Gofyn am help am ddigartrefedd

Newidiodd deddfwriaeth ar Ddigartrefedd gydag effaith o ddydd Llun 27 Ebrill 2015.

Os ydych yn ddigartref neu dan fygythiad o fod yn ddigartref o fewn 56 diwrnod, mae gofyn i ni, yn unol â’r gyfraith, gael rhagor o wybodaeth am eich sefyllfa a gweithio gyda chi i’ch rhwystro rhag bod yn ddigartref neu i leddfu eich sefyllfa os ydych yn ddigartref. Mae’r broses yn dechrau pan fyddwch yn cysylltu â’r Cyngor ac yn gofyn am help gyda’ch sefyllfa dai. Mae pob achos yn wahanol, a bydd yr ymholiadau a’r help a gynigiwn yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Os ydych yn ddigartref, yn gymwys, gyda blaenoriaeth o ran angen ac nad oes gennych unrhyw le i fyw dros dro tra y byddwn yn gweithio gyda chi i leddfu eich digartrefedd, byddwn yn sicrhau bod lle addas yn cael ei gynnig i chi fyw ynddo y tymor byr tra byddwn yn dod i wybod mwy am eich sefyllfa ac yn gweithio gyda chi i sicrhau eich bod yn dewis ty addas.

Os credwch eich bod mewn perygl o golli eich cartref, neu os ydych chi'n ddigartref yn awr, mae'n bwysig eich bod yn ceisio cyngor oddi wrth Wasanaeth Tai y Cyngor cyn gynted ag y gallwch. Mae'r Gwasanaeth Tai yn cyflogi swyddogion sydd â chyfrifoldeb am roi cymorth a chyngor ar faterion sy'n ymwneud â thai, a byddant yn cydweithio'n rhagweithiol â chi naill ai i atal neu i leddfu digartrefedd er mwyn i chi aros lle rydych chi, neu'n sicrhau ateb amgen ar eich cyfer chi. Gallwch gysylltu â ni gan ddefnyddio'r manylion sydd ar ochr dde'r dudalen yma.

Yn ddigartref yn sydyn? Os cewch eich hun yn ddigartref y tu allan i oriau swyddfa arferol, gallwch gysylltu â'r gwasanaeth Allan o Oriau ar 0845 6027039.  Dim ond mewn argyfwng y gallwn roi cyngor i chi - os oes gennych rywle diogel i aros, hyd yn oed os mai dros dro yw hyn, dylech gysylltu â Gwasanaeth Tai'r Cyngor yn ystod oriau swyddfa arferol.

Rydych yn ddigartref os:

  • Nad oes gennych unrhyw le i fyw’n gyfreithlon mewn unrhyw fan yn y Byd
  • Oes cytundeb nad yw hi’n rhesymol i chi fyw yn eich cartref
  • Oes gennych rywle arall i fyw ond na allwch gael mynediad ato
  • Ydych yn wynebu trais/aflonyddu, neu eich bod mewn perygl o wynebu trais/aflonyddu
  • Os ydych yn byw mewn lle megis cwch preswyl neu garafán, ac nad oes unrhyw le i chi angori’r cwch neu barcio’r garafán fel y gallwch fyw ynddynt

Efallai y byddwch dan fygythiad o fod yn ddigartref os ydych yn mynd i golli eich cartref o fewn 56 diwrnod. Efallai y byddwn yn gofyn i chi ddangos tystiolaeth eich bod yn ddigartref, e.e. rhybudd a gyflwynir gan eich landlord. Byddwn ni a’n partneriaid yn gweithio gyda chi i geisio a’ch atal rhag bod yn ddigartref.

