Beth yw bioamrywiaeth?

Mae'r ymadrodd bioamrywiaeth yn grynhoad o'r geiriau 'amrywiaeth biolegol’ a'r ystyr, yn syml iawn, yw'r holl amrywiaeth o fywyd ar y ddaear. Mae bioamrywiaeth yn cynnwys popeth byw, planhigion, anifeiliaid, ffwng, algae, bacteria, a hyd yn oed firysau. Mae'n cynnwys rhywogaethau sy'n brin a chyffredin, a gallwch weld bioamrywiaeth cyfandir cyfan, neu leoliad bychan fel un cae.

 

 

Waxcaps

Mae rhywogaethau sydd â chronfa mwy o enynnau yn gallu addasu os yw eu hamgylchedd yn newid oherwydd afiechyd, hinsawdd neu lygredd.  Rhai o'r enghreifftiau mwyaf amlwg o amrywiaeth enetig yw gwahaniaethau lliw, maint  siâp neu ymddygiad.

Dyma nifer y gwahanol rywogaethau mewn ardal benodol.  Er enghraifft, y gwahanol rywogaethau o facteria, algae, planhigion, anifeiliaid di-asgwrn-cefn (e.e. mwydod/pryf genwair, pryfaid, gwas y neidr, malwod, gelennod ac ati) a'r anifeiliad ag asgwrn cefn (pysgod, adar, mamaliaid ac ati) sy'n gysylltiedig â llyn neu afon.

Mae cymunedau o blanhigion ac anifeiliaid yn cyd-gysylltu â'i gilydd a gyda'u hamgylchedd.  Er enghraifft, mewn afon mae rhyngweithio cymhleth rhwng bacteria, algae, planhigion, anifeiliaid di-asgwrn-cefn ac anifeiliad ag asgwrn cefn, a hefyd ffactorau eraill enghraifft lefel y goleuni, tymheredd, gwaddodion a chemeg y dwr.  Mae'r cyfan yn cyfuno i ffurfio ecosystem yr afon.  Yn ogystal ag afonydd a llynnoedd, mae Powys hefyd yn cynnwys ecosystemau mewn coetiroedd, glaswelltiroedd a rhostiroedd.

Bioamrywiaeth yw

  • yr amrywiaeth o fewn un rhywogaeth (amrywiaeth genetig)
  • yr amrywiaeth rhwng gwahanol rywogaethau (amrywiaeth rhywogaethol)
  • yr amrywiaeth rhwng cynefinoedd sy'n gartref i wahanol gymunedau o blanhigion ac anifeiliaid (amrywiaeth ecosystemau)

Mae bioamrywiaeth yn hanfodol i fywyd dynol.  Mae'n rhoi bwyd, cysgod, tanwydd a meddyginiaethau i ni ac mae wedi ysbrydoli rhai o dechnolegau ein hoes ni.  Mae bioamrywiaeth yn ychwanegu at ein tirlun a'n hymdeimlad o iechyd a lles. Mae planhigion oedd yn byw miliynau o flynyddoedd yn ôl yn darparu glo, olew a nwy ar ein cyfer heddiw. Mae planhigion hefyd yn rhoi tanwydd i ni ar ffurf coed, mawn, gwair a chansen siwgr.  Mae hyd yn oed plastigau a deunyddiau synthetig yn dod yn wreiddiol o olew, ac felly o blanhigion. 

Mae'r amrywiaeth fawr o blanhigion ac anifeiliaid yn rhoi ffynhonnell o fwyd i ni - rydym yn dibynnu ar y planhigion a'r anifeiliaid rydym yn eu bwyta ond hefyd ar y pryfaid sy'n peillio ein bwyd.  Mae angen i ni gynnal yr amrywiaeth genetig o fewn ffrwythau a llysiau er mwyn i ni barhau i'w tyfu wrth i'n hinsawdd newid, ac er mwyn ymdopi â phlâu ac afiechydon.

Mae'r elfennau sylfaenol ar gyfer llawer o'r meddyginiaethau cyfoes a ddefnyddiwn ar gyfer pob math o gyflyrau yn dod o'r byd naturiol, o gur pen ac anhwylderau treulio i malaria, canser ac afiechyd y galon. Gall hyd yn oed y rhywogaethau mwyaf di-nod fod yn werthfawr iawn.  Llwydni Penicillin notatum, oedd y gwrthfiotig cyntaf ynghyd â micro-organebau eraill ac mae hwn wedi arbed miliynau o fywydau.

Ecosystemau sy'n darparu ein dwr ffres, yn peillio ein cnydau bwyd, yn lliniaru llifogydd, yn storio carbon allan o'r atmosffer ac yn cynnig cyfleoedd hamdden gwych i ni yn ogsytal ag incwm gwerthfawr o dwristiaeth.

Mae'r ffordd rydym yn byw yn y byd modern yn golygu bod rhywogaethau a chynefinoedd yn diflannu'n ddychrynllyd o gyflym. Mae'n bosibl nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli bod 98% o'n dolydd traddodiadol eisoes wedi diflannu.  Mae'r rhain yn datblygu dros gannoedd o flynyddoedd, ac unwaith y byddant wedi diflannu ni fydd yr amrywiaeth eang a'r nifer o flodau cefn gwlad sydd eu hangen ar bryfaid fel gwenyn ar gael.  Heb wenyn a phryfaid eraill sy'n peillio, ni fyddem yn gallu cynhyrchu'r rhan fwyaf o'r ffrwythau, y llysiau a'r planhigion eraill rydym yn eu cymryd yn ganiataol.

Er mwyn cyflawni nodau cadwraeth natur UK BAP, mae'n rhaid i ni weithredu y DG gyfan, gan gynnwys Cymru.  Cynhyrchwyd Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol (LBAP) ar gyfer llawer o siroedd a pharciau cenedlaethol y DG, er mwyn blaenoriaethu camau gweithredu ar lefel leol. Mae dau LBAP yn berthnasol i Bowys; un ar gyfer Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac un ar gyfer gweddill Powys: ‘Ein Partneriaeth â Natur: Cynllun Bioamrywiaeth Lleol ar gyfer Powys’ a gyhoeddwyd yn 2002. Bydd y camau i warchod bioamrywiaeth ym Mhowys yn cyfrannu at ddiogelu adnoddau naturiol yng Nghymru, y DG a gweddill y byd. 

Clirio