English

Fforwm Chwarae

logo Chwarae ym Mhowys

Caiff Fforymau Chwarae Powys eu cynnal fel rhan o dri rhwydwaith chwarae Powys

Mae gan Bowys dri Rhwydwaith Chwarae sydd wedi’u hen sefydlu; Rhwydwaith Chwarae Brycheiniog, Rhwydwaith Chwarae Maesyfed, a Chwarae Sir Drefaldwyn.   

Mae cyfarfodydd y Fforwm Chwarae yn agored i bob unigolyn a sefydliad, sydd â diddordeb mewn chwarae, gymryd rhan yn y trafodaethau, y gweithdai, cael gwybodaeth a chyfle i gyfrannu at ddatblygu chwarae. 

Bydd y Fforymau chwarae yn trafod ac yn gweithredu ar y canlynol; prosiectau chwarae i’r dyfodol, digwyddiadau chwarae, blaenoriaethau chwarae i Bowys, Rhwydweithiau chwarae, mannau chwarae, chwarae yn y gymuned, anghenion chwarae, ayb

Yn y cyfarfodydd fforwm gallwch gael gwybodaeth am ffynonellau nawdd, materion chwarae, gweithgareddau rhwydweithiau chwarae lleol, hyfforddiant, syniadau am chwarae, grantiau sydd ar gael, cewch eich cyfeirio at sefydliadau lleol eraill, ayb.

Chwefror / Mawrth 2012 - Bwriedir cynnal tri chyfarfod fforwm yn ystod y misoedd hyn gan ganolbwyntio ar y nawdd sydd ar gael ac ar y broses ymgeisio.

I gael rhagor o fanylion cysylltwch ag: Yvonne Owen-Newns, Hwylusydd Plant a Phobl Ifanc, PAVO

E-bost: Yvonne.owennewns@pavo.org.uk 

Ffôn: 01597 822191

 

Rhwydweithiau Chwarae Powys

Gellir olrhain tarddiad y cymdeithasau chwarae yn ôl i dwf y ddarpariaeth chwarae yn y 1970au pan gydnabuwyd ei bod yn fanteisiol, er mwyn darparu ar gyfer chwarae plant, bod â grŵp o unigolion o’r un anian a fyddai’n gallu codi arian, darparu cyngor, eiriol dros chwarae a chefnogi darparu adnoddau ar gyfer y ddarpariaeth.

Mae Rhwydwaith Chwarae Brycheiniog yn cefnogi datblygu darpariaeth chwarae i blant a phobl ifanc yn Sir Frycheiniog a Phowys

Lleolir Rhwydwaith Chwarae Maesyfed (Chwarae Maesyfed) yng nghanolfan Deulu Trefonnen. Ffurfiwyd y sefydliad yn 1992 i gyflenwi gwasanaeth llyfrgell deganau ac fel sefydliad chwarae. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â 01597 827 920.

Rhwydwaith o unigolion a sefydliadau sydd â diddordeb mewn chwarae a gwaith chwarae yng Ngogledd Powys yw Chwarae Sir Drefaldwyn. Buont yn gweithredu er 1977, ac yn ystod yr amser hwnnw maent wedi helpu a chefnogi nifer o blant a theuluoedd ledled Sir Drefaldwyn i gael gweithgareddau chwarae, adnoddau a chefnogaeth. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â 01686 626 713