Iechyd a Lles Anifeiliaid

Gofynion adnabod gwartheg

Deall y gofynion ar gyfer tagio, pasbortau a chadw cofnodion ar gyfer pawb sy'n cadw gwartheg

Yn y canllaw

Mae'r cyfarwyddyd hwn ar gyfer Cymru

Mae'r Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007 yn gweithredu gofynion yr UE ynglyn â thagio clustiau, pasbortau a chofrestru gwartheg, a chadw cofnodion wedyn ar y fferm.

Mae angen adnabod gwartheg ar gyfer olrheiniadwyedd, i alluogi olrhain yn ystod achosion o glefydau ac i sicrhau uniondeb cig eidion Prydeinig.

Rhaid adnabod gwartheg â phar o dagiau clust cymeradwy a rhaid eu bod wedi derbyn pasbort. Mae'n rhaid i'r modd adnabod a dogfennaeth hyn aros gyda'r anifail drwy gydol ei fywyd. Mae'n rhaid hysbysu Gwasanaeth Symudiadau Gwartheg Prydain (BCMS) ynghylch unrhyw symudiadau a marwolaethau.

Mae'n rhaid cofnodi'r holl enedigaethau, marwolaethau a symudiadau yn y gofrestr symudiadau ar-fferm.

Pam a sut mae angen adnabod gwartheg?


Mae angen adnabod gwartheg ar gyfer olrheiniadwyedd:

  • i adnabod y gyr gwreiddiol, ac i sicrhau uniondeb cig eidion Prydeinig trwy sicrhau y gellir olrhain cynhyrchion sy'n mynd i mewn i'r gadwyn fwyd i bobl yn llawn a'u bod mor ddiogel â phosibl i'w bwyta
  • i alluogi olrhain yn ystod achosion o glefydau a thrwy hynny i gefnogi rheoli a gwaredu clefydau buchol, er enghraifft, twbercwlosis buchol (bTB) a chlwy'r traed a'r genau (FMD)

Rhaid adnabod yr holl wartheg a anwyd ar ôl 14 Ebrill 1998 â thagiau clust sydd wedi'u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, ac mae'n ofynnol bod yr holl wartheg yn dangos o leiaf un prif dag a naill ai ail brif dag neu ail dag yn y glust arall (tagio dwbl).

Prif dagiau ac ail dagiau


Gellir rhoi'r 'prif' dag yn y naill glust neu'r llall ond mae'n rhaid:

  • cael ei wneud o blastig melyn
  • bod o leiaf 45mm o'r pen i'r gwaelod
  • bod o leiaf 55mm o led
  • bod â llythrennau o uchder 5mm o leiaf
  • bod â logo'r goron
  • bod â'r llythrennau 'DU'
  • bod â rhif adnabod gydol oes unigryw

Gall yr 'ail' dag fod mewn amrediad o fodelau a deunyddiau cymeradwy, gan gynnwys metal, y math 'botwm' plastig a mathau plastig eraill. Mae'n rhaid iddo gynnwys yr un wybodaeth â'r prif dag, ond hefyd gall y tag hwn gynnwys gwybodaeth rheoli.

Er 1 Ebrill 1998, dim ond prif dagiau melyn a gynhyrchwyd. Mae'n rhaid adnabod pob llo newydd anedig gan y prif dagiau melyn hyn ac ail dag, fel y disgrifir uchod.

Mae rheoliadau'r UE hefyd yn caniatáu'r opsiwn i gynnwys cod bar ar dag swyddogol. Er i Brydain Fawr ddewis peidio â chyflwyno'r gofyniad hwn, mewn rhai gwladwriaethau'r UE, mae'n orfodol. Fodd bynnag, nid oes gofyniad i wartheg a anwyd ym Mhrydain Fawr gael eu hadnabod gyda thagiau clust yn dangos cod bar. Mae hyn yn cynnwys anifeiliaid sy'n cael eu hallforio. Cyfrifoldeb llwyr y mewnforiwr a'r allforiwr, trwy drefniadau masnachol, yw penderfynu a oes angen hyn neu beidio.

