Storiau gwirfoddolwyr

Ymrwymo i roi amser ac egni er lles cymdeithas a'r gymuned, yr amgylchedd neu unigolion y tu allan i'ch teulu agos yw gwirfoddoli.  Mae oddeutu. 4000 o grwpiau gwirfoddolwyr ar hyd a lled Powys, a rhyw 26000 o wirfoddolwyr yn cynorthwyo'n cymunedau.

Gwirfoddolwyr yn gweithio gyda swyddogion Hawliau Tramwy i gynnal a chadw dros 12000 o lwybrau cofrestredig sydd â mynediad cyhoeddus. Maent yn helpu cadw'r llwybrau ar agor trwy wneud gwaith clirio ysgafn, atgyweiriadau ar gatiau mochyn ac adeiladu pontydd. Golyga hyn fod ymwelwyr yn cael profiad llawer mwy difyr wrth ymweld â'r sir. 

Os hoffech wirfoddoli neu os hoffech ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein tudalen Gwirfoddoli ar Hawliau Tramwy.

Adeiladu pontydd gyda gwirfoddolwyr hawliau tramwy

Image of volunteers

Pa well ffordd i dreulio’r diwrnod na cherdded, seiclo a marchogaeth ar hyd y 6,000 o filltiroedd o lwybrau Powys.   Mae golygfeydd Powys ymhlith y gorau yn y byd; o’r Bannau Brycheiniog yn y de, trwy ardaloedd naturiol anghysbell Mynyddoedd Cambria i frig De’r Eryri.   Mae modd manteisio ar y dirwedd hon i bob cyfeiriad trwy’r rhwydwaith eang o hawliau tramwy cyhoeddus.

Mae gan Bowys hefyd ddau lwybr cenedlaethol: Llwybr Clawdd Offa sy’n ffinio â Lloegr, a Llwybr Glynd?r, gyda’r ddau’n denu miloedd o ymwelwyr a phobl leol bob dydd o’r flwyddyn.

Ond ydych chi wedi pwyllo i feddwl sut maen nhw’n parhau i fod ar agor?  Pwy sy’n gofalu am lwybr? Pwy sy’n tocio’r clawdd neu’n adeiladu pont ar draws ceunant?  Ai’r tylwyth teg neu goblynnod?

Mewn teyrnas hud a lledrith byddai hynny’n wir, ond y gwir yw ….. gwirfoddolwyr.

Gyda dros 6,000 o filltiroedd o lwybrau, byddai’n amhosibl i Dîm Gwasanaethau Cefn Gwlad gynnal a chadw a chadw’r llwybrau ar agor heb help a chefnogaeth gwirfoddolwyr selog ac ymroddedig sy’n troi allan ym mhob tywydd i roi o’u hamser a rhoi rhywbeth nôl i’w cymunedau.

 

Mae tua 60 o wirfoddolwyr ym Mhowys sy’n gweithio gyda swyddogion Hawliau Tramwy i gynnal a chadw dros 12000 o lwybrau cofrestredig sydd ar agor i’r cyhoedd.  Mae Phil Stallard, Cydlynydd Gwirfoddolwyr Mynediad i Gefn Gwlad yn gweithio’n rheolaidd gyda gwirfoddolwyr lleol ac mae’n gyfrifol am hyfforddi, materion iechyd a diogelwch a dod â thimoedd at ei gilydd i weithio ar lwybrau o amgylch y sir.

Image of Phil Stallard

Meddai Phil: “wrth i ni agor y llwybrau, mae natur wrth gwrs yn eu cau ar ein hôl.  Mae gwirfoddolwyr yn helpu i gadw’r llwybrau ar agor trwy wneud gwaith clirio ysgafn, trwsio gatiau mochyn ac adeiladu pontydd.

 

Mae hyn yn helpu i gadw’r llwybrau ar agor i ymwelwyr er mwyn iddynt fwynhau’r profiadau wrth ymweld â’r sir.  Rwy’n mwynhau gweithio gyda phobl o’r gymuned leol.  Mae’n gymdeithasol iawn ac ry’n ni’n cael tipyn o hwyl hefyd.”

