A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y

Pan fydd rhywun wedi marw, mae llawer o bethau sydd angen eu gwneud, ar adeg pan fyddwch leiaf awydd eu gwneud. Un o'r pethau hyn yw cysylltu ag adrannau'r llywodraeth a gwasanaethau'r cyngor lleol sydd angen cael gwybod.
Mae Cyngor Sir Powys yn cynnig gwasanaeth a fydd, gobeithio, yn gwneud y pethau hyn yn haws. Mae'r gwasanaeth newydd hwn yn golygu y gallwch ddweud unwaith wrthym a byddwn yn cysylltu â'r cyrff hynny.
Pan fydd rhywun yn marw, bydd angen cofrestru eu marwolaeth gyda'r Cofrestrydd. Unwaith y bydd hyn wedi'i wneud, efallai y bydd angen cysylltu â sawl corff arall a rhoi'r un wybodaeth iddynt.
Gallwn eich helpu i roi'r wybodaeth i'r Adran Gwaith a Phensiynau a gallant drosglwyddo'r wybodaeth hon i nifer o adrannau eraill y llywodraeth a gwasanaethau'r cyngor lleol ar eich rhan.
Mae ffyrdd gwahanol y gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth:
– Os hoffech ddod draw a defnyddio'r gwasanaeth, ffoniwch 0845 602 7038 neu 01597 827468 i wneud apwyntiad. Bydd angen i chi gofrestru'r farwolaeth cyn i chi ein gweld. Os mae'n helpu, gallwch fel arfer wneud apwyntiad i weld y Cofrestrydd a defnyddio'r gwasanaeth ar yr un ymweliad.
– Efallai y byddai'n well gennych siarad â rhywun dros y ffôn. Gallwch ffonio'r Adran Gwaith a Phensiynau. Ffoniwch 0845 602 7038 neu 01597 827468 am ragor o wybodaeth.
Os byddwch yn penderfynu defnyddio'r gwasanaeth hwn, byddwn yn gallu dweud wrth y cyrff canlynol:
Gwasanaeth Pensiynau, Anableddau a Chynhalwyr
Canolfan Byd Gwaith
Tîm Iechyd Tramor
Cynllun Pensiynau Rhyfel
Budd-dal Plant
Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith
Trethi Personol
Swyddfa Budd-dal Tai
Swyddfa Budd-dal Treth y Cyngor
Â
Gallwn ddweud y cyrff canlynol os ydych yn gofyn i ni wneud hynny:
Tai Cyngor
Treth y Cyngor
Llyfrgelloedd
Bathodynnau Glas
Gwasanaethau Oedolion
Gwasanaethau Plant
Casglu taliadau am wasanaethau cyngor
Gwasanaethau Etholiadol
Bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei thrin yn ddiogel ac yn gyfrinachol.
Bydd y cyrff a gysylltir â hwy yn defnyddio'r wybodaeth i ddiweddaru cofnodion; i roi diwedd ar wasanaethau, budd-daliadau a chredydau fel sy'n briodol; ac i ddatrys unrhyw faterion sy'n weddill. Efallai y byddant yn defnyddio'r wybodaeth hon mewn ffyrdd eraill, ond dim ond fel y bydd y gyfraith yn caniatau.
I wneud yn siwr fod y wybodaeth gywir yn cael ei chyflwyno i unrhyw gorff y byddwn yn cysylltu â hwy ar eich rhan ac fel y gallwch gael y budd mwyaf o'r gwasanaeth, fe fyddai'n ddefnyddiol petaech yn gallu dod â'r wybodaeth ganlynol am yr unigolyn sydd wedi marw gyda chi:
Efallai y byddwn hefyd yn gofyn am fanylion cyswllt oddi wrthych ar gyfer:
Rhaid i chi gael caniatâd yr unigolion a restrir uchod os ydych am ddarparu'r wybodaeth amdanynt i ni.
Os mai chi yw'r perthynas agosaf (perthynas agosaf trwy waed neu briodas i'r sawl sydd wedi marw), gall eich hawl i dderbyn budd-daliadau newid, felly gwnewch yn siwr fod gennych eich Rhif Yswiriant Cenedlaethol a/neu eich dyddiad geni eich hunan gyda chi pan fyddwch yn cysylltu â ni.
Os nad chi yw'r perthynas agosaf, neu'r unigolyn sy'n delio gydag ystad yr ymadawedig (sef yr unigolyn sy'n trin eu heiddo a'u harian), gallwch barhau i ddefnyddio'r gwasanaeth os oes gennych eu caniatâd i ddarparu eu manylion a gweithredu ar eu rhan.
Mae'r gwasanaeth yn ymroddedig i sicrhau fod eich gwybodaeth yn cael ei diogelu. Mae ein Datganiad Preifatrwydd yn dweud wrthych chi sut y byddwn yn defnyddio a diogelu'r wybodaeth a ddarparwch i ni pan fyddwch yn defnyddio'r gwasanaeth hwn. Gofynnwch i'r Cynghorydd os ydych yn dymuno gweld y datganiad preifatrwydd llawn.
Cofiwch mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau fod pob corff, sy'n talu budd-dal/credyd i chi neu sy'n darparu gwasanaeth ar eich cyfer, yn cael y wybodaeth gywir a diweddaraf amdanoch.
Â