Rhywogaethau a chynefinoedd pwysig a ddiogelir

Mae Powys yn gartref i amrywiaeth enfawr o fywyd gwyllt.  Mae nifer o blanhigion, mamaliaid, adar, pysgod, pryfaid a ffyngau ym Mhowys wedi'u diogelu gan y gyfraith a/neu'n cael eu hadnabod fel bod o bwysigrwydd cenedlaethol neu leol.  Mae hefyd rhai ardaloedd o dir a dwr sy'n cael eu diogelu oherwydd y bywyd gwyllt sy'n byw yna.

 

 

Os ydych angen gwybodaeth am leoliad neu ddosbarthiad rhywogaeth neu gynefin arbennig ym Mhowys, cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth ar Fioamrywiaeth i Bowys a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, (GGB) canolfan cofnodion biolegol lleol y sir. 

Mae nifer fawr o safleoedd ym Mhowys wedi'u diogelu'n gyfreithiol, gan gynnwys: 

Mae Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yn rhoi diogelwch statudol i'r enghreifftiau gorau o blanhigion, anifeiliaid, neu dirluniau y DG.  Defnyddir y safleoedd hyn hefyd i gefnogi dynodiadau cadwraeth natur cenedlaethol a rhyngwladol eraill, megis Ardaloedd Diogelwch Arbennig neu Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Mae'r mwyafrif o SoDdGA mewn perchnogaeth breifat neu dan reolaeth breifat.  Mae dros 200 SoDdGA ym Mhowys.

Mae Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) wedi'u dynodi dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd y Gymuned Ewropeaidd.  Ardaloedd yw'r rhain sy'n cynrychioli'r ystod a'r amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau (heb fod yn adar) o fewn yr Undeb Ewropeaidd.  Mae Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ynghyd ag Ardaloedd Diogelu Arbennig, yn ffurfio rhwydwaith Natura 2000.  Mae sawl ACA ym Mhowys, gan gynnwys  Afonydd Wysg a'r Wy.

Mae Ardaloedd Diogelu Arbennig (ADA) wedi'u dosbarthu gan Lywodraeth y DG dan Gyfarwyddeb Adar y Gymuned Ewropeaidd.  Y rhain yw cynefinoedd pwysicaf adar mudol a phrin yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Safleoedd Ramsar yn cael eu dynodi dan y ddeddfwriaeth a gytunwyd yn Ramsar, Iran yn 1971.  Y bwriad yn wreiddiol oedd i ddiogelu cynefinoedd adar dwr pwysig, ond erbyn hyn mae'n cynnwys pob agwedd ar gadwraeth gwlyptiroedd.  Mae safleoedd Ramsar yn cydnabod fod gwlyptiroedd yn fannau arbennig o bwysig ar gyfer bioamrywiaeth, cadwraeth a lles dynol. Mae rhan fechan o safle Ramsar ar aber Afon Dyfi ym Mhowys.

Mae parciau cenedlaethol wedi diogelu a gwella tirweddau gwledig ers 1949.  Maen nhw hefyd yn annog y cyhoedd i fwynhau cefn gwlad yn ogystal ag ystyried lles cymdeithasol ac economaidd y rheiny sy'n byw ynddynt.  Gellir cael rhagor  o wybodaeth ar Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar eu gwefan

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol (GNC) yw rhai o safleoedd naturiol a rhannol naturiol pwysicaf Prydain.  Mae'r rhain yn cael eu rheoli i ddiogelu eu cynefinoedd ac i alluogi cynnal astudiaethau gwyddonol ar y rhywogaethau sy'n byw yma.

Mae Gwarchodfeydd Natur Lleol yn cael eu dynodi a'u rheoli gan y cyngor i ddiogelu natur.  Maen nhw'n darparu cyfleoedd am ymchwil ac addysg, ac er mwyn i bobl fwynhau natur.  Daeth Parc y Llyn yn Llandrindod yn Warchodfa Natur Lleol yn 2010.

Mae'r rhain yn cael eu rheoli gan awdurdodau lleol i greu cyfleoedd hamdden, ond mae hefyd ardaloedd o gynefinoedd rhannol naturiol ac felly mae hamdden a'r amgylchedd naturiol yn mynd law yn lllaw.  Mae Parc Gwledig Craig-y-nos yn y Bannau Brycheiniog. 

Gellir cael gwybodaeth a chyngor ar rywogaethau a ddiogelir dan y gyfraith,  AoDdGA, ACA, ADA, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a safleoedd Ramsar oddi ar wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru.

Gweler hefyd y tudalennau ar Ystlumod ac Adar. 

Nid yw pob ardal sy'n bwysig i fywyd gwyllt wedi'i diogelu'n gyfreithiol.  Mae awdurdodau lleol a/neu ymddiriedolaethau bywyd gwyllt wedi datblygu meini prawf i ddewis safleoedd sy'n bwysig ar gyfer bioamrywiaeth leol. Unwaith y bydd safleoedd wedi'u dynodi, rydym yn rhoi gwybodaeth a chyngor i berchnogion tir i helpu gyda'r gwaith rheoli sy'n ystyried bywyd gwyllt.

Ym Mhowys, mae rhwydwaith o Safleoedd Bywyd Gwyllt wedi cael eu sefydlu gyda pherchnogion tir i ddiogelu'r cynefinoedd rhannol naturiol sy'n weddill.  Mae'r Cyngor Sir hefyd yn rheoli rhwydwaith o dros gant o Warchodfeydd Natur ar Ymyl y Ffyrdd, sy'n cael eu dewis a'u rheoli i ddiogelu eu diddordeb botanegol.  Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y rhwydwaith Gwarchodfeydd Natur ar Ymyl y Ffyrdd ar dudalennau Partneriaeth Bioamrywiaeth Powys.

Clirio