Efallai na fyddwn yn gallu helpu os:

  • Nad ydych wedi byw yn y DG, Gweriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel nac Ynys Manaw yn y 5 mlynedd diwethaf, ac os nad yn cael eich ystyried i fod yn breswylydd sefydlog yma
  • Os ydych yn Wladol yn Ewropeaidd sy’n torri “Cyfarwyddeb Breswylio”
  • Os ydych wedi hawlio lloches ers cyrraedd yn y wlad hon o dramor neu eich bod wedi dod i’r wlad a bod eich cais yn parhau i gael ei ystyried gan y Swyddfa Gartref
  • Ydych yn Fewnfudwr Anghyfreithlon
  • Ydych yn aros yn hirach na’ch caniatâd i fyw yn y DG
  • Oes gennych ganiatâd cyfyngedig i barhau yn y wlad (er enghraifft myfyrwyr neu ymwelwyr), ac nad oes caniatâd gennych i hawlio cymorth cyhoeddus gydag arian neu dai

Os ydych yn geisydd lloches ac nad ydych yn gymwys am dai, gallwn roi cyngor i chi o hyd am asiantaethau eraill a all eich helpu chi.

Os oes gennych gysylltiad lleol gydag ardal cyngor arall (a dim cysylltiad lleol ym Mhowys), yna gallwch gyfeirio eich cais digartrefedd i’r cyngor arall.

Cysylltiad Lleol gyda Phowys 

Mae gennych gysylltiad lleol os:

  • Ydych wedi byw ym Mhowys am 3 blynedd allan o’r 5 mlynedd diwethaf
  • Ydych wedi byw ym Mhowys am 6 mis allan o’r 12 mis diwethaf
  • Oes gennych waith sefydlog ym Mhowys 
  • Oes gennych berthnasau agos sydd wedi byw ym Mhowys am y 5 mlynedd diwethaf
  • Oes unrhyw resymau arbennig yr ydym yn eu derbyn sy’n eich gwneud yn eithriad i’r rheolau

Efallai bod gennych angen sy’n flaenoriaeth os:

  • Ydych yn wraig feichiog neu’n rhywun y mae hi’n byw gyda hwy neu lle y gellid disgwyl iddi’n rhesymol i fyw yno
  • Ydych yn rhywun y mae plentyn dibynnol yn byw gyda hwy neu lle y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt fyw yno

Unigolyn –

i)             sy’n ddiamddiffyn o ganlyniad i ryw reswm arbennig (er enghraifft: henaint, salwch corfforol neu feddyliol neu anabledd corfforol neu feddyliol), neu

ii)            sy’n byw gydag unigolyn sy’n dod o fewn is-baragraff (i) neu y gellid disgwyl iddo/iddi i fyw yno’n rhesymol

Unigolyn –

i)             sy’n ddigartref neu mewn bygythiad o fod yn ddigartref o ganlyniad i argyfwng megis llifogydd, tân neu drychineb, neu

ii)            sy’n byw gydag unigolyn sy’n dod o fewn is-baragraff (i) neu y gellid disgwyl iddo/iddi i fyw yno’n rhesymol

Unigolyn –

i)             sy’n ddigartref o ganlyniad i ddioddef trais yn y cartref, neu

ii)            sy’n byw gydag unigolyn (yn hytrach na’r camdriniwr) sy’n dod o fewn is-baragraff (i) neu y gellid disgwyl iddo/iddi i fyw yno’n rhesymol

Unigolyn –

i)             sy’n 16 neu 17 oed pan fydd yr unigolyn yn gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu help wrth gael neu gadw llety, neu

ii)            sy’n byw gydag unigolyn sy’n dod o fewn is-baragraff (i) neu y gellid disgwyl iddo/iddi i fyw yno’n rhesymol

Unigolyn –

(i)            sydd wedi cyrraedd 18 oed pan fydd yr unigolyn yn gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu help wrth gael neu gadw llety, ond sydd heb gyrraedd 21 oed, ac sydd mewn perygl penodol o brofi cam-fanteisio rhywiol neu ariannol, neu

