Iechyd a Lles Anifeiliaid

Ffliw adar

Mae ffliw adar yn glefyd firaol hynod heintus sy'n effeithio ar systemau resbiradol, treulio a/neu nerfol adar.

Bydd y difrifoldeb yn dibynnu ar y math o firws a'r math o aderyn yr effeithir arno. Gall rhai mathau a elwir yn 'ffliw adar pathogenig iawn' achosi clefyd difrifol mewn dofednod, â chyfradd marwolaethau uchel. Gall y clefyd ddatblygu mor gyflym, gall adar farw heb ddangos unrhyw arwyddion blaenorol o'r clefyd.

Bydd mathau eraill a elwir fel arfer yn 'ffliw adar pathogenig isel' yn arwain at clefyd llai difrifol, a llai arwyddocaol. Fodd bynnag, gall rhai mathau pathogen isel droi yn fathau pathogenic iawn.

Yn y canllaw

  • Beth yw effaith posibl y clefyd?
  • Arwyddion clinigol
  • Beth fydd yn digwydd os caiff y clefyd ei gadarnhau?
  • A all pobl ddal y clefyd?
  • A allai hyn effeithio ar y bwyd y byddaf yn ei fwyta?
  • Beth ellir ei wneud i leihau'r peryglon?
  • Deddfwriaeth sy'n ymwneud â ffliw adar
  • Rhybuddion
  • Deddfwriaeth allweddol

Beth yw effaith posibl y clefyd?

Gall ffliw adar pathogenig iawn achosi clefyd difrifol mewn adar sy'n dueddol o'i gael. Gan amlaf, bydd ffliw adar pathogenig isel yn achosi clefyd ysgafn neu ddim clefyd o gwbl.

Credir fod pob rhywogaeth adar yn dueddol o gael ffliw adar. Gall adar mudol megis hwyaid a gwyddau gwyllt gario'r firysau, yn aml heb ddangos symptomau, a hwy sydd â'r ymwrthedd mwyaf i'r haint. Fodd bynnag, mae heidiau o ddofednod yn neilltuol o agored i heintiau o fath cyflym, ddifrifol a marwol o'r clefyd.

Bydd deddfwriaeth a phrosesau rheoli'r clefyd yn wahanol yn dibynnu ar amgylchiadau'r achos - er enghraifft, pa un ai a fydd y math H5N1 pathogenig iawn wedi'i gadarnhau mewn dofednod, adar caeth eraill neu adar gwyllt, a pha un ai a fydd achos o'r clefyd yn digwydd ar fferm, mewn lladd-dy neu fan archwilio ar y ffin.

Mae'r math H5N1 hynod bathogenig wedi dangos y gallu i dorri trwy'r rhwystr sy'n bodoli rhwng rhywogaethau yn achlysurol ac achosi clefyd difrifol mewn pobl. Fodd bynnag, nid yw wedi dangos y gallu i symud yn rhwydd rhwng pobl, ond mae hyn yn achos pryder (gweler isod).

Arwyddion clinigol

Bydd y difrifoldeb yn dibynnu ar y math o firws a'r math o aderyn yr effeithir arno. Gall adar sydd wedi'u heintio â ffliw adar hynod bathogenig farw yn ddirybudd neu ddangos amrywiaeth o arwyddion clinigol.

Gall adar unigol sydd â ffliw adar hynod bathogenig ddangos y symptomau hyn:

  • arwyddion nerfol (cryndod a diffyg cydsymud)
  • iselder, tisian a thagu
  • tagellau chwyddedig a thagedig
  • gwaedlifau o'r garrau (rhan isaf y goes)
  • dolur rhydd

Gall symptomau mewn haid gynnwys:

  • distawrwydd anarferol,
  • llai o swn
  • bwyta ac yfed llai
  • cynhyrchu llai o wyau
  • pan fydd heintiad yn digwydd oherwydd math hynod bathogenig o ffliw adar, bydd yr arwyddion clinigol yn cychwyn yn sydyn, byddant yn ddifrifol ac yn para am gyfnod byr, a bydd cyfradd marwolaethau uchel iawn (100% weithiau).

Beth fydd yn digwydd os caiff y clefyd ei gadarnhau?

Rhoddir cyfyngiadau ar y safle ble cadarnheir y clefyd i unigo dofednod ac unrhyw adar caeth eraill ac ni fyddant yn gallu dod yno na gadael. Cyfeirir ato fel y safle heintiedig. Rhaid defnyddio diheintydd cymeradwy i ddiheintio esgidiau, dillad a cherbydau cyn cyrraedd neu adael y safle.

Sefydlir parth gwarchod 3km a pharth gwyliadwriaeth 10km o amgylch y safle heintiedig ble cadarnheir y clefyd. Bydd cyfyngiadau penodol ar geidwaid dofednod sydd o fewn y parthau gwarchod a gwyliadwriaeth. Os bydd ffliw adar wedi'i gadarnhau byd yn cael ei reoli'n unol â chynllun wrth gefn Llywodraeth Cymru ar gyfer clefydau anifeiliaid egsotig a rhoddir strategaeth rheoli ffliw adar ar waith.