Tagiau coll ac annarllenadwy


Os yw ceidwad yn canfod bod tag clust a roddwyd dan y Rheoliadau hyn wedi mynd yn annarllenadwy neu wedi mynd ar goll, rhaid rhoi tag clust yn ei le sy'n dwyn yr un rhif unigryw o fewn 28 diwrnod o'i ganfod.

Mae'n rhaid peidio â symud gwartheg o ddaliad nes bod unrhyw dagiau clust coll wedi'u hamnewid.

Os adnabuwyd unrhyw anifail dan y Gorchymyn Tagio Gwartheg blaenorol ac mae'n colli tag clust, gellir ei adnabod gan ddefnyddio unrhyw un o'r canlynol:

  • tag clust yn dangos yr un rhif
  • tag clust/rhif newydd
  • pâr o dagiau yn dangos yr un rhif

Os rhoddir rhif newydd i'r anifail, rhaid croesgyfeirio hwn â'r hen rif yn y gofrestr symudiadau ar y fferm. Rhaid dychwelyd y dystysgrif gofrestru (COR) a'r hen fath o basbort (glas a gwyrdd) i Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS) o fewn 14 diwrnod (a chyn i'r anifail gael ei symud i ffwrdd o'r daliad) i'r pasbort gael ei ailgyhoeddi.

Rhaid i anifeiliaid er 1 Ionawr 1998 gadw'r un rhif unigryw drwy gydol eu bywydau.

Tagio gyrroedd godro


Rhaid gosod y tag clust cyntaf o fewn 36 awr o enedigaeth yr anifail ac mae'n rhaid gosod yr ail dag o fewn 20 diwrnod o'r enedigaeth.

Tagio ar gyfer pob gyr arall


Rhaid gosod y ddau dag o fewn 20 diwrnod o enedigaeth yr anifail.

Beth yw pasbortau gwartheg?


Mae pasbort gwartheg yn ddogfen a gyhoeddir gan y llywodraeth sy'n datgan:

  • dyddiad geni'r anifail
  • rhif tag clust swyddogol
  • rhif tag clust y fam
  • brîd
  • rhyw

Rhaid i'r ddogfen hon aros gyda'r anifail drwy gydol ei oes, o enedigaeth hyd at farwolaeth a rhaid iddi gynnwys pob symudiad, newid perchnogaeth a symudiad drwy marchnadoedd gwartheg ac ati.

Mae'n rhaid i chi wirio bod holl fanylion yr anifail yn gywir ar ei basbort - gall methu â gwneud hyn olygu bod y pasbort yn annilys. Os gwnewch ganfod gwall, dylech ddychwelyd y pasbort at BCMS ynghyd â llythyr eglurhaol yn manylu ar y newidiadau i'w gwneud. Ni allwch symud yr anifail nes eich bod yn derbyn pasbort cywiredig. Mae'n dramgwydd difwyno neu newid unrhyw wybodaeth mewn pasbort gwartheg neu ddefnyddio pasbort gwartheg ar gyfer unrhyw anifail heblaw'r anifail y rhoddwyd ef iddo.

Mae'r pasbort o fath llyfr siec yn darparu cerdyn hysbysu y mae rhaid i'r ceidwad ei gwblhau pan symudir yr anifail allan o'r daliad ymadael a'i anfon i BCMS o fewn tri diwrnod o'r symudiad neu gellir hysbysu BCMS am y symudiad yn electronig neu dros y ffôn fel yr amlinellir isod.

