Iechyd a Lles Anifeiliaid

Geifr - cofnodion, adnabyddiaeth a symudiadau

Rheolau yn ymwneud ag adnabod geifr a'r angen i gadw cofnodion o'u symudiadau

Yn y canllaw

Mae'r cyfarwyddyd hwn ar gyfer Cymru

Rhaid i eifr a anwyd neu a gafodd eu hadnabod ar ôl 31 Rhagfyr 2009, ac na fwriedir eu lladd o dan 12 mis oed, gael eu hadnabod yn electronig a'u cofnodi yn unigol yn eich cofnod geifre.

Wrth symud yr anifeiliaid hyn, dylid eu cofnodi'n unigol ar eich dogfen symud anifeiliaid (AML1), oni byddwch yn eu symud o fewn busnes. Yn gyffredinol, eich stoc bridio fydd y geifr hyn, ond gallant hefyd fod yn eifr dros 12 mis oed y byddwch yn eu cadw am ba bynnag reswm (yn cynnwys fel anifeiliaid anwes).

Mae rheolau eraill ar gyfer geifr y bwriedir eu lladd pan fyddant yn iau na 12 mis oed.

Pryd ddylwn i nodi fy ngeifr?


Rhaid adnabod myn geifr a enir ar eich daliad o fewn yr amserlenni dilynol:

  • o fewn chwe mis o'u geni os cânt eu cadw i mewn dros nos
  • o fewn naw mis o'u geni os na chânt eu cadw i mewn dros nos (cedwir o dan amgylchiadau eang)

Rhaid i fyn geifr gael eu hadnabod cyn iddynt adael y daliad y cawsant eu geni arno (gan gynnwys symudiadau i ladd-dy, porfa dros dro, tir comin, marchnad ac ati) p'un a yw'r chwe/naw mis wedi mynd heibio ai peidio.

Beth gallaf ei ddefnyddio i adnabod fy ngeifr?


Gellir adnabod geifr gan ddefnyddio unrhyw un o'r dyfeisiau adnabod canlynol:

  • tagiau clust
  • tatws
  • tagiau pigwrn
  • bolysau

Bydd y ddyfais adnabod yn dibynnu ar y bwriad i gadw'r anifail pan fydd dros 12 mis oed neu ei ladd o fewn 12 mis o'i eni.

Mae dyfeisiau adnabod electronig (EID) ar gyfer geifr yn ddewis gwirfoddol. Fodd bynnag, os byddwch yn bwriadu allforio geifr, bydd rhaid eu hadnabod ag EID llawn. I gael rhagor o fanylion, darllenwch Y rheolau tagio defaid a geifr (opens in a new window) ar wefan Llywodraeth Cymru.

Geifr a anwyd neu a gafodd eu hadnabod ar ôl 31 Rhagfyr 2009


Bydd angen adnabod yr anifeiliaid hyn â dwy ddyfais adnabod nad ydynt yn electronig (os byddwch yn dewis peidio â defnyddio EID). Gellir dewis un o'r canlynol:

  • dau dag clust â'r un rhif anifail 12 digid unigryw arnynt.
  • tag clust a thatw â'r un rhif 12 digid unigol (cod y DU a rhif y ddiadell ar un glust, rhif unigol yr anifail ar y llall) - gellir rhoi'r tatw ar draws y ddwy glust
  • tag clust a nod pigwrn â'r un rhif anifail 12 digid unigryw arnynt

Yn achos anifeiliaid y bwriedir eu lladd cyn y byddant yn 12 mis oed, dim ond un tag lladd â nod y geifre wedi'i argraffu arno sy'n ofynnol.

Dyma'r lliwiau a neilltüwyd ar gyfer tagiau (fel y nodir yng Ngorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2009):

  • melyn - tag electronig yn unig
  • du - defnyddir yn unig i dagio clustiau geifr sydd â bolys EID
  • coch - defnyddir ar gyfer tagiau newydd yn unig (yn cynnwys tagiau electronig newydd)

Amnewid tagiau clust


Os bydd gafr yn colli ei dyfais adnabod neu bydd yn amhosibl ei darllen, bydd rhaid i chi amnewid y ddyfais adnabod (pa un bynnag fydd yn digwydd gyntaf) naill ai:

  • ddim hwyrach na 28 ar ôl tynnu'r tag neu ddarganfod ei fod wedi'i golli neu'n anarllenadwy ...neu
  • cyn symud yr afr o'ch daliad

Pan fyddwch chi'n amnewid tagiau, dylech gofnodi hynny yn adran amnewid tagiau cofrestr y ddaliad.

