Archwilio Pridiannau Tir

Delwedd o weithred

Mae gan y Cyngor ddyletswydd gyfreithiol i gadw Cofrestr Pridiannau Tir Lleol. Mae Pridiannau Tir Lleol yn gyfyngiadau neu'n waharddiadau ar ddarnau o dir, sy'n rhwymo perchnogion neu ddeiliaid y darn o dir.  Ni fydd y cyfyngiadau hyn fel rheol i'w gweld ar y gweithredoedd felly bydd Archwiliadau Awdurdod Lleol yn cael eu cynnal fel rhan o'r broses trawsgludo wrth brynu neu ail roi morgais ar eiddo.

Menter gan y llywodraeth yw'r NLIS sy'n ceisio cyflwyno gwasanaethau'n electronig.  Mae Powys wedi'i chysylltu â'r NLIS ar lefel 3 ac mae'n gallu derbyn ceisiadau i archwilio yn electronig, a dychwelyd canlyniadau archwilio yn electronig.

Mae'r LLC1 yn parhau y tu allan i sgop TAW.

Archwiliad o'r Gofrestr Pridiannau Tir Ffi Safonol Ffi NLIS
LLC1 £6.00 £4.00
Archwiliad Personol £0.00 D/G
Parsel Ychwanegol £1.00 £1.00

 

 

b>CON 29 Ymholiadau am yr Eiddo sydd ei Angen Ffi Safonol TAW Ffi Safonol yn cynnwys TAW
CON29R £119.00 £23.80 £142.80
Parsel ychwanegol o dir £10.00 £2.00 £12.00
CON 29 Ymholiadau ar gyfer yr Eiddo Dan Sylw Ffi NLIS TAW Ffi NLIS yn cynnwys TAW
CON29R £119.00 £23.80 £142.80
Parsel ychwanegol o dir £10.00 £2.00 £12.00
Ymholiadau Eiddo Dewisol      
CON29 Ymholiad Dewisol Rhif 22 £22.00 £4.40 £26.40
Holl Ymholiadau Dewisol CON29 eraill £12.00 yr un £2.40 £14.40 yr un
Ymholiadau Drafft £22.00 yr un £4.40 £26.40 yr un

Mae'r Comisiwn Archwilio yn monitro amseroedd cynnal archwiliadau Awdurdod Lleol ar gyfer archwiliadau safonol.  Mae 99% yn cael eu cwblhau o fewn 10 diwrnod gwaith.

Dim ond trwy apwyntiad y bydd modd cynnal archwiliad personol o'r Gofrestr  Pridiannau Tir, a hynny rhwng 10.00 a 11.30 a.m. a 2.00 a 4.00 p.m..  Archwiliad o'r Gofrestr Pridiannau Tir Lleol yn unig yw archwiliad personol.  Nid yw'r archwiliadau'n cael ymateb ysgrifenedig na thystysgrif archwilio swyddogol.  Rhaid creu nodiadau eich hun o wybodaeth sy'n cael ei rhoi ar sgrîn cyfrifiadur.  

Archwiliad Awdurdod Lleol

Mae'r Archwiliad Awdurdod Lleol yn rhan o'r broses trawsgludo. Ei diben yw gwarchod rhai allai fod yn prynu eiddo neu dir, a sicrhau eu bod yn ymwybodol o unrhyw faterion sy'n effeithio ar yr eiddo neu dir. 

Mae dwy elfen i'r archwiliad – ffurflen LLC1 a ffurflen CON29.

Ffurflen LLC1 – cais i chwilio trwy'r Gofrestr Pridiannau Tir ac am dystysgrif archwilio swyddogol. 

Mae'r rhan hon o'r archwiliad yn ymwneud â phridiannau y gellir eu cofrestru, er enghraifft Ardaloedd Cadwraeth, Gorchmynion Gwarchod Coed, Adeiladau Rhestredig, Rhybuddion Gorfodi, Amodau sydd ynghlwm wrth Ganiatâd Cynllunio ac ati.

Ffurflen CON29 – rhestr o ymholiadau arferol i Awdurdodau Lleol a rhai ymholiadau dewisol ychwanegol.

Mae'r rhan hon o'r archwiliad yn ymdrin â Statws yn y Cynllun Datblygu, Ffyrdd, Tir Llygredig, Rheoliadau Adeiladu, Hanes Cynllunio Arall ayb.

Nodwch na fydd yr archwiliad yn cynnwys gwybodaeth am eiddo sydd gerllaw. Os oes gennych bryderon am eiddo neu dir sydd gerllaw, gallwch ofyn am ymholiad ychwanegol.

Wrth ofyn am Archwiliad Awdurdod Lleol, gwnewch yn siwr eich bod yn cynnwys y canlynol:

  • Ffurflen LLC1
  • Ffurflen CON29
  • Y ffi cywir (gweler y tabl isod) - dylid gwneud sieciau'n daladwy i Gyngor Sir Powys.

Rhaid cyflwyno archwiliadau gyda chynllun safonol yr OS, gyda llinell goch o amgylch yr ardal sydd i'w harchwilio. Dylai'r cynllun fod yn un cyfredol ac yn dangos yr ardal archwilio yn glir mewn perthynas ag eiddo cyfagos.

Clirio

Cyswllt

Prisiau galw