A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Hyfforddi a Gwirfoddoli

Gall gwirfoddoli o fewn chwaraeon gynnwys ystod o weithgareddau o hyfforddi, datblygu chwaraewyr, cynnal sesiynau hyfforddi hyd at weinyddu clybiau, codi arian a threfnu digwyddiadau, cystadlaethau a chynghreiriau. Gallwch gymryd rhan ar unrhyw lefel; boed os yw hynny'n golygu torri orennau, golchi'r dillad chwaraeon neu hyfforddi'r tîm. Rydym angen mwy ohonoch allan ar lawr gwlad yn gwneud y gwaith!

Mae hyfforddwyr a gwirfoddolwyr yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi plant a phobl ifanc sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon. Mae Powys wedi lansio cynllun newydd o'r enw Arweinyddion Gweithgar sy'n darparu cyfleoedd i bobl gael mynediad at brofiadau gwirfoddoli a hyfforddi yn eu cymunedau ac ysgolion lleol. Os oes unrhyw hyfforddwr neu wirfoddolwr yn dymuno gwybod rhagor am y cynllun, edrychwch ar y is dudalennau cysylltiedig isod.

I gael rhagor o wybodaeth am Arweinyddion Gweithgar cliciwch yma.

marc ysbrydoli

Llundain 2012

Rydym hefyd yn falch o gyhoeddi fod Powys wedi cael ei achredu gyda 'marc ysbrydoli' Llundain 2012 ar gyfer Gemau Powys a fydd yn cael eu cynnal trwy gydol 2012.

Mae'r rhaglen Ysbrydoli hon yn cynnwys cymysgedd o brosiectau o gymunedau led led Prydain. Mae'n cydnabod prosiectau cyffrous a dyfeisgar a ysbrydolir gan Lundain 2012, gydag un o'r rhain yn cynnwys ein cynllun ni. Er mwyn i Gemau Powys fod yn llwyddiant, mae angen i ni recriwtio, hyfforddi, defnyddio, cadw a gwobrwyo gwirfoddolwyr ymroddedig led led Powys. Trwy wirfoddoli, byddwch yn ysbrydoli eraill i gymryd rhan mewn chwaraeon ac yn darparu etifeddiaeth barhaol i Lundain 2012 ym Mhowys.

Llysgenhadon Ieuenctid

GALLWCH CHI WNEUD GWAHANIAETH .....

Golff
RSS