Mae eich Ymwelydd Iechyd yn nyrs neu fydwraig gymwys sydd wedi cael hyfforddiant arbennig ym maes Hybu Iechyd ac Addysg Iechyd Plant. Bydd yn gweithio naill ai o feddygfeydd neu glinigau cymunedol, gan weithio’n agos gyda gweithwyr proffesiynol eraill.
Mae Ymwelwyr Iechyd trwy Bowys yn cynnig gwasanaeth i bob teulu sydd â phlentyn cyn oed ysgol.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan Ymwelwyr Iechyd neu yn y daflen Ymwelwyr Iechyd
Mae gwefan newydd am wasanaethau Powys ar Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig ar gael erbyn hyn ar brif wefan Cyngor Sir Powys
Datblygwyd cyfeirlyfr i helpu unigolion sydd ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig, eu teuluoedd ac i lywio gweithwyr proffesiynol. Gallwch lawrlwytho'r Cyfeirlyfr Anhwylderau ar yr Sbectrwm Awtistig yma.
Dechrau'n Deg yw rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar, a fwriadwyd i deuluoedd gyda phlant dan 4 oed yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Mae'r darpariaeth y rhaglen wedi'i seilio ar godau post.
Mae elfennau craidd y rhaglen wedi'u seilio ar amrywiaeth o weithgareddau y profwyd eu bod yn helpu i wella sefyllfa plant a'u teuluoedd. Yn eu plith mae:
Gallwch gael y newyddion diweddaraf am ddatblygiadau Dechrau'n Deg ym Mhowys trwy ddilyn rhain ar
Cysylltwch â'r tîm Dechrau'n Deg ar: flyingstart@powys.gov.uk
01597 826114
Pan fyddwch yn cofrestru genedigaeth, gallwch nawr ddewis rhoi gwybod i'ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd hefyd. Os dewiswch wneud hyn, byddwch yn derbyn pecyn bychan oddi wrthym sy'n cynnwys manylion ynglyn â sut y gallwn eich helpu chi, ynghyd â detholiad bychan o daflenni. Byddwch hefyd yn cael cyfle i dderbyn cysylltiad pellach gennym yn y dyfodol os dymunwch.
I gael rhagor o wybodaeth fanwl am y cynllun ewch i brif dudalen y Cyngor ar gyfer Dweud Unwaith.
I gael manylion y cynllun, pa lyfrau sydd ar gael a sut i'w ddefnyddio, ewch i Lyfrau ar Bresgripsiwn
Nod rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf Llywodraeth Cymru yw sicrhau systemau clir ar gyfer cael cymorth aml-asiantaeth, gyda phwyslais ar atal a chael ymyrraeth gynnar. Mae canllawiau Teuluoedd yn Gyntaf yn enwi'r Fframwaith Asesu'r Teulu ar y Cyd (JAFF), sy'n cynnwys model o 'Dim o amgylch y Teulu' o weithio, fel asgwrn cefn y gweithio integredig.
Ym Mhowys mae'r JAFF yn cynnwys tri phroses.
¨ Y Ffurflen Fframwaith Asesu Cyffredin yw'r ffurflen atgyfeirio sy'n cael ei llenwi gan ymarferydd gyda rhiant/gofalwr y plentyn neu berson ifanc.
.. Bydd y ffurflen hon yn mynd gerbron panel aml-asiantaeth (Panel Atebion Adnoddau Lleol) am drafodaeth ac i gytuno ar atebion fel rhan o gynllun i'r teulu.
¨ Wedi hynny, trefnir cyfarfod 'Tim o amgylch y Teulu' (neu Dim o amgylch y Person Ifanc os nad oes ganddynt deulu) sy'n cynnwys y rhai sy'n gweithio'n glos gyda'r plentyn/person ifanc/teulu er mwyn adolygu, monitro ac ychwanegu at y cynllun hwn.
Mae 'na ddau ffilm sy'n esbonio'r broses JAFF - un i blant, pobl ifanc a theuluoedd, ac un i ymarferwyr.
Mae’r Panelau Atebion Adnoddau Lleol ar draws chwe ardal ym Mhowys yn rhan hanfodol o ddatblygu seilwaith. Prif swyddogaeth y panel yw sicrhau canlyniadau da i blant yn y gymuned. Bydd yna ffocws cry far ‘atal ac ymyrraeth gynnar’.