(ii)          sy’n byw gydag unigolyn (ac eithrio’r ecsbloetiwr neu ecsbloetiwr posibl)  sy’n dod o fewn is-baragraff (i) neu y gellid disgwyl iddo/iddi i fyw yno’n rhesymol

Unigolyn –

(i)         sydd wedi cyrraedd 18 oed pan fydd yr unigolyn yn gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu help wrth gael neu gadw llety, ond sydd heb gyrraedd 21 oed, ac mewn gofal, mewn llety neu wedi’u maethu ar unrhyw adeg pan oeddynt yn iau na 18 oed, neu sydd mewn perygl penodol o brofi cam-fanteisio rhywiol neu ariannol, neu 

 (ii)       sy’n byw gydag unigolyn sy’n dod o fewn is-baragraff (i) neu y gellid disgwyl iddo/iddi i fyw yno’n rhesymol

Unigolyn –

i)          sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog rheolaidd y Goron a fu’n ddigartref ers gadael y lluoedd hynny,

ii)         sy’n byw gydag unigolyn sy’n dod o fewn is-baragraff (i) neu y gellid disgwyl iddo/iddi i fyw yno’n rhesymol

  • Unigolyn sydd â chysylltiad lleol gydag ardal yr awdurdod lleol ac sy’n ddiamddiffyn o ganlyniad i un o’r rhesymau canlynol–

i)             wedi cwblhau dedfryd o garchar o fewn ystyr Adran 76 Deddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000,

ii)            wedi’i gadw yn y ddalfa neu ymrwymo i’w gadw yn y ddalfa gan orchymyn llys, neu

wedi’i gadw mewn llety cadw ieuenctid dan Adran 91(4) Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012, neu rywun sy’n byw gydag unigolyn o’r fath neu y gellid disgwyl iddo/iddi i fyw yno’n rhesymol

Os ydych yn ddigartref, yn gymwys, gyda blaenoriaeth o ran angen ac nad oes gennych unrhyw le i fyw dros dro tra y byddwn yn gweithio gyda chi i leddfu eich digartrefedd, byddwn yn sicrhau bod lle addas yn cael ei gynnig i chi fyw ynddo y tymor byr tra byddwn yn dod i wybod mwy am eich sefyllfa ac yn gweithio gyda chi i sicrhau eich bod yn dewis ty addas.

Cymhwyso'r " Prawf o bwriadoldeb "

Mae'r Hysbysiad hwn yn eich hysbysu o DDYDD MERCHER Y 1AF Gorffennaf 2015 2015, bydd Cyngor Sir Powys yn defnyddio'r prawf bwriad

HYSBYSIAD I BOBL SYDD YN GOFYN I'R CYNGOR AM GYMORTH PAN YN DDIGARTREF NEU SYDD DAN FYGYTHIAD I FOD YEN DDIGARTREF

Ddaeth deddfwriaeth Tai newydd i rym ar DDYDD LLUN 27AIN O EBRILL 2015. Mae hyn yn newid y gyfraith yn sylweddol sut mae Awdurdodau Tai lleol yn delio â phobl ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.

Mae'r newid sylweddol yn ymwneud â phobl yr ystyria'r Awdurdod Lleol, wedi archwilio'r ffeithiau, iddynt wneud eu hunain yn ddigartref yn fwriadol. Mae Cyngor Sir Powys ar hyn o bryd yn asesu'r bwriad a byddant yn parhau i wneud hynny ar gyfer pob gr?p cleientiaid a nodir isod.

