Hyfforddiant Strôc Modiwlaidd

Darparwr y Cwrs: Y Gymdeithas Strôc

Gweinyddydd y Cwrs: Julie Morris

Nod

Modiwl 1 - Diwrnod 1 – Hanfodion Strôc ac Adferiad            

Modiwl 2 - Diwrnod 2 – Cefnogi Bywyd ar ôl Strôc

Modiwl 3 - Diwrnod 3 – Atal Strôc a Rheolaeth Holistaidd

Mae'r hyfforddiant modiwlaidd yn trafod yr hanfodion ynghylch beth yw strôc a sut y gallwch gefnogi adferiad cleifion sy'n goresgyn strôc. Mae'r cwrs yn trafod manylion y Strategaeth Strôc Genedlaethol a sut y gallwch hyrwyddo bywyd wedi strôc trwy waith atal, gwella, adferiad a chefnogi hyd at ofal diwedd bywyd.

Mae'r modiwlau hyfforddi sy'n cynnwys dyddiau 1, 2 a 3 wedi cael eu datblygu a'u mapio yn erbyn y fframwaith QCF. Bydd mynychu'r tri chwrs i gyd yn cyfrannu tuag at gredydau ar gyfer y QCF Lefel 2.

Modiwl Dyddiad Lleoliad Amseroedd  
3 12 Medi 2017 Ystafell Bwyllgor 2, Neuadd Brycheiniog Aberhonddu 10.00am - 4.00pm  
3 20 Medi 2017 Campws NPTC, Coleg Powys, Ffordd Llanidloes, Y Drenewydd 10.00am - 4.00pm  

Prif Ddeilliannau Dysgu

Modiwl 1 - Hanfodion Strôc ac Adferiad

  • Hanfodion Strôc - beth yw strôc, beth sy'n ei achosi a'r ystod o effeithiau
  • Gwella ac Adferiad
  • Llyncu wedi cael Strôc
  • Cefnogi cyfathrebu yn dilyn strôc
  • E ffaith Seicolegol Strôc ar yr unigolyn, y teulu a ffrindiau

Modiwl 2 - Cefnogi Bywyd ar ôl Stroô

  • Llwybr Gofal Strôc
  • Nam Synhwyraidd
  • Anghenion Corfforol ac Effeithiau Strôc ar Fywyd Pob Dydd
  • Perthnasoedd Teuluol
  • Effeithiau Gwybyddol

Modiwl 3 - Atal Strôc a Rheolaeth Holistaidd

  • Atal Strôc
  • Strôc a Gofal Diwedd Bywyd
  • Sgiliau Eiriolaeth
  • Asesiad Holistaidd
  • Pennu Nodau

Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd.

 

Clirio