Amcanion y paneli yw helpu i sicrhau gwell canlyniadau i blant a phobl ifanc ym Mhowys. Bydd gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda theuluoedd – yn arbennig y rhai o fewn gwasanaethau iechyd, addysg a chymunedol – yn derbyn gwell arbenigedd ac adnoddau sydd wedi’u targedu at helpu teuluoedd.
I sicrhau cyfraniadau gan nifer o asiantaethau, gan ddefnyddio sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd amrywiaeth o wasanaethau er lles plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.
Sicrhau bod y cyfrifoldeb am ddiogelu a hybu lles plant Powys yn cael ei rannu trwy gynnig gwasanaeth sy’n berthnasol i’r anghenion hynny trwy hwyluso gwasanaethau lleol.
Atgyfnerthu a chraffu trefniadau cynllunio a sicrhau ymrwymiad at wasanaethau o ansawdd uchel.
Sicrhau bod yr asiantaethau partner yn cyfrannu at y gwaith rheoli.
Sicrhau bod pawb yn gyfrifol am weithio gyda’i gilydd i ddatblygu’r amrywiaeth fwyaf o wasanaethau lleol sy’n canolbwyntio ar y plentyn a’r teulu, trwy ddulliau hyblyg ac arloesol o weithio.
Sicrhau bod ffocws ar ymyraethau cynnar sy’n amserol ac yn ddi-dor.
Sicrhau bod cynlluniau’n canolbwyntio ar atebion a chanlyniadau.
I wella gwaith partneriaethau lleol ar draws rhwydweithiau a ddatblygwyd yn lleol.
Sefydlu systemau cefnogol i gydweithwyr yn y maes er mwyn sicrhau eu bod yn gallu darparu ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd mewn angen.
Sicrhau bod pob ateb arall lleol wedi’u trafod cyn cyflwyno’r achos i’r MAAP.
Am ragor o wybodaeth a ffurflenni a phecynnau cymorth, ewch i wefan Plant a Phobl Ifanc.
Mae gan Fyrddau Lleol Diogelu Lleol dyletswydd gyfreithiol i wneud yn siwr bod cadw plant yn ddiogel yn flaenoriaeth i bawb. Mae Bwrdd Lleol Diogelu Plant Powys yn gyfrifol am gydlynu trefniadau lleol i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac mae'n cynnwys cynrychiolwyr o holl asiantaethau statudol a gwirfoddol Powys sy'n gweithio gyda phlant a'u teuluoedd.
Am ragor o wybodaeth am y Bwrdd Lleol Diogelu Plant dilynwch y ddolen hon
Os oes gennych bryder bod plentyn yn cael ei gam-rin ac hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am beth i'w wneud a phwy i gysylltu â nhw cliciwch yma.
Mae croeso i blant a theuluoedd yn llyfrgelloedd powys. Gall babanod ymuno a'r llyfrgell cyn gynted ag y byddant wedi'u geni - 'dyw hi byth yn rhy fuan i ddechrau edrych ar lyfrau a rhannu straeon a hwiangerddi gyda phlant ifanc.
Gallwch ymuno a'r llyfrgell am ddim - dewch â thystiolaeth o'ch cyfeiriad gyda chi. Gall plant fenthyca hyd at 10 o lyfrau a straeon ar CD, a gall oedolion fenthyg hyd at 20 o lyfrau, CD cerddoriaeth neu awdio a DVD (byddwn yn codi tâl bychan am fenthyca CD a DVD). Gallwch gadw eich llyfrau am fis.
Mae cyfrifiaduron yma i'ch plant eu defnyddio, hefyd! Gallwch hefyd ddefnyddio'r Wi-Fi am ddim.
Gall babanod gymryd rhan yng nghynllun Cropian Drwy Lyfrau Dechrau Da, a gall plant hyn ymuno yn y gêm ddarllen yn yr haf, a llawer iawn o weithgareddau eraill.
Ewch i wefan y gwasanaeth llyfrgelloedd i gael rhagor o wybodaeth am eich llyfrgell leol.