Er 1 Awst 2011, rhoddwyd pasbort un dudalen o fath A4 i wartheg a gofrestrir â BCMS, nad yw'n cynnwys cardiau symud rhagdaledig mwyach. Mae'r math hwn o basbort yn disodli'r pasbort o fath llyfr llyfr siec. Yn awr, bydd rhaid hysbysu BCMS am symudiadau gwartheg â'r math newydd o basbort trwy un o'r dulliau canlynol:

  • gan ddefnyddio gwefan ryngweithiol BCMS a elwir CTS
  • gan ddefnyddio gwasanaeth ffôn awtomatig BCMS ar 0345 011 1212
  • gan ddefnyddio meddalwedd a gymeradwywyd gan BCMS

Dylai'r gwasanaethau electronig hyn fod ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

A oes angen pasbort gwartheg arnaf?


Mae'n ofyniad cyfreithiol bod rhaid i'r holl wartheg gael eu hadnabod yn gywir, ac mae'n rhaid i'r rheini a anwyd ar ôl 1 Gorffennaf 1996 fod â phasbort gwartheg. Mae'n rhaid i'r rheini a anwyd cyn y dyddiad hwn fod â thystysgrif cofrestru (COR). Mae'n rhaid i'r pasbort / COR gael ei gadw gan geidwad yr anifail. Y ceidwad, nid y perchennog, sy'n gorfod cadw'r holl ddogfennau adnabod ar gyfer yr anifeiliad maent yn gyfrifol amdanynt. Os symudir anifeiliaid i dir comin, porfa haf neu fannau'r gaeaf, mae'n rhaid i geidwad yr anifeiliaid gael y pasbort. Dylai unrhyw un sy'n cludo gwartheg sicrhau fod pasbort gwartheg dilys / COR yn mynd gyda pob anifail trwy gydol ei daith.

Sylwer: Caiff gwartheg sydd â COR eu cyfyngu dan Reoliadau TSE i'w daliad presennol oherwydd eu hoedran a'r risg dilynol o TSE. Bydd rhaid i geidwaid sy'n dymuno symud yr anifeiliaid cyfyngedig hyn anfon ffurflen gais symud wedi'i llenwi gan y ddau barti sy'n ymwneud â symud at ganolfan gwasanaeth arbenigol yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA - yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Labordai Milfeddygol gynt) yng Nghaerwrangon.

Sut wyf yn cael gafael ar basbort gwartheg?


Cyn 1 Gorffennaf 1996, dylai'r holl wartheg hyn gael dogfen COR (y gellir ei chael gan BCMS). Ar ôl 1 Gorffennaf 1996 a hyd at 28 Medi 1998, dylai'r holl wartheg ar basbort gwyrdd hefyd gael dogfen COR (y gellir ei chael gan BCMS hefyd) a thrwy hynny galluogi i gardiau symudiadau gael eu hanfon i BCMS o fewn tri diwrnod o'r symudiad.

Cyhoeddwyd pasbort o fath llyfr siec a gafwyd o BCMS i wartheg a anwyd ar ôl 28 Medi 1998.

Er 1 Ionawr 2000, mae'n rhaid i geidwiad gwartheg gael pasbort gwartheg o fewn 27 diwrnod o'r enedigaeth. Gellir cael pasbortau gwartheg gan y BCMS.

Cyhoeddir pasbort o fath A4 un dudalen i wartheg sydd wedi'u cofrestru er 1 Awst 2011 gyda'r BCMS.

Mae'n rhaid anfon pob cais am basbort gwartheg at BCMS o fewn saith niwrnod ar ôl tagio (hyd at 27 diwrnod wedi'r dyddiad geni). Rhaid i geidwaid gwartheg sicrhau y gwneir ceisiadau am basbortau o fewn y terfynau amser penodedig. Mae'n drosedd i gael gwartheg heb basbortau y tu allan i'r terfynau amser a ddatgenir uchod.

