A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y

Mae gwybodaeth yma am deithio ar fws, coets, trên neu dacsi.
I ddod o hyd i ffordd gyflym a hawdd o gael gwybodaeth am wasanaethau bws a thrên ym Mhowys, dilynnwch y dolenni ar y dudalen hon, neu:
Am y wybodaeth ddiweddaraf am fysiau cysylltwch â Traveline Cymru ar (Cyfradd Genedlaethol 10c/munud) 0871 200 22 33, defnyddiwch y cynllunydd teithiau isod, neu ewch i http://www.traveline-cymru.org.uk/.
Am y wybodaeth ddiweddaraf am drenau cysylltwch â'r National Rail Enquiries ar (Cyfradd Genedlaethol 10c/munud) 08457 48 49 50, neu ewch i http://www.nationalrail.co.uk/
Gallwch gael amserlenni ar gyfer eich ardaloedd chi o lyfrgelloedd, canolfannau croeso, swyddfeydd lleol y cyngor a chwmniau bysiau.
Neu ewch i www.powysbus.info
Noder y canlynol:
Mae Cyngor Sir Powys yn malio am eich gallu i symud ac yn croesawu awgrymiadau neu feirniadaeth allai helpu i wella cynllunio a gweithredu gwasanaethau bws a thrên.
Prisiau Tocynnau Bws ym Mhowys
O Dydd Mercher 2 Ionawr 2013 bydd prisiau tocynnau bws yn codi.
Mae Cyngor Sir Powys wedi ceisio cadw’r prisiau mor isel â phosibl, ond oherwydd cynnydd yng nghostau’r cwmnïau a’n cyllidebau ni’n cael eu torri, bydd rhaid i ni godi’r prisiau yn sgil hynny.
Tocyn Crwydro Powys
Dyma’r amser perffaith o bosibl i fanteisio ar Docyn Crwydro Powys am bris arbennig o £8 i oedolyn a £4.00 i blentyn. Yn syml iawn, prynwch y tocyn ar y bws cyntaf rydych yn ei ddefnyddio, a gallwch deithio fel y mynnwch trwy gydol y dydd.
Cofiwch, gyda Thocyn Crwydro Powys, gallwch deithio fel y mynnwch ar wasanaethau sy’n rhan o’r cynllun hwn ar ddiwrnod prynu’r tocyn, sy’n golygu y gallwch fynd a dod a thorri eich siwrnai fel y mynnwch.
Tocynnau sawl taith – 10 siwrnai am bris 7*
Os ydych chi’n defnyddio’r bws yn rheolaidd, oeddech chi'n gwybod bod modd i chi brynu tocynnau rhatach i’ch siwrnai chi? Holwch y gyrrwr am fanylion y disgownt sydd ar gael.
* Dim ond ar wasanaethau sy’n derbyn cymorth gan Bowys.
Cyfeiriad E-bost: highways.and.waste@powys.gov.uk
Teleffon: 0845 602 7035
Cyfeiriad:
Swyddog Cyhoeddusrwydd Cludiant
Neuadd y Sir
Spa Road East
Llandrindod
Powys
LD1 5LG
Gweld manylion cyswllt Siaradwr Cymraeg ar gyfer y gwasanaeth yma
Ewch i wefan Powys http://www.powysbus.info/Â i weld yr amserlenni bws.
Cliciwch yma i fynd i Wefan Travel Line Cymru
txt 84268
