Mapiau

Tythe map

Mae casgliadau o fapiau o Sir Frycheiniog, Sir Faesyfed a Sir Drefaldwyn o'r 16eg, 17eg, 18fed a'r 19eg Ganrif cynnar yn cael eu cadw yn nhair Amgueddfa'r Sir. Mae'r rhain yn fapiau wedi'u hengrafu, a gallant fod yn eithaf manwl.  Mae hi hefyd yn bosibl y bydd gan Amgueddfa'r Sir fapiau o Ffyrdd Cwmnioedd Tyrpeg sy'n dyddio o ail hanner y 18fed Ganrif.

Mapiau Ystadau

Mapiau yn dangos daliadau tirfeddiannwr arbennig. Gall hyn olygu maenorau, parciau neu gaeau. Mae mwyafrif y rhain yn dyddio o'r 18fed a'r 19eg Ganrif. Nid oeddent yn fapiau swyddogol, ac nid ydynt yn ddibynadwy bob tro.

Mapiau Tir Caeedig

Mae gan Archifdy'r Sir fapiau gwreiddiol o dir caeedig ar gyfer Powys gyfan (tua 1790au - 1860au).  Mae map tir caeedig yn dangos y cynllun ar gyfer sut y daeth caeau mawrion at ei gilydd mewn patrwm a oedd yn fwy effeithlon i bob ffarmwr eu rheoli. Cyn hyn, nid oedd y caeau wedi newid llawer ers y canol oesoedd (stripedi amrywiol o dir a oedd yn cael ei ffermio gan ffermwyr gwahanol a'r tir comin neu'r tir gwastraff). Mewn rhai achosion, roedd hyn wedi'i wneud eisoes, ond lle nad oedd ffermwyr yn cytuno, gorfodwyd hwy i gydymffurfio gan Ddeddf Cau Tir 1760.

Penodwyd tirfesuryddion i ail ddosbarthu trefniant caeau a thir comin. Daw mapiau tir caeedig mewn dwy ran: ceir map yn dangos pob cae, a gwobr o dir pori cyffredin, sy'n nodi enw pob cae, ei faint, pwy oedd yn berchen arno cyn y gwobrwywyd y tir caeedig ac enw'r perchennog newydd.

Nid yw mwyafrif y mapiau o dir caeedig yn dangos y systemau caeau a oedd yn bodoli eisoes, ac maent yn anghyson o ran y tir y maent yn ei gynnwys. Dim ond ar gyfer yr ardaloedd lle'r oedd yr hen systemau caeau a thir comin yn bodoli eisoes y cawsant eu llunio.

Mae mapiau tir caeedig yn rhan o Gofnodion y Sesiynau Chwarter.

Cynlluniau wedi'u Hadneuo o Ymgymeriadau Cyhoeddus (tua 1792-Dechrau'r 20fed Ganrif)

Pan gafodd camlas neu reilffordd ei chynllunio, roedd rhaid anfon map manwl o'r llwybr a gynigiwyd i Sesiynau Chwarter y sir dan sylw, er mwyn i'r cyhoedd allu ei weld mewn da bryd. Ni chafodd yr holl fentrau a gynigiwyd eu cwblhau. Mae'r mapiau hyn yn cynnwys llawer o wybodaeth, gan eu bod yn rhoi enwau perchnogion tir ar hyd y llwybr, ac maent yn dangos lociau, twneli, ayb. Fodd bynnag, dim ond stripedi cul ar hyd llwybrau'r fenter sydd wedi'u cynnwys ar y cynlluniau hyn.

Mae cynlluniau wedi'u hadneuo o ymgymeriadau cyhoeddus yn rhan o Gofnodion y Sesiynau Chwarter.

Mae Archifdy'r Sir wedi sicrhau llungopiau o holl fapiau ac atodlenni'r degwm ar gyfer Powys (tua 1830au - 1840au) gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae gan bron pob un o blwyfi Powys fap y degwm a dosraniad a luniwyd o dan Ddeddf Comisiynu'r Degwm 1836. Diben y ddeddf hon oedd trosi'r degwm blynyddol a dalwyd mewn caredigrwydd i'r ficer neu'r rheithor yn swm ariannol.

Fe all mapiau'r degwm a'r dosraniadau ddarparu enwau perchnogion a deiliaid, enw'r eiddo (os oes enw), cyfanswm y degwm a oedd yn daladwy, nifer yr erwau, ac weithiau defnydd y tir (tir pori, tir âr, dôl, ayb.) ac enwau'r caeau. Fodd bynnag, weithiau, bydd eiddo nad oedd yn talu'r degwm wedi'u eithrio, ac mewn rhai achosion, ni fydd map y degwm yn bodoli oherwydd fod y degwm eisoes wedi'i droi'n taliadau ariannol sefydlog cyn Deddf 1836.

