English

Llefydd i chwarae

logo Chwarae ym Mhowys

Mae amrywiol gyfleoedd chwarae ar gael mewn amrywiol leoliadau, rhaglenni a sefydliadau ym Mhowys, a gellir darparu rhai o’r rhain drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Prosiect Chwarae Plant Dau

“Mae sesiynau chwarae Mynediad Agored yn ôl”; yr hen enw arnynt oedd Play Rangers

Caiff chwarae mynediad agored ei ddiffinio gan Lywodraeth Cymru fel rhywbeth “dan arweiniad personol, a gaiff ei ddewis yn rhydd, a’i gymell yn reddfol“.

Mae’r prosiect wedi’i gyplysu’n uniongyrchol â’r datganiad hwn a chafodd Strategaeth Chwarae Powys ei chynllunio i adlewyrchu’r gwerthoedd hynny drwy hybu chwarae dan arweiniad plant mewn sefydliadau gwledig a threfol anffurfiol, megis mannau gwyrdd cyhoeddus, meysydd chwarae ac ardaloedd coetiroedd.

Caiff y prosiect ei gyflenwi gan Dyfodol Powys. Mae’r prosiect yn ymdrechu i:

  • gyflenwi 1800 o sesiynau
  • cyrraedd 1000 o blant yn y grŵp oedran sy’n cael ei dargedu
  • cryfhau 50 o fudiadau cymunedol er mwyn cefnogi chwarae
  • recriwtio 50 o wirfoddolwyr dros dair blynedd i barhau â gwaith y prosiect

Bydd yn helpu i:

  • gynyddu proffil chwarae dan arweiniad plant a phwysleisio ei werth i blant sy’n tyfu fel un o’u hanghenion biolegol
  • mynnu hawl plant i chwarae
  • datblygu diwylliant chwarae a fydd yn rhoi i sir Powys etifeddiaeth barhaol

Ariennir gan: Y Gronfa Loteri Fawr
Gan weithio mewn partneriaeth â: Cyngor Sir Powys, Cynghorau Tref, Cynghorau Cymuned, cymdeithasau tai, heddlu cymunedol, darparwyr Ieuenctid, darparwyr gofal plant.

Darperir y sesiynau chwarae gan dri thîm o weithwyr chwarae, sydd wedi’u lleoli yng ngogledd, canolbarth a de Powys.  

I gael rhagor o wybodaeth am Chwarae Plant Dau ffoniwch: 01597 825236
e-bost: info@dyfodol-powys-futures.org.uk

DYDDIAU CHWARAE

Caiff tri diwrnod chwarae eu trefnu gydol y flwyddyn wedi’u lleoli yng Ngogledd, Canolbarth a De sir Powys. Fe’u cynhelir rhwng 10.00am a 3.30pm bob dydd a threfnir cludiant i helpu teuluoedd i ddod i’r digwyddiadau. Mae’r dyddiau AM DDIM i bob plentyn rhwng 0 ac 16 oed.

Nodau’r Dyddiau Chwarae yw:

  • darparu Dyddiau Chwarae am ddim, sy’n hygyrch i bob teulu yn eu cymunedau;
  • galluogi pob plentyn ym Mhowys i gael amrywiaeth eang o gyfleoedd Chwarae gwahanol – yn brofiadau cyfarwydd a newydd;
  • amlygu a hyrwyddo pwysigrwydd Chwarae ym Mhowys;
  • hyrwyddo pwysigrwydd chwarae a hamdden i bawb a ddaw i’r digwyddiadau;
  • galluogi partneriaid statudol a gwirfoddol i weithio gyda’i gilydd i ddarparu cynifer â phosib o gyfleoedd i blant a theuluoedd;
  • darparu cludiant er mwyn galluogi teuluoedd i fynychu.
  • rhoi i Rieni/Gofalwyr fynediad i wybodaeth/cyngor a chefnogaeth yn lleol a ledled Powys;
  • rhoi i sefydliadau gyfrwng i hyrwyddo eu gwasanaethau, gan weithio gyda’i gilydd i ddarparu gwybodaeth i rieni a gofalwyr.
  • gwella nifer y plant sy’n defnyddio’r digwyddiad. Daeth oddeutu 2000 o blant, pobl ifanc a’u teuluoedd i ddigwyddiad eleni. Byddem yn anelu i ychwanegu 2000 arall at y nifer hwn.
  • meithrin cysylltiad gyda gwasanaethau sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl ifanc hŷn er enghraifft, yr Urdd, Menter Iaith Brycheiniog a Maesyfed, y Gwasanaeth Ieuenctid, Gofalwyr Ifanc, Theatr Ieuenctid Powys a Carad er mwyn sicrhau ystod ehangach o weithgareddau.
  • sicrhau cofnodi data a gwerthuso parhaus er mwyn gallu defnyddio’r cofnodion hynny i gefnogi ceisiadau am nawdd i’r dyfodol.

.Ariennir gan: Chwarae Plant Dau – y Gronfa Loteri Fawr 

I gael rhagor o wybodaeth am Chwarae Plant Dau ffoniwch: 01597 825236
e-bostio: info@dyfodol-powys-futures.org.uk

Parciau, Mannau Agored ac Ardaloedd Chwarae Offer Sefydlog.

Mae adran Hamdden Awyr Agored Cyngor Sir Powys yn gyfrifol am nifer fawr o gyfleusterau awyr agored ar draws y sir, gan gynnwys cyfleusterau chwaraeon awyr agored, meysydd chwarae plant, parciau, tiroedd comin a mannau agored eraill. Ni chodir tâl am y cyfleusterau hyn ac maent ar agor gydol y flwyddyn i roi cyfleoedd chwarae. 

Cynlluniau Chwarae

Mae llawer o gynlluniau chwarae wedi’u staffio ar gael ar ôl ysgol neu yn ystod gwyliau. Gallant fod yn unrhyw beth o gynllun chwarae gwyliau yn y parc lleol, i gynllun wythnos, neu gydol y flwyddyn. Mae cynlluniau chwarae yn codi ffi ddyddiol fechan neu weithiau ddim ffi o gwbl ar y rhai sy’n defnyddio’r ddarpariaeth.

Canolfannau Hamdden

Gyda chyfanswm o ddwy ar bymtheg o ganolfannau chwaraeon ar draws y sir, mae amrywiaeth eang o weithgareddau a chyfleusterau ar gael, gan gynnwys neuaddau chwaraeon, pyllau nofio, bowlio ayb. 

I gael rhagor o wybodaeth am Lefydd i Chwarae, cysylltwch â: Yvonne Owen-Newns, Hwylusydd Plant a Phobl Ifanc, PAVO

E-bost: Yvonne.owennewns@pavo.org.uk 

Ffôn: 01597 822191

 

logo