Mae'n eithaf cyffredin sylwi bod angen help ar rywun rydym yn eu hadnabod. Yn aml gallwn weld nad yw'n gofalu amdano'i hun yn iawn, neu mae'n achosi niwed iddo'i hun neu i bobl eraill oherwydd nad yw'n gallu rheoli'r hyn a wna. Neu mae'n bosibl y byddwn yn sylwi bod rhywun yn cael ei gam-drin neu bod rhywun yn cymryd mantais ohono ond dydyn ni ddim yn gwybod sut i atal hyn.
Os ydych yn pryderu am rywun arall, gallwch gysylltu a'r Gwasanaethau Gofal Oedolion. Os ydym yn cytuno bod eich pryderon yn rhywbeth y dylem ni eu trin, byddwn yn dechrau asesiad neu archwiliad.
Fe wnawn ein gorau i weithio gyda'r unigolyn, felly byddwn yn ceisio dod i'w hadnabod a darganfod 'beth sydd wedi mynd o'i le'.
Rydym yn sylweddoli nad yw efallai yn dymuno cael yr help a gynigwn. Fodd bynnag, mae yna adegau pan mae gofyn i ni o dan y gyfraith asesu neu archwilio, boed hynny'n dderbyniol ganddo ai peidio. Dim ond os bydd popeth arall yn methu y byddwn yn gwneud unrhyw beth yn groes i ddymuniadau rhywun, a byddai pawb yn gobeithio osgoi gwneud pethau yn erbyn ei ewyllys. Fodd bynnag, bydd yn rhaid i ni wneud hynny ambell waith, ac mae'n rhaid i ni ddilyn gweithdrefnau cyfreithiol pan fydd hynny'n digwydd.
Fel arfer, pan fydd pobl eraill mor bryderus fel eu bod wedi galw'r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Oedolion, y rheswm yw bod gan yr unigolyn sawlch meddwl neu niwed i'w ffordd o feddwl. Nid dyma sy'n digwydd bob tro, fodd bynnag. Bydd llawer ohonom yn ei chael hi'n anodd gofyn am gymorth, a chyfaddef na allwn ofalu amdanom ein hunain yn iawn. Weithiau, felly, bydd y sefyllfaoedd hyn yn codi oherwydd ofn, balchder a gwrthod, ac yn yr achosion hyn byddwn yn ceisio annog yr unigolyn i ymddiried ynom a derbyn ein cymorth.
Weithiau bydd pobl yn disgwyl i ni wneud pethau nad yw'n gyfreithlon i ni eu gwneud. Os yw'r sawl rydym yn pryderu amdano yn gallu penderfynu drosto'i hun, yna ni allwn orfodi dim arno. Yn ol y gyfraith gall pob un ohonom wneud ein penderfyniadau ein hunain os oes gennym y gallu meddyliol i wneud hynny, hyd yn oed os yw eraill yn credu ein bod yn anghywir.
Mae'n bosibl na fydd y stori'n dod i ben yn y fan yma chwaith, oherwydd bydd pethau'n datblygu, a gallai'r rhesymau pam y mae pobl wedi bod yn pryderu ddangos bod yna broblem nad yw eto wedi cyrraedd y pwynt lle gellir gweithredu ar y mater.
Mae hyn yn sefyllfa eithaf cyffredin, ac fe all fod yn anodd. Fel arfer, mae'r sawl sy'n derbyn y gofal yn ddigon bodlon ar y sefyllfa fel y mae hi, ond mae'r sawl sy'n gofalu amdano yn cael anhawster ymdopi.
Os ydych chi'n gofalu am rywun ond yn teimlo ei bod yn ormod i chi ei drin ar eich pen eich hun, mae angen i chi fod yn onest gyda'r sawl rydych chi'n gofalu amdano. Gallwn eich helpu a'ch cynorthwyo, ond allwn ni ddim gwneud hynny oni bai eich bod yn siarad a ni, ac yna'n gweithio gyda ni i annog y sawl rydych yn gofalu amdano i dderbyn cymorth o leoedd eraill.
Gall fod yn anodd i gychwyn, ond fel arfer bydd pethau'n gweithio allan yn y tymor hir.