Gellir gweld copiau o fapiau'r degwm yn P/X/9

Mae Archifdy'r Sir yn cadw mapiau'r Arolwg Ordnans sydd â'r graddfeydd canlynol ar gyfer Sir Frycheiniog, Sir Faesyfed a Sir Drefaldwyn. Nid yw unrhyw fersiwn yn gyflawn ar gyfer y siroedd hyn, ond mae mynegai cynhwysfawr ar gael yn yr ystafell chwilio. 

1": Milltir: Y rhifyn cyntaf o'r 1830au, diwygiwyd yn y 1870au, nid oes mapiau ar gael ar gyfer y sir gyfan. Rhifau'r taflenni ar gyfer Powys yw 42-60.  Mae'r gyfres diweddaraf, tua 1880au i 1912 hefyd yn anghyflawn.  Rhifau'r taflenni ar gyfer Powys yw 151-232.

2": Milltir: Llungopiau o Lyfrgell Genedlaethol Cymru o luniau gweithiol y rhifyn cyntaf o 1809 i 1836. Mae'r set gyfan ar gael.

6": Milltir: Y rhifyn cyntaf o'r 1880au (ychydig iawn o enghreifftiau). Ail rifynnau o ddechrau'r 1900au (gorchudd da o'r sir). Rhifynnau dros dro yn seiliedig ar yr ail rifyn, gyda diwygiadau yn 1938 a 1948/49 (gorchudd eithaf da). Mae'r gyfres sydd wedi'i rifo wedi'i rannu'n daflenni GGn, GDn, DGN a DDn.

25": Milltir: Ychydig iawn o'r rhifynnau cyntaf o 1887 sydd ar gael. Ail rifynnau o'r 1900au cynnar yw mwyafrif y casgliad hwn, yn cynnwys y rheiny a ddefnyddiwyd wrth brisio tir. Mae mapiau o lawer o rannau o Sir Frycheiniog ar goll, ond mae rhagor o fapiau ar gael o Sir Faesyfed a Sir Drefaldwyn. Fodd bynnag, mae nifer ar goll ar hyn o bryd.

 

 

Pan gynigodd David Lloyd George gyflwyno Treth Tir yn 1910, defnyddiwyd yr ail rifyn mapiau graddfa 25" i lunio cofrestrau o berchnogaeth tir.  Er na chafodd y dreth hon ei gweithredu, cafodd y gwaith papur ei gwblhau, ac mae'r "Doomsday Books" a grewyd yn dangos enwau perchnogion tir, perchnogion a deiliaid eiddo, ynghyd â nifer yr erwau a'r manylion a ddefnyddiwyd wrth asesu treth. 

Mae'r mapiau OS graddfa 25" sydd wedi'u marcio yn Archifdy'r Sir, ond mae'r cyfres o fapiau yn anghyflawn. Mae holl fapiau Sir Frycheiniog ar goll, ac mae yna fylchau yng nghyfres Sir Faesyfed a Sir Drefaldwyn, ond mae cofrestrau gwerthuso tir pob sir yn goroesi yn Archifdy'r Sir. Mae'r mapiau graddfa 6" yn llenwi rhai o'r bylchau yn Sir Faesyfed.

Mae set gyflawn o'r mapiau 25" a'r gyfres meistr o lyfrau'r Ddeddf Gyllid yn cael eu cadw yn y Swyddfa Cofnodion Cyhoeddus, Kew.

Gellir gweld ein daliadau o gofrestrau'r Ddeddf Cyllid yma.

Mae gan Archifdy'r Sir fynegeion cardiau sy'n nodi pa fapiau sydd ar gael ar gyfer pob plwyf, ac ar ba daflen o gyfres graddfa 6" yr OS y gellir dod o hyd i'r pentref sy'n rhoi enw'r plwyf. Mae dau fap yn nodi ffiniau hynafol y plwyf.

Mae'r rhain yn ddefnyddiol iawn, oherwydd nid yw pob un o'r hen ffiniau yn cyfateb â'r plwyfi modern, yn enwedig yn yr ardaloedd ffiniol lle, er enghraifft, roedd rhai o blwyfi Sir Amwythig yn mynd ar draws y ffin i Sir Drefaldwyn.

Mae cofnodion plwyfi a rhai cofnodion eraill yn cyfeirio at yr hen ffiniau.

 

 

Clirio