Pa gofnodion oes rhaid i mi eu cadw?


a)
Ar gofnodion bridio gwartheg ar y fferm

Rhaid cofnodi pob genedigaeth mewn gyrr godro yn y gofrestr o fewn saith niwrnod o'r enedigaeth. Rhaid cofnodi pob genedigaeth arall mewn gyrr godro yn y gofrestr o fewn 30 diwrnod o'r enedigaeth.

Rhaid cofnodi'r wybodaeth ddilynol yn y gofrestr mewn cysylltiad â phob genedigaeth:

  • dyddiad geni
  • rhif tag clust y llo
  • brîd
  • rhyw
  • rhif adnabod y fam (ar gyfer anifeiliaid a anwyd ar y daliad yn unig)

b) Cofnodion symudiadau gwartheg

Rhaid cofnodi'r wybodaeth ddilynol yn y gofrestr symudiadau o fewn 36 awr o symud anifail i mewn i ddaliad neu ohono:

  • dyddiad y symudiad i mewn i ddaliad neu ohono
  • rhif tag clust yr anifail
  • y daliad o ble symudwyd yr anifail (gan gynnwys enw a chyfeiriad yr unigolyn oedd yn ei symud)
  • y daliad i ble symudwyd yr anifail (gan gynnwys enw a chyfeiriad yr unigolyn oedd yn ei dderbyn)
  • dyddiad unrhyw farwolaethau a ble anfonir yr anifael i'w waredu (o fewn saith niwrnod)
  • dyddiad unrhyw dagiau clust amnewid (o fewn 36 awr - dim ond os newidiwyd rhif tag clust)

Mae'n rhaid i chi gofnodi unrhyw gysylltiadau gyda ffermydd eraill (a gyhoeddir gan BCMS) yn eich cofnodion fferm, a holl symudiadau gwartheg rhwng eich fferm a'r fferm gysylltiedig.

Pa bryd bynnag y byddwch yn symud gwartheg, rhaid i chi ddilyn amodau'r drwydded gyffredinol ar gyfer symud gwartheg.

Ar ba ffurf dylid cadw'r cofnodion?


Gall y cofnodion hyn fod ar bapur neu gael eu cadw ar gyfrifiadur. Mae'n rhaid i'r ceidwad ddangos y cofnodion hyn i archwilydd pan ofynnir iddo wneud hynny.

Rydym yn argymell y dylai ceidwaid gwartheg gadw cofnodion yn fformat cofrestr y daliad a awgrymir gan BCMS.

Mae'r fformat hwn yn cynnwys cofnodion bridio gwartheg ar y fferm a chofnodion symudiadau gwartheg ill dau.

Am faint o amser oes rhaid i mi gadw'r cofnodion hyn?


Rhaid cadw cofnodion am ddeng mlynedd o ddiwedd y flwyddyn galendr y gwnaed y cofnod olaf ynddi.

Cosbau


Mae methu cydymffurfio â'r gofynion hyn yn dramgwydd troseddol. Y gosb fwyaf yn sgil collfarn yw dirwy ddiderfyn a dwy flynedd yn y carchar.

Sylwer

Bwriedir y wybodaeth hon ar gyfer cyfarwyddyd; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.

Mae'n bosibl y bydd dolenni 'Deddfwriaeth allweddol' y canllaw yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth yn unig, er y ceir dolenni i ddeddfwriaeth ddiwygio ar wahân lle y mae'n perthyn yn uniongyrchol i gynnwys canllaw. Gellir gweld gwybodaeth ynghylch gwelliannau i ddeddfwriaeth y Deyrnas Unedig ar dab 'Rhagor o Adnoddau' pob dolen; fel arfer, ymgorfforir gwelliannau i ddeddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd yn y testun.

Deddfwriaeth allweddol


Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007


Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008

Adolygwyd/Diweddarwyd ddiwethaf: Awst 2015

© 2017 itsa Ltd.

Yn ôl i'r Rhestr o Hysbysebion

Clirio

Cyswllt

Prisiau galw

Cyswllt

Prisiau galw

Ymgynghoriadau Cyfredol