A all pobl ddal y clefyd?

Clefyd ymhlith adar yw ffliw adar yn bennaf. Dim ond cysylltiad agos ag adar byw sydd wedi'u heintio a all achosi'r clefyd mewn pobl.

Mae trosglwyddo firysau ffliw adar i bobl yn dal yn gymharol brin, ac yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yn digwydd yn sgil cyswllt uniongyrchol â dofednod neu adar eraill sydd wedi'u heintio, neu eu baw. Ar hyn o bryd, ni all y firws symud yn uniongyrchol rhwng pobl.

Mae pryder y gall y firws newid (neu fwtanu) a throi yn firws newydd a allai drosglwyddo rhwng pobl a heintio pobl, adar ac anifeiliaid.

Bydd mesurau rheoli iechyd cyhoeddus mewn achos o ffliw adar mewn dofednod yn ceisio gwarchod pobl rhag ffliw adar a hefyd yn ceisio atal y perygl o'r firws yn mwtanu.

Am ragor o wybodaeth, ewch ar adran Avian influenza: canllawiau, data adadansoddiad (opens in a new window) ar wefan GOV.UK.

A allai hyn effeithio ar y bwyd y byddaf yn ei fwyta?

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn ystyried nad yw achos o ffliw adar yn bygwth diogelwch bwyd defnyddwyr yn y Deyrnas Unedig. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan yr ASB (opens in a new window).

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn cynghori nad oes unrhyw risg yn sgil bwyta cig neu wyau dofednod wedi'u coginio'n dda. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Sefydliad Iechyd y Byd (opens in a new window).

Beth ellir ei wneud i leihau'r peryglon?

Bioddiogelwch da. Dylid gweithredu mesurau bioddiogelwch yn rheolaidd. Lledaenir ffliw adar trwy gyswllt rhwng adar ac yn uniongyrchol trwy fwyd, dwr ac offer wedi'u heintio.

Gall esgidiau, dillad a dwylo unrhyw un sydd wedi dod i gysylltiad ag anifeiliaid heintiedig ledaenu'r clefyd.

Mae canllawiau ynghylch bioddiogelwch (opens in a new window) a'r mesurau y gallwch eu cymryd i warchod eich adar rhag clefyd, a ffliw adar yn benodol, ar gael ar wefan GOV.UK.

Deddfwriaeth sy'n ymwneud â ffliw adar

Mae Deddf Iechyd Anifeiliaid yn darparu pwerau i reoli achosion o ffliw adar. Cafodd ei diwygio yn 2002 i ddarparu rhagor o bwerau i ddelio â chlwy'r traed a'r gennau ac ymestynnwyd y pwerau hyn gan Orchymyn Ffliw Adar a Chlefyd Newcastle (Cymru a Lloegr) yn 2003, felly erbyn hyn fe'u defnyddir mewn perthynas â ffliw adar (a chlefyd Newcastle).

Mae'r Ddeddf wedi’i diwygio, yn darparu ar gyfer lladd dofednod heintiedig, dofednod yr amheuir eu bod wedi'u heintio, dofednod sydd wedi dod i gysylltiad â'r clefyd a dofednod y dylid eu lladd i atal y clefyd rhag lledaenu ym marn yr Ysgrifennydd Gwladol (difa 'mur tân').

Cyflwynodd Gorchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 2003 nifer o welliannau allweddol i'r Ddeddf Iechyd Anifeiliaid. Diwygiwyd y diffiniad o ddofednod yn adran 87(4) y Ddeddf Iechyd Anifeiliaid i gynnwys pob aderyn (yn cynnwys rhai caeth), ac ymestynnwyd y diffiniad o'r clefyd yn adran 88(3) i gynnwys pob clefyd adar.

Mae Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Tarddu o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) 2006 yn caniatáu dull hyblyg a seiliedig ar risg o reoli clefyd, a wnaiff alluogi'r diwydiant i barhau i weithredu yn ddiogel a bioddiogel.

Mae'r Gorchymyn yn cynnwys mesurau ataliol megis:

  • pwer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddatgan parth atal ffliw adar
  • gwahardd neu gyfyngu ar grynoadau adar
  • gwahanu adar oddi wrth adar gwyllt
  • goruchwylio ffliw adar

Mae'r Gorchymyn yn cynnwys ystod o ddarpariaethau a weithredir mewn achosion amheus o ffliw adar hynod bathogenig (neu bathogenig isel) a rhai sydd wedi'u cadarnhau.

