Gofynnwch am gasgliadau gwastraff clinigol

Bydd gwastraff clinigol heintus yn cael ei gasglu gan Fwrdd Iechyd addysgu Powys. 

Cysylltwch â'ch tîm nyrsio cymunedol o fewn eich Meddygfa i sefydlu casgliad newydd.

Beth yw gwastraff clinigol heintus?

Gofynnwch i'ch meddyg neu nyrs os byddwch yn cynhyrchu unrhyw wastraff clinigol heintus. Ni ddylid taflu hwn ymaith gyda'ch gwastraff arferol o'r cartref.

Mae gwastraff clinigol heintus yn cynnwys;

  • nodwyddau sydd wedi'u defnyddio
  • chwistrellau
  • llafnau
  • swabiau
  • dresins meddygol sydd wedi'u defnyddio
  • eitemau eraill sy'n cynnwys secretiadau ac ysgarthiadau gan unigolion sy'n dioddef o afiechydon heintus.  

Ni ddylid byth gymysgu gwastraff heintus gyda gwastraff cyffredin.

Dylid rhoi padiau ymataliaeth, cynnyrch misglwyf, bagiau stoma neu wastraff catheter mewn sachau dwbl a'u gadael i'w casglu gyda'ch gwastraff cyffredinol o'r cartref.

Clirio

Cyswllt

  • Enw Cyswllt: Bwrdd lechyd Addysgu Powys, gasglu gwastraff clinigol (yn ystod oriau swyddfa)
Prisiau galw