Cyn 1 Ionawr 2001, nid oedd angen adnabod geifr â thag adnabod parhaol. Rhwng 1 Ionawr 2001 a Chwefror 2003, câi geifr eu hadnabod â thagiau clust yn dangos nod geifre'r DU nad oedd â rhif unigol.

Os bydd yr anifeiliaid hyn yn colli eu tag neu os bydd angen eu tynnu, bydd rhaid i chi osod dau dag adnabod cyfatebol sydd â'r un rhifau unigol arnynt, a gall un ohonynt fod yn dag electronig.

Amnewid tagiad anifeiliaid sydd i'w lladd:

  • rhowch dag lladd newydd ar yr anifail
  • os NA fydd yr anifail ar y daliad ble cafodd ei eni, bydd rhaid defnyddio tag coch

Ble ddylwn gofnodi symudiadau fy anifeiliaid a phwy ddylwn i ei hysbysu amdanynt?


Pan fydd gafr yn cyrraedd neu'n gadael eich daliad, bydd rhaid cofnodi hyn yng nghofrestr defaid a geifr y daliad o fewn 36 awr. Pan ddaw gafr i'ch daliad, bydd rhaid hysbysu eich awdurdod lleol am hynny gan ddefnyddio trwydded symud anifeiliaid (AML1) o fewn tri diwrnod wedi iddo gyrraedd.

Dyma'r unig eithriadau:

  • pan fydd anifail sy'n parhau yn eich gofal yn symud i ddarn o dir a reolir gennych chi yn unig, sydd o fewn pum milltir, fel yr hed y frân, o'ch prif ddaliad
  • pan symudir yr anifail i dir comin cyfagos yr ydych wedi'i gofrestru fel tir sy'n gysylltiedig â'ch daliad
  • pan symudir yr anifail i bractis milfeddyg

Cofnodi symudiadau yng nghofrestr y daliad


Mae fersiynau o gofrestr daliad ar ffurf Excel a PDF (opens in a new window) ar gael ar wefan GOV.UK.

Rhaid i chi gofnodi rhifau adnabod unigol anifeiliaid sydd â dau dag adnabod pan gaiff yr anifail ei adnabod am y tro cyntaf, pan fydd yn marw neu pan gaiff ei symud i ddaliad arall.

Caiff anifeiliaid i'w lladd eu cofnodi fesul batsh neu fesul batsh cymysg bob amser (bydd angen i chi gofnodi marciau geifre'r anifeiliaid a symudir yn unig).

Yn achos anifeiliaid a anwyd neu a gafodd eu hadnabod cyn 31 Rhagfyr 2009, ni fydd rhaid i chi gofnodi rhifau adnabod unigol yng nghofrestr y ddaliad.

Mae'r enghreifftiau isod yn dangos dulliau gwahanol o gofnodi symudiadau geifr.

YN UNIGOL

Dyma ble byddwch yn cofnodi rhif adnabod unigryw pob anifail a symudir. Mae'n berthnasol i anifeiliaid â dau dag adnabod yn unig. Er enghraifft:

DyddiadNifer yr anifeiliaid a symudirRhif adnabod unigol neu rif adnabod y batsh neu groesgyfeiriad at restr o anifeiliaid (lle bydd hynny'n briodol)CPH/tarddle'r anifail
01/07/20151UK0123456 0000101/001/1234
02/07/20155UK0123456 00002 i 0000601/001/1234

Sylwer: Mae'r seroau arweiniol yn y rhif adnabod yn angenrheidiol ar gyfer anifeiliaid sydd â dull adnabod EID llawn yn unig.