Mae trigolion Y Clas-ar-Wy wedi ffurfio elusen i gadw'r tai bach cyhoeddus ar agor wedi i'r cyngor gyhoeddi ei fod yn chwilio am gymorth gan gymunedau i wneud hynny fel y bydd cyllidebau'n parhau i ostwng. Mae dwy wraig sy'n gysylltiedig â'r elusen yn dweud eu stori wrthym ni. Gall eu profiad o ran cyflwyno cymunedol fod o ddiddordeb i gymunedau eraill sy'n ystyried sut orau i gynnal gwasanaethau na all y cyngor fforddio eu cyflwyno yn y tymor hir.

Blagurodd darn o dir agored yng nghanolbarth Powys yn ddôl wair draddodiadol fel rhan o arbrawf a gynhaliwyd gan y cyngor sir ac ymddiriedolaeth bywyd gwyllt lleol.

Trawsffurfiodd Lower Common, rhan o Warchodfa Natur Parc y Llyn yn Llandrindod yn naturiol yr haf yma wedi iddo gael ei adael i dyfu a blodeuo fel dôl wair draddodiadol

Daeth yn rhan o arbrawf wedi i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Faesyfed fynd at Gyngor Sir Powys i ofyn iddyn nhw ganiatáu i'r tir agored ddod yn ddôl wair. Yn flaenorol, byddai'r comin yn cael ei dorri o leiaf unwaith bob tair wythnos yn ystod yr haf, ond eleni, cafodd dyfu'n naturiol ac roedd y canlyniadau'n wych.

Nid yn unig mae yna doreth o flodau a llu o fywyd gwyllt yno, ond mae gwirfoddolwyr o'r ymddiriedolaeth bywyd gwyllt wedi darganfod infertebrata prin yno. Mae peillwyr fel gwenyn mawr yn prinhau, yn rhannol oherwydd bod dolydd ac ymylon ffyrdd yn cael eu colli.

Mae Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Pryfed Peillio yn awyddus i annog perchnogion tir i ddarparu cynefinoedd blodeuog fel y Lower Common.

Dywedodd y Cyng Graham Brown, Aelod Portffolio'r Cabinet â chyfrifoldeb am Hamdden Awyr Agored: “Mae'r rhan fwyaf o'n mannau agored yn destun cynlluniau torri gwair rheolaidd. Ond mae'r pwysau ariannol a wynebwn yn golygu ein bod yn mynd edrych ar wahanol ffyrdd o gynnal y mannau agored yma.

"Rwy'n falch dros ben gyda chanlyniadau'r arbrawf yma, sydd wedi hybu bioamrywiaeth Lower Common mewn cyfnod mor fyr o amser. Bydd canlyniadau'r arbrawf yna'n bendant yn ein helpu ni i ystyried sut i fynd ati i reoli'n mannau agored yn y dyfodol.” 

Image of volunteers

Mae Darylle Hardy, Swyddog Prosiect Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Faesyfed wedi bod yn archwilio'r comin dros yr haf gyda chymorth gwirfoddolwyr, fel rhan o brosiect sy'n cael ei noddi gan y Co-operative.

Dywedodd: “Mae'r ddôl wedi bod yn ei blodau, yn hyfryd a hyd yn oed yn fwy toreithiog nag y byddwn i wedi disgwyl. Mae'r blodau'n cynnwys y blodyn bara llaeth, y graith unnos, y pengaled a'r clafrllys gwreidd-don. Mae wedi bod yn fyw o fywyd gwyllt, gyda gwenyn mawr, pryfed hofran a gloynnod byw trwy'r haf, ac rydyn ni wedi mwynhau archwilio'r lle.”

Mae peillwyr fel gwenyn mawr yn prinhau, yn rhannol oherwydd bod dolydd ac ymylon ffyrdd yn cael eu colli.