Mae Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Dofednod) (Cymru) 2006 yn darparu gofynion penodol yn ychwanegol i'r rhai sydd wedi'u cynnwys yng Ngorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Tarddu o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) 2006 pe canfyddir ffliw adar H5N1 mewn dofednod. Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddatgan parth ychwanegol wedi'i reoli, a elwir yn barth dan gyfyngiadau (RZ). Gellir canoli hwn ar leoliad yr achos, neu gall fod yn agos at y parth goruchwylio neu barth cyfyngedig arall.

Mae Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 Mewn Adar Gwyllt) (Cymru) 2006 yn darparu rheolaethau pe canfyddir ffliw adar H5N1 mewn adar gwyllt.

Mae Rheoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) 2006 yn gweithredu darpariaethau a gynhwysir yng Nghyfarwyddeb yr UE 2005/94/EC. Mae'r Rheoliadau yn gwahardd brechu, ond maent yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddatgan parth brechu brys neu barth brechu ataliol. Gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru hefyd gyflwyno rhybudd o frechu brys mewn safleoedd unigol. O fewn y parthau neu mewn safleoedd unigol, gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru fynnu fod dofednod ac adar caeth eraill yn cael eu brechu. Cyfyngir ar symudiadau o fewn y parthau.

Cyflwynwyd Rheoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal) (Cymru) 2006 i weithredu Penderfyniad y Comisiwn 2006/474/EC yn ymwneud a mesurau i atal lledaenu ffliw adar hynod bathogenig a achosir gan firws influenza A is-deip H5N1 i adar a gedwir mewn swau a chyrff, sefydliadau a chanolfannau wedi’u cymeradwyo yn yr aelod wladwriaeth.

Maent yn gwahardd ffeiriau, marchnadoedd, sioeau neu grynoadau eraill dofednod neu adar. Yn ymarferol, mae crynoadau adar wedi'u caniatáu dan drwydded gyffredinol, ond rhaid i'r trefnydd hysbysu eu swyddfa APHA lleol (Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion – gynt dan yr enw Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Labordai Milfeddygol) o'r bwriad i'w cynnal. Mae'r sefyllfa mewn perthynas â chrynoadau adar o dan adolygiad parhaus, gan ystyried y risg ehangach.

Mae gofyniad parhaus yn y Rheoliadau yn darparu i geidwaid heidiau o dros 50 o ddofednod i gofrestru. Maent hefyd yn cyfyngu ar frechu adar mewn swau. Gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru fynnu bod adar mewn swau yn cael eu brechu. Mae rhai mesurau penodol yn gymwys i adar a frechir mewn swau, a gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru fynnu fod y swau hyn yn cael eu goruchwylio.

Mae Gorchymyn Ffliw adar a Chlefyd Newcastle (Cynllunio Wrth Gefn) (Cymru) 2005 yn darparu ar gyfer cynllun wrth gefn cenedlaethol sy'n nodi'r trefniadau i'w dilyn i reoli a difa ffliw adar (a chlefyd Newcastle). Rhaid i gynlluniau wrth gefn cenedlaethol y clefydon hyn gael eu cyhoeddi'n flynyddol at ddibenion ymgynghori â'r cyhoedd, a rhaid eu cyflwyno i'r senedd.

Rhybuddion

Gall ceidwaid da byw gael y wybodaeth ddiweddaraf o ran datblygiadau ffliw adar trwy wasanaeth tanysgrifio am rybuddion APHA.

Noder

Bwriedir yr wybodaeth hon ar gyfer cyfarwyddyd; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.

Mae’n debyg y bydd cysylltiadau ‘Deddfwriaeth allweddol’ y canllaw yn dangos fersiynau gwreiddiol deddfwriaeth yn unig. Gellir canfod gwybodaeth ar newidiadau i ddeddfau’r DU ar y tab ‘Mwy o Adnoddau’ dan bob cyswllt; fel arfer, mae newidiadau i ddeddfwriaeth Ewrop wedi’i ymgorffori yn y testun. Mae cysylltiad ar wahân i ddeddfwriaeth sy’n cael ei newid lle mae’n ymwneud yn uniongyrchol a chynnwys y canllaw.

Deddfwriaeth berthnasol

Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (opens in a new window)
Gorchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 2003 (opens in a new window)
Gorchymyn Ffliw Adar a Chlefyd Newcastle (Cymru a Lloegr) 2003 (opens in a new window)
Gorchymyn Ffliw Adar a Chlefyd Newcastle (Cynllunio wrth Gefn) (Cymru a Lloegr) Order 2005 (opens in a new window)
Rheoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal) (Cymru) 2006 (opens in a new window)
Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Tarddu o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) 2006 (opens in a new window)
Rheoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) 2006 (opens in a new window)
Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Dofednod) 2006 (Cymru) (opens in a new window)
Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Adar Gwyllt) 2006 (Cymru) (opens in a new window)

Adolygiad/diweddariad diwethaf: Ionawr 2015

© 2017 itsa Ltd.

Yn ôl i'r Rhestr o Hysbysebion

Clirio

Cyswllt

Prisiau galw

Cyswllt

Prisiau galw