Dim ond rhai siopau sy'n cael caniatâd dan y gyfraith i agor ar ddydd Sul ac yn ystod y Pasg neu'r Nadolig, ac mae dirwyon yn bodoli i orfodi'r cyfreithiau hynny.
Ar ddydd Sul, mae'r gyfraith yn dweud:
Mae rhai busnesau mwy wedi'u heithrio e.e. fferyllfeydd, ardaloedd gwasanaeth ar draffyrdd, bwytai, siopau trin gwallt a busnesau eraill sy'n darparu gwasanaethau. Nid oes rheoliadau ar gyfer marchnadoedd stryd ac arwerthiannau cist car.
Mae Deddf Masnachu ar y Sul 1994 yn rheoli oriau agor siopau. Nid yw'n rheoli gwerthu nwyddau penodol. Fodd bynnag, mae rhai nwyddau, megis alcohol, yn destun deddfwriaeth ar wahân.
Mae'r gyfraith yn dweud:
Gall siopau bach h.y. busnesau adwerthu gydag arwynebedd llawr sy'n llai na 280 medr sgwâr (3,014 troedfedd sgwâr) agor trwy'r dydd.
Ni chaniateir i siopau mwy h.y. busnesau adwerthu gydag arwynebedd llawr sydd dros 280 medr sgwâr (3,014 troedfedd sgwâr), agor ar Ddydd Sul y Pasg na Dydd Nadolig.
Mae rhai busnesau mwy wedi'u heithrio e.e. fferyllfeydd, ardaloedd gwasanaeth ar draffyrdd, bwytai, siopau trin gwallt a busnesau eraill sy'n darparu gwasanaethau.
Mae dirwy o £50,000 am dorri Deddf Masnachu ar y Sul 1994 a Deddf Dydd Nadolig (Masnachu) 2004.