac fel gweithgaredd hamdden sy'n rhad, yn gynaladwy'n amgylcheddol, yn iach ac yn bleserus. Mae ein Swyddog Datblygu Beicio yn cydweithio'n agos ag adran Datblygu Twristiaeth y Cyngor Sir a phartneriaid allanol i hyrwyddo beicio fel ffordd iach a hwyliog o fwynhau cefn gwlad Powys.
Hefyd, y Tîm Polisi Cludiant yw un o'r prif gyfranwyr tuag at ddatblygu cludiant integredig rhanbarthol trwy Trafnidiaeth Canolbarth Cymru (TraCC) - consortiwm cludiant canolbarth Cymru.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Ddesg Gymorth ar 0845 607 6060.
Neu, anfonwch e-bost at tlshelpdesk@powys.gov.uk neu anfonwch ffacs ar 01597 826 380.
Cyfeiriad E-bost: highways.and.waste@powys.gov.uk
Teleffon: 0845 602 7035
Ffacs: 01597 827276
Cyfeiriad:
Desg Gymorth Gwasanaethau Lleol a Thechnegol
Y Gwalia
Ffordd Ieithon
Llandrindod
Powys
LD1 6AA
Gweld manylion cyswllt Siaradwr Cymraeg ar gyfer y gwasanaeth yma