Cynaliadwyedd a'r Cyngor

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)

Mae a wnelo Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Mae'n ddyletswydd ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru i wneud gwaith datblygu cynaliadwy sy'n cael ei ddiffiniol yn y Ddeddf fel "proses gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru trwy weithredu yn unol ag egwyddor datblygu cynaliadwy, gyda'r nod o gyflawni'r nodau llesiant.”

Wrth lunio penderfyniadau, bydd yn rhaid i'r Cyngor feddwl mwy am y tymor hir, gweithio'n well gyda sefydliadau, pobl a chymunedau eraill, a cheisio osgoi problemau trwy ddefnyddio dull mwy di-fwlch o greu Cymru yr hoffai pob un ohonom fyw ynddi, nawr ac yn y dyfodol. Daeth y Ddeddf i rym ar 1st Ebrill 2016.

Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas.

Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd).

Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.

Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd).

Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da.

Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden.

Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang.

Bydd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn darparu cyngor a chymorth i'r cyrff cyhoeddus hynny y mae'n ddyletswydd arnynt arddel hyn. Bydd hyn yn digwydd trwy ymweliadau, adolygiadau ac ymchwil. Mae'n rhaid 'r Comisiynydd hefyd ddarparu Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol a fydd yn ystyried barn pobl Cymru trwy sgwrs genedlaethol "Y Gymru a Garem".

Mae'r Ddeddf yn sefydlu Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus (PSB) sy'n cynnwys y Cyngor, y gwasanaeth tân ac achub a Chyfoeth Naturiol Cymru. Bydd gan y PSB y prif gyfrifoldeb am ddatblygu Asesiad Llesiant ar gyfer yr ardal, gan fanylu ar y gweithredu a fydd yn digwydd i fynd i'r afael â phroblemau lleol a chyfrannu at y nodau Llesiant cenedlaethol. Mae rhagor o wybodaeth am hyn i'w chael yma.

Animeiddiad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

 

Egwyddorion

Rhaid i gyrff cyhoeddus ddangos eu bod yn defnyddio'r egwyddorion datblygu cynaliadwy i lunio'u gwaith yn hytrach na fel prosiect i'w drin ar wahân. Gallwn wneud hyn trwy ddangos ein bod wedi ystyried y 5 ffordd ganlynol o weithio wrth i ni lunio penderfyniadau.

Tymor hir –ystyried sut y gallai'r hyn a wnawn yn awr effeithio ar gymunedau a gwasanaethau yn y dyfodol.

Atal - gweithredu i atal problemau rhag codi neu waethygu.

Integreiddio - ystyried sut y mae ein hamcanion llesiant yn cyfrannu at bob un o'r nodau llesiant, yn effeithio ar ein hamcanion eraill neu amcanion cyrff cyhoeddus eraill.

Cydweithredu – gweithio gydag eraill i gyflawni ein hamcanion llesiant.

Ymglymiad - annog pobl i ymgysylltu a chyflawni'r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny'n adlewyrchu amrywiaeth cymunedau Powys.

Clirio