Mae'r Hysbysiad hwn yn eich hysbysu o DDYDD MERCHER Y 1AF Gorffennaf 2015 2015, bydd Cyngor Sir Powys yn defnyddio'r prawf bwriad ar gyfer y grwpiau cleientiaid canlynol:

· Menyw feichiog neu berson y mae'n preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddi breswylio gydag ef;

· Person y mae plentyn dibynnol yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

· Person sy'n hyglwyf o ganlyniad i reswm arbennig (er enghraifft: henaint, salwch corfforol neu feddyliol neu anabledd corfforol neu feddyliol), neu y mae person sy'n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

· Person sy'n ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd o ganlyniad i argyfwng megis llifogydd, tân neu drychineb arall, neu y mae person sy'n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

· Person sy'n ddigartref o ganlyniad i wynebu camdriniaeth ddomestig,neu

y mae person sy'n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef (ac

eithrio'r sawl sy'n cam-drin) neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo

breswylio gydag ef;

· sydd wedi cyrraedd 18 oed, pan fo'r person yn gwneud cais i awdurdod tai

lleol am lety neu gymorth i gadw neu gael gafael ar lety, ond nid 21 oed, sy'n wynebu perygl arbennig o gamfanteisio rhywiol neu ariannol, neu y mae person sy'n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef (ac

eithrio camfanteisiwr neu gamfanteisiwr posibl) neu y gellid disgwyl yn

rhesymol iddo breswylio gydag ef;

· Person sydd wedi cyrraedd 18 oed, pan fo'r person yn gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu gymorth i gadw neu gael gafael ar lety, ond nid 21 oed, a oedd yn derbyn gofal, yn cael ei letya neu'n cael ei faethu ar unrhyw bryd pan oedd o dan 18 oed.

· Person sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog rheolaidd y Goron sydd wedi bod yn ddigartref ers gadael y lluoedd hynny, neu y mae person sy'n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

· Person sydd â chysylltiad lleol ag ardal yr awdurdod tai lleol ac sy'n hyglwyf o ganlyniad i un o'r rhesymau canlynol—

· Bod wedi bwrw dedfryd o garchar o fewn ystyr adran 76 o Ddeddf Pwerau

Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000,

· Bod wedi ei remandio mewn carchar neu ei draddodi i garchar gan

orchymyn llys, neu

· Bod wedi ei remandio i lety cadw ieuenctid o dan adran 91(4) o Ddeddf

Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012, neu berson y mae person o'r fath gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

OS AM WYBODAETH BELLACH YNGL?N Â'R HYSBYSIAD HWN, GOFYNNWCH AM SIARAD Â'R SWYDDOG OPSIYNAU.

Llety dros dro

Os ydych yn ddigartref, yn gymwys, yn flaenoriaeth o ran angen ac nad oes gennych neu os na allwch drefnu rhywle arall i fyw dros dro (e.e. gyda theulu neu ffrindiau), byddwn yn dod o hyd i rywle i chi fyw yn y tymor byr tra byddwn yn gweithio gyda chi i leddfu'r sefyllfa.

Llety Defnydd
Gwely a Brecwast Defnyddir yr opsiwn yma dim ond pan nad oes unrhyw lety addas arall ar gael.
Llety dros dro Mae gennym ein llety dros dro ein hunain sy’n darparu ar gyfer pob math o bobl ddigartref. Lleolir y llety dros dro fel arfer yn y prif ganolfannau poblogaeth.
Llochesau Rydym yn cydweithio'n agos gyda Chanolfannau Argyfwng Teuluol Sir Drefaldwyn a Chymorth i Fenywod.


Mae gennym hefyd gytundebau/trefniadau gyda chyrff eraill ym Mhowys a all gynnig llety dros dro ar ein rhan.

Mae nifer o asiantaethau yn cydweithio i wneud yn siwr fod pob llety dros dro o safon resymol.

Mae Shelter Cymru, Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwarchod y Cyhoedd, yr Awdurdod Iechyd a’r Gwasanaeth Addysg ymhlith yr asiantaethau sy’n cydweithio gyda’r gwasanaeth digartrefedd er mwyn sicrhau bod teuluoedd ac unigolion yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt, waeth pa mor fyr yw'r cyfnod y byddant yn aros.