COFNODI BATSH

Dyma ble'r ydych yn cofnodi cyfanswm nifer yr anifeiliaid a symudwyd yn unig. Defnyddir hyn ar gyfer anifeiliaid sydd i'w lladd, anifeiliaid a gafodd eu hadnabod cyn 31 Rhagfyr 2009 ac ar gyfer symudiadau anifeiliaid o fewn busnes, pan fydd yr anifeiliaid yn aros o dan ofal a rheolaeth eu ceidwad. Er enghraifft:

Dyddiad Nifer yr anifeiliaid a symudwyd Rhif adnabod unigol neu rif adnabod y batsh neu groesgyfeiriad at restr o anifeiliaid (lle bydd hynny'n briodol)CPH/tarddle'r anifail
10/07/2015 50 UK0123456 01/001/1234

COFNODI BATSH CYMYSG

Dyma ble mae gan anifeiliaid sy'n symud mewn batsh nod diadell neu eifre gwahanol. Rhaid i chi gofnodi nifer yr anifeiliaid sydd â'r un nod diadell neu eifre. Mae'n berthnasol i anifeiliaid i'w lladd yn unig. Er enghraifft:

Dyddiad Nifer yr anifeiliaid a symudwyd Rhif adnabod unigol neu rif adnabod y batsh neu groesgyfeiriad at restr o anifeiliaid (lle bydd hynny'n briodol)CPH/tarddle'r anifail
06/07/2015 35

15
UK0123456

UK0654321
01/001/1234

Cofnodi symudiadau yn y ddogfen symud anifeiliaid

 
Rhaid cwblhau'r ffurflen drwyddedu (AML1 / AML1A) (opens in a new window) bob tro mae anifeiliaid yn symud i ddaliad gwahanol. Gellir cael ffurflenni AML1 ar wefan Llywodraeth Cymru neu gan eich gwasanaeth safonau masnach lleol.

Mae dau ddull o gofnodi a rhoi gwybod am symudiadau gan ddefnyddio'r ddogfen symud anifeiliaid: cofnod unigol a chofnod batsh.

Er 1 Ionawr 2011, dylid cofnodi geifr â dau dag adnabod, a anwyd neu a gafodd eu hadnabod ar ôl 31 Rhagfyr 2009 yn unigol ar eich dogfen symud anifeiliaid (AML1) oni byddwch yn symud anifeiliaid o fewn busnes.

Dylid cofnodi anifeilaidd sydd i'w lladd ac anifeiliaid a anwyd neu a gafodd eu hadnabod cyn 31 Rhagfyr 2009 fesul batsh.

Sut ydw i'n cofnodi'r rhifau unigol?


Yn achos cofnodi unigol, eich dewis chi yw darllen a chofnodi rhif adnabod unigol anifail eich hun pan fydd yn symud o'ch daliad, neu ddefnyddio canolfan cofnodi ganolog (CPRC) i ddarllen rhifau geifr ag EID yn electronig ar eich rhan. Trwy ddefnyddio CPRC, byddwch yn osgoi gorfod cofnodi pob anifail yn unigol pan fyddant yn symud o'ch daliad.

Beth yw canolfan cofnodi ganolog?


Dyma ble caiff rhifau manylion unigol anifeiliaid sydd â dyfais adnabod electronig eu darllen a'u cofnodi ar ran eu ceidwad gan ganolfan cofnodi ganolog (CPRC) megis marchnad da byw neu ladd-dy.

Darllen pellach


Mae rhagor o wybodaeth fanwl, yn cynnwys enghreifftiau a senarios, ar gael ar dudalen canllawiau adnabod defaid a geifr (opens in a new window) Llywodraeth Cymru.

Sylwer

Bwriedir y wybodaeth hon ar gyfer cyfarwyddyd; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.

Mae'n bosibl y bydd dolenni 'Deddfwriaeth allweddol' y canllaw yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth yn unig, er y ceir dolenni i ddeddfwriaeth ddiwygio ar wahân lle y mae'n perthyn yn uniongyrchol i gynnwys canllaw. Gellir gweld gwybodaeth ynghylch gwelliannau i ddeddfwriaeth y Deyrnas Unedig ar dab 'Rhagor o Adnoddau' pob dolen; fel arfer, ymgorfforir gwelliannau i ddeddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd yn y testun.

Deddfwriaeth allweddol


Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2009 (opens in a new window)

Adolygwyd/Diweddarwyd ddiwethaf: Awst 2015

© 2017 itsa Ltd.

Yn ôl i'r Rhestr o Hysbysebion

Clirio

Cyswllt

Prisiau galw

Cyswllt

Prisiau galw