A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y

Menter Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chwaraeon Cymru yw 5x60 a'i nod yw annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn 60 munud o ymarfer corff, 5 gwaith yr wythnos. I gyflawni hyn, mae Swyddog 5x60 wedi'i leoli ym mhob ysgol uwchradd yng Nghymru i oruchwylio'r prosiect. Mae'r disgyblion eu hunain yn cymryd perchnogaeth o'r gweithgaredd sydd ar gynnig ar yr amserlen a gallant ddylanwadu ar pryd y cynhelir y gweithgaredd, er enghraifft, yn ystod amser cinio neu ar ôl yr ysgol.
Gall y gweithgareddau sydd ar gynnig yn ysgolion Powys amrywio o chwaraeon cystadleuol traddodiadol megis pêl-droed a hoci, i weithgareddau hamdden anffurfiol megis tennis bwrdd, badminton a sboncen. Mae gweithgareddau antur yn yr awyr agored ar gynnig hefyd, megis saethyddiaeth, beicio mynydd, syrffio a dringo creigiau. Darperir ar gyfer cyfnodau o wyliau hefyd, gydag Wythnosau Hwyl yn y Gwyliau Haf, Gwersylloedd Golff y Pasg a Gwersylloedd Dawnsio i enwi dim ond rhai.
Yn ychwanegol at hyn, rôl y Swyddog 5x60 yw recriwtio disgyblion hyn a myfyrwyr dosbarth chwech i helpu cyflwyno'r sesiynau. Yn gyfnewid am eu hymroddiad i'r prosiect, mae cyrsiau hyfforddi'n cael eu trefnu a'u rhannol ariannu ar eu cyfer, sy'n rhoi cyfle iddynt ennill profiad gwerthfawr a chymwysterau galwedigaethol.
Mae pob swyddog hefyd yn gweithio i ddarparu cymaint o gysylltiadau â chlybiau a ffyrdd gadael ag sy'n bosibl i wneud y rhaglen yn gynaliadwy ac annog cyfranogiad gydol oes.
Mae manylion cyswllt 5 x 60 i'w cael yma.