Os ydych yn parhau i fod yn gymwys, byddwn yn sicrhau bod gennych lety dros dro hyd nes y byddwch yn symud i dy parhaol.

Dewisiadau ail-gartrefu

Bydd y Cyngor a’i bartneriaid yn gweithio gyda chi i sicrhau dewis ty addas – gall hyn fod yn denantiaeth gyda’r Cyngor, tenantiaeth gyda Chymdeithas Dai, neu denantiaeth gyda landlord preifat.

Cyfeiriwch at ein Polisi Dyrannu i gael manylion pellach. Mae hwn i'w weld ar dudalen Gwneud Cais am Dy Cyngor.

Gall y Cyngor eich enwebu chi i Gymdeithas Dai.

Os ydych yn teimlo nad yw’r eiddo a gynigir yn addas i chi, mae gennych hawl i ofyn am adolygiad.

Bydd Swyddog Dewisiadau a Rheoli Tai o’r Cyngor yn trafod y dewisiadau sydd ar gael ac yn gweithio gyda chi i sicrhau rhywbeth mwy addas, gan gynnwys y posibilrwydd o lety a rennir. Byddwn yn gwrando ar y dewisiadau sydd orau gennych chi o ran tai a byddwn yn gweithio gyda chi i gyflawni hyn lle bynnag y bo’n bosibl. Fodd bynnag, bydd y Swyddog Dewisiadau a Rheoli Tai yn eich cynghori os na ellir cyflawni’r dewis sydd orau gennych chi a pham gan barhau i weithio gyda chi ar ateb arall.

Cynllun Rhentu Preifat ym Mhowys

Mae'r Cynllun Mynediad i Lety Preifat ar Osod (PRAS) ar gael i aelwydydd y mae'r Cyngor wedi derbyn eu bod yn ddigartref. Wrth i Ddeddf Tai [Cymru] 2014 ddod i rym, mae cynghorau bellach yn gallu cynnig lletyau preifat ar osod i bobl ddigartref, yn hytrach na thai cyngor neu dai cymdeithasol).

Gall y Cynllun Rhentu Preifat ym Mhowys gynorthwyo pobl sy'n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref ac yn barod i ystyried tai yn y sector preifat. Byddwn yn gweithio gyda chleientiaid a landlordiaid i ddarganfod tenantiaethau yn y sector rhentu preifat, eu creu a'u cynnal, a goresgyn y rhwystrau ariannol, strwythurol a phersonol.

Gallai dod o hyd i'ch llety preifat i'w rentu roi rhagor o ddewis i chi ynglyn â lle i fyw. Gyda'r cynllun yma, bydd y Cyngor hefyd yn eich helpu gyda chostau symud.

Sut y mae'r cynllun yn gweithio:

  • Dewiswch y llety preifat ar rent yr hoffech chi fyw ynddo, gan gynnwys y lleoliad a'r math o lety - neu gall y Cyngor gynnig helpu i ddod o hyd i eiddo trwy'r cynllun.
  • Does dim cyfyngiad o ran lleoliad y llety - mae'n bosibl dewis eiddo mewn unrhyw ran o Bowys, cyn belled â'i fod yn fforddiadwy ac o'r maint iawn ar gyfer eich aelwyd.
  • Bydd y Cyngor yn talu hyd at 4 wythnos o rent yn uniongyrchol i'r landlord a fydd yn cynnwys cost y blaendal/y rhent o flaen llaw - does dim rhaid i chi ad-dalu hwn i'r Cyngor. Mae'r swm y gallwn ei dalu yn seiliedig ar y Lwfans Tai Lleol (LHA). Bydd y swm yma'n cael ei osod yn genedlaethol ac mae'n dangos beth yw'r uchafswm y gellir ei dalu mewn Budd-dal Tai.
  • Gall y Cyngor gynnig eich helpu i symud a chynnal eich tenantiaeth.
  • I fod yn gymwys, mae'n rhaid i chi fod yn ddigartref. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd â chartref ar hyn o bryd ond sydd mewn perygl o'i golli.
  • Rhaid bod â chysylltiad lleol.