Mae Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Pryfed Peillio yn awyddus i annog perchnogion tir i ddarparu cynefinoedd blodeuog fel y Lower Common.

“Rydyn ni'n lwcus yn Llandrindod o gael glaswelltir llawn blodau sy'n well a gorfod creu dolydd gwair newydd.   Rydyn ni'n cymeradwyo Cyngor Sir Powys am arbrofi gyda hyn yn Lower Common, cynllun a oedd o fantais i bobl a bywyd gwyllt fel ei gilydd dros yr haf.”

Mae clwb Pysgota Lakeside a'r Gwasanaeth Hamdden Awyr Agored yng Nghyngor Sir Powys wedi llunio partneriaeth newydd. Bydd y clwb pysgota'n rheoli'r pysgota ar Lyn Llandrindod ar ran y cyngor.

Bydd y clwb yn archwilio'r llwyfannau pysgota a diogelwch y glannau, yn symud sbwriel, yn monitro lefel y dwr a lefelau'r stoc bysgod ac yn cyflawni dyletswyddau'r beili.

Mae gwaith ac ymroddiad clwb pysgota lleol yn arddangos ein gweledigaeth sef ddatblygu cymunedau cryfach ym Mhowys. Mae Clwb Pysgota Lakeside a'r Gwasanaeth Hamdden Awyr Agored yng Nghyngor Sir Powys wedi creu partneriaeth newydd a fydd yn arwain at y clwb pysgota'n rheoli pysgota ar Lyn Llandrindod ar ran y cyngor.

Bydd dyletswyddau'r clwb yn cynnwys archwilio'r llwyfannau pysgota a diogelwch y glannau, clirio sbwriel, yn monitro lefel y dwr a lefelau'r stoc bysgod ac yn cyflawni dyletswyddau beili. Mae'r cyngor a'r clwb pysgota wedi cydweithio i adfer safle pysgota yn y llyn i'w ogonant blaenorol yn dilyn y trychineb yn 2006 pan laddwyd miloedd o bysgod o ddiffyg ocsigen yn sgil dadelfennu'r algae glaswyrdd.

Mae'r llyn bellach wedi'i drawsffurfio ar ôl y gwaith a wnaed i adfer y cydbwysedd ecolegol i atal hyn rhag digwydd eto. Cafodd stoc newydd ei roi yn y llyn, gan gynnwys crethyll, rhudylliaid a draenogiaid. Mae rhai o'r llynbysg a'r tens a godwyd o'r dwr wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen hefyd wedi'u dychwelyd i'r llyn.

Mae'r gwaith wedi dechrau dwyn ffrwyth gan fod pysgod o Lyn Llandrindod yn cael eu dal yn rheolaidd.

Dywedodd y Cyng Graham Brown, Aelod Portffolio'r Cabinet â chyfrifoldeb am Hamdden Awyr Agored:

“Rwyf wrth fy modd fod Clwb Pysgota Lakeside wedi cytuno i'r trefniant partneriaeth yma, sy'n golygu y byddant yn rheoli'r ased cymunedol rhyfeddol yma ar ein rhan.

“Mae'r cyngor yn wynebu pwysau ariannol dros y blynyddoedd nesaf ac mae'n rhaid i ni newid y ffordd rydym yn cyflenwi gwasanaethau yn y dyfodol, gan gynnwys sut y byddwn yn rheoli ein mannau agored. Dim ond un enghraifft yw'r bartneriaeth yma o sut y gellid darparu gwasanaeth yn y dyfodol.”

Dywedodd Fred Davies o Glwb Pysgota Lakeside :

“Rydym yn deall arwyddocad Llyn Llandrindod i'r gymuned leol ac i'n pysgotwyr.

“Rydyn ni'n falch cael ein dewis i reoli'r llyn. Bydd hyn yn helpu'r cyngor i wynebu'r pwysau ariannol sydd arno. Edrychwn ymlaen at gydweithio â'r cyngor yn y dyfodol i ddiogelu'r atyniad pwysig yma er lles y gymuned leol.”

 

 

 

 

Clirio