Fforwm Mynediad Lleol

image of countryside

Mae gan Gyngor Sir Powys ddyletswydd gyfreithiol i sefydlu Fforwm Mynediad Lleol (FfMLl). Prif swyddogaeth y FfMLl yw rhoi cyfarwyddyd i'r Cyngor am fynediad y cyhoedd i dir yn yr ardal ar gyfer hamddena yn yr awyr agored a mwynhau'r ardal, gan ystyried anghenion rheoli tir a harddwch naturiol yr ardal.

 

 

Mae'r FfMLl yno hefyd i gynghori cyrff eraill, gan gynnwys Adnoddau Naturiol Cymru, am 'fynediad agored'. 

Un cyfrifoldeb pwysig sydd gan y FfMLl yw ystyried a ddylid rhoi mynediad cyhoeddus i dir ai peidio dan y cynllun amaeth-amgylchedd Glastir, sydd heb fynediad cyhoeddus ar hyn o bryd, ac os felly, lle ddylai'r mynediad hwn fod.

Mae pob cyfarfod yn agored i'r cyhoedd, ac mae'r Fforwm yn cysylltu â MFfLl Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy'n dod yn bennaf o fewn Powys.

Daw aelodau'r Fforwm o bob cwr o Bowys, ac mae'n cynnwys meysydd diddordeb mor eang sy'n bosibl. Mae un Cynghorydd Sir yn eistedd ar y Fforwm i gynrychioli'r Cyngor. Mae'r holl aelodau'n eistedd fel unigolion ac nid fel cynrychiolwyr corff.

Caiff sefydlu a gweithredu'r FfMLlau ei llywodraethu gan Reoliadau a chyfarwyddyd. Rhaid i'r FfMLl gwrdd o leiaf dwywaith y flwyddyn. Fodd bynnag, cynhelir cyfarfodydd fel arfer deirgwaith y flwyddyn ac fel arfer yn ardal Llandrindod, neu mewn lleoliad arall a gytunir gan aelodau'r Fforwm. Penderfynwyd y byddai un cyfarfod y flwyddyn yn ymweliad safle, i'w gytuno unwaith eto gan aelodau.

Mae'r rheoliadau yn dweud fod rhaid i'r FfMLl gael ysgrifenydd enwebedig. Dangosir manylion cyswllt yr ysgrifennydd o dan y rhan 'Cysylltiadau' ar y dudalen hon. Bydd staff Gwasanaethau Cefn Gwlad sy'n gallu cynghori ar fusnes pob cyfarfod yn cefnogi'r Ysgrifennydd yn y FfMLl.

Aelodau'r Fforwm

Aelodau'r Fforwm o'r 7 Chwefror 2017 tan 7 Chwefror 2020 yw:-

  1. Michael Brennan
  2. County Councillor John Evans
  3. Edmund Hayward (Chair)
  4. Edward Humphreys 
  5. Bryan Jones
  6. Chris Ledbury (Vice-Chair)
  7. Vicky Morgan
  8. Chris Tomley
  9. Charles de Winton
  10. Tony Cooke,
  11. Emyr Davies
  12. Graham Taylor
  13. Richard Tyler
  14. Michael Mosse

 

 

Clirio

Cyswllt

  • Cyfeiriad:
    Local Access Forum sectretary
    Y Gwalia
    Ffordd Ieithon
    Llandrindod
    Powys
    LD1 6AA
  • Enw Cyswllt: Ysgrifennydd LAF
  • Manylion Ychwanegol: Mark Stafford-Tolley (Swyddog Mynediad I Gefn Gwlad)
Prisiau galw