I bwy y byddai'r PRAS yn ddefnyddiol?

  • Rhywun sy'n chwilio am gymorth i ddod o hyd i lety preifat ar osod
  • Gwasanaethau sy'n cynorthwyo pobl i ddod o hyd i rywle yn y sector preifat ar osod
  • Landlordiaid ac Asiantau Gosod Tai sy'n ceisio gweithio gyda'r Cynllun Mynediad i Lety Preifat ar Osod (Private Rented Access Scheme)
  • Landlordiaid sy'n dymuno hysbysebu am ddim eu heiddo sydd ar osod.

Os hoffech chi gael eich ystyried ar gyfer y Cynllun yma, neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, cysylltwch â ni trwy ffonio neu anfon e-bost ar 01597 827464 neu housing@powys.gov.uk, neu beth am ddod draw i un o'n cyngorfeydd:

Dydd Llun – bob pythefnos

L’Arche, Heol y Gwenith, Aberhonddu (gyferbyn â’r sinema)

11am tan 2.30pm

Rhaid trefnu gyda Caron Jones

 

Dydd Mawrth – un sesiwn y mis

Cyngor Canolbarth Cymru (The Advice Centre), Heol y Bontfaen, Machynlleth

11am tan 2.30pm

Rhaid trefnu apwyntiad gyda Caron Jones

 

Dydd Mercher – bob wythnos

Swyddfeydd Cyngor Sir Powys, Y Trallwng...

10.30 tan 3pm

Rhaid gwneud apwyntiad gyda Caron Jones

Dydd Iau – bob wythnos

Swyddfa Tai Newydd, T? Dewi Sant, Y Drenewydd

Canol dydd tan 3.30pm

Rhaid trefnu apwyntiad gyda Caron Jones

 
Dim ond trwy drefnu apwyntiad y gallwch chi weld rhywun oherwydd y galw mawr, ac mae'n bosibl y byddwn yn ehangu'r oriau oherwydd y niferoedd cynyddol sydd am gael mynediad i'r sector preifat ar osod.

Gofyn am adolygiad

Adolygu Cynnig

Os byddwn yn cynnig llety i chi, mae gennych hawl i ofyn am adolygiad os nad ydych yn teimlo ei fod yn addas. Bydd llythyr yn cael ei gyflwyno i chi sy’n rhoi manylion am sut y gallwch ofyn am adolygiad. Rhaid i chi ofyn am adolygiad o fewn 21 diwrnod o lety’n cael ei gynnig.

Dylech fod yn ymwybodol os ydych wedi’ch lleoli mewn Llety Dros Dro gan y Cyngor ac nad yw eich adolygiad yn llwyddiannus, yna bydd gofyn i chi adael y Llety Dros Dro gan na fydd gan y Cyngor ddyletswydd bellach tuag atoch.

Clirio

Cyswllt

  • Cyfeiriad:
    Swyddfa Dai Ardal Cyfeiriad
    Neuadd Brycheiniog
    Ffordd Cambrian
    Aberhonddu
    Powys
    LD3 7HR
  • Cyfeiriad:
    Swyddfa Dai Ardal Cyfeiriad
    Hen Goleg
    Off Station Road
    Y Drenewydd
    Powys
    SY16 1BE
  • Cyfeiriad:
    Swyddfa Dai Ardal Cyfeiriad
    Neuadd Maldwyn
    Ffordd Hafren
    Y Trallwng
    Powys
    SY21 7AS
  • Cyfeiriad:
    Swyddfa Dai Ardal Cyfeiriad
    Swyddfa Ranbarthol Ystradgynlais
    Hendre Ladus
    Ystradgynlais
    Powys
    SA9 1SE
Prisiau galw

Ymgynghoriadau Cyfredol