Toglo gwelededd dewislen symudol

Casglu gwastraff o'r ardd

Mae tanysgrifiadau ar gyfer tymor gwastraff gardd o ymyl y ffordd 2024 bellach ar agor.

Tanysgrifiwch nawr er mwyn cael budd o fanteision gwasanaeth casglu hawdd, glân a syml i ailgylchu gwastraff o'r ardd. Mae gennym finiau  240 litr neu 140 litr ar olwynion, neu sachau gwastraff o'r ardd y gellir eu compostio i'r rheiny y bydd eu sbwriel yn cael ei gasglu mewn bagiau porffor.

Gofyn am Gasgliadau Gwastraff Gardd Gofyn am Gasgliadau Gwastraff Gardd

Cwsmeriaid presennol, os oeddech chi wedi tanysgrifio yn 2023 a symudoch dŷ cyn i ni ailagor tanysgrifiadau ym mis Chwefror, darllenwch yr adran Symud Tŷ ymhellach i lawr y dudalen a dilynwch y cyfarwyddiadau sy'n berthnasol i chi ail-danysgrifio.

casglu hawdd a diffwdan bob pythefnos o'ch cartref   

ffordd lân a thaclus o reoli eich gwastraff o'r ardd

ffordd syml o helpu'r amgylchedd

Bydd y casgliadau yn digwydd bob pythefnos trwy gydol y tymor, fel arfer o fis Mawrth hyd fis Tachwedd.

Rydym yn cynnig sachau papur 45 litr y gellir eu compostio, neu finiau 140 litr a 240 litr i storio'ch gwastraff tan y diwrnod casglu.

Mae casgliadau â chymorth ar gael ar gyfer preswylwyr cymwys, a byddant yn awtomatig os ydych chi yn eu cael eisoes ar gyfer ailgylchu neu gasgliadau gwastraff gweddilliol.

Os gwelwch yn dda                                                            

  • Dail                                                        
  • Toriadau glaswellt                                                           
  • Blodau                                                 
  • Canghennau a Brigau                                                     
  • Sglodion a Rhisgl Coed                                                                                                              

Dim Diolch                                                          

  • Gwastraff o'r Gegin - defnyddiwch eich blwch bwyd gwyrdd
  • Bagiau plastig - defnyddiwch eich bin olwynion neu sachau porffor
  • Gwastraff Cyffredinol - defnyddiwch eich bin ar olwynion neu'r sachau porffor
  • Gwastraff neu wasarn anifeiliaid anwes /anifeiliaid - defnyddiwch eich bin ar olwynion neu sachau porffor
  • Pridd a Rwbel - ewch â nhw i'r ganolfan ailgylchu agosaf
  • Boncyffion Coed - ewch â nhw i'r ganolfan ailgylchu agosaf atoch chi
  • Rhywogaethau Goresgynnol - cyfeiriwch at ganllawiau diweddaraf y llywodraeth ar rywogaethau goresgynnol i helpu i warchod ein hamgylchedd naturiol 

Nid yw'r rhestrau uchod yn holl gynhwysfawr, ac mae'r Cyngor yn cadw disgresiwn llwyr ynghylch pob math o ddeunydd a dderbynnir neu na dderbynnir.

Sut mae'r gwasanaeth yn gweithio

Y Tymor Casglu

Mae'r tymor casglu fel arfer yn ymestyn o fis Mawrth hyd fis Tachwedd.

Yn dibynnu ar sut mae'r wythnosau'n syrthio o fewn y misoedd, gallai ddechrau ychydig yn gynharach ar ddiwedd mis Chwefror, a dod i ben ychydig yn hwyrach ar ddechrau mis Rhagfyr.

Bydd tymor 2024 yn rhedeg rhwng 26 Chwefror a 29 Tachwedd.

Casgliadau Posibl

Dyrennir 20 o gasgliadau posibl, un bob pythefnos, i bob cartref ym Mhowys yn ystod y tymor.

Mae union ddyddiadau'r casgliadau posibl ar gyfer eiddo yn dibynnu ar ba ddiwrnod yn y cylch casglu pythefnos y cafodd y casgliad ei ddyrannu.

Er enghraifft, yn nhymor 2024, os mai'r casgliad cyntaf posibl ar gyfer eiddo yw dydd Llun, 26 Chwefror, y casgliad olaf a allai fod yn bosibl fydd dydd Llun 18 Tachwedd; ond os mai'r casgliad cyntaf posib yw dydd Gwener 8 Mawrth, bydd y casgliad olaf ar ddydd Gwener, 29 Tachwedd.

Byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi am yr union ddyddiadau casglu a gewch (yn amodol ar unrhyw newidiadau posibl a amlinellwyd yn y Telerau ac Amodau) pan fyddwch yn tanysgrifio - yn yr e-bost i gadarnhau ac ar y sticer ar gyfer eich bin - a gallwch wirio ein manylion diwrnodau casglu biniau unrhyw amser (yn ystod y tymor casglu).

Taliadau

Mae'r tâl am y gwasanaeth yn gost sefydlog am bob cynhwysydd, ar gyfer y casgliadau sy'n weddill yn y tymor cyfredol yn unig.

  • 240 litr bin ar olwynion - £50
  • 140 litr bin ar olwynion - £45
  • 45 litr sachau papur pydradwy (pecyn o 50) - £45

Nid yw tanysgrifiadau a wneir ran o'r ffordd trwy'r tymor yn trosglwyddo i'r tymor nesaf.  Bydd y tâl hwnnw yn rhoi hawl i chi i gael gweddill y casgliadau a drefnwyd yn y tymor cyfredol yn unig.

Gan fod uchafswm o 20 casgliad bob pythefnos yn bosibl i bob eiddo yn ystod y tymor casglu gwastraff gardd, er mwyn sicrhau eich bod yn cael manteisio ar bob un o'r 20 casgliad mewn tymor penodol, bydd angen i chi fod wedi tanysgrifio mor gynnar â phosibl pan fydd tanysgrifiadau'n agor cyn dechrau'r tymor casglu.

Telerau ac Amodau

I weld manylion llawn y gwasanaeth, darllenwch y Telerau ac Amodau llawn. Sylwch mai dyma'r telerau sy'n berthnasol i dymor 2022, a gellir eu diweddaru ar gyfer tymor 2023. Bydd unrhyw newidiadau sy'n digwydd ar gael ar yr un dudalen cyn gynted ag y bydd tanysgrifiadau ar gyfer tymor 2023 yn agor, felly gallwch weld y rhai diweddaraf bryd hynny.

Gwasanaeth Casglu Gwastraff o'r Ardd - Telerau ac Amodau

Symud Tŷ

Os oeddech chi wedi tanysgrifio yn 2023, ac wedi symud tŷ ym Mhowys cyn i ni ailagor tanysgrifiadau ar gyfer 2024, ac rydych yn dymuno parhau â'ch tanysgrifiad y tymor hwn yn eich tŷ newydd; yna ewch â'ch cynhwysydd/cynwysyddion gyda chi i'ch tŷ newydd, a llenwch y ffurflen Dywedwch wrthym eich bod wedi symud neu yn symud tŷ cyn i chi ail-danysgrifio i sicrhau bod ein cofnodion yn gyfredol ac yn barod ar gyfer pan fyddwch yn ail-danysgrifio.

Yna, os bydd angen i chi newid nifer, maint neu fath y cynhwysydd/cynwysyddion sydd gennych ar gyfer y tymor hwn, gallwch wneud hyn wrth ail-danysgrifio.

Fodd bynnag, os nad oes gennych le i gadw'r holl gynwysyddion sydd gennych ar hyn o bryd yn eich tŷ newydd, yna gadewch y rhai nad oes eu hangen arnoch yn eich hen dŷ. Yna, yn lle llenwi'r ffurflen, anfonwch e-bost at gardenwaste@powys.gov.uk. Dywedwch wrthym beth oedd eich hen gyfeiriad a'ch cyfeiriad newydd yn llawn, pa gynhwysydd/gynwysyddion y gwnaethoch chi eu gadael ar ôl, ac fe wnawn ni newid ein cofnodion ar eich cyfer chi.

Os na fydd angen tanysgrifiad arnoch yn eich tŷ newydd o gwbl, neu os ydych chi'n symud y tu allan i Bowys ac nad ydych chi'n gymwys i gael casgliadau mwyach, gadewch y cynhwysydd /cynwysyddion yn eich hen dŷ a chwblhewch y ffurflen  canslo tanysgrifiad cyn mis Chwefror. Os na fyddwch yn llenwi'r ffurflen, ebyddwn yn anfon e-bost atoch yn ddiangen am y tymor newydd.