Help gyda iechyd meddwl

Dywedir fod gan rywun 'salwch meddwl' os yw'r ffordd mae rhywun yn meddwl, teimlo neu'n ymddwyn yn newid yn fawr, yn enwedig pan fo'r newidiadau hyn yn cael effaith niweidiol ar eu bywydau bob dydd neu'n achosi trallod iddynt eu hunain neu i bobl eraill.

Os yw unigolyn wedi cael problem erioed gyda'r ffordd y mae'n meddwl, yn teimlo neu'n ymddwyn, nid yw hyn fel arfer yn cael ei alw'n salwch meddwl.  Gall hyn fod yn broblem datblygu neu'n anhawster gyda'u personoliaeth (a elwir weithiau yn nam personoliaeth).

Y gwrthwyneb yw iechyd meddwl - mae'n golygu lles meddyliol, gweithredu meddyliol da neu dim problemau penodol o ran meddwl, teimlo neu ymddwyn.

Mae'r mathau hyn o ddiffiniadau yn gorsymleiddio pethau. Rydym oll yn profi newidiadau o bryd i'w gilydd o ran y ffordd yr ydym yn teimlo, meddwl ac ymddwyn ac nid oes llinell derfyn amlwg rhwng salwch ac iechyd. Weithiau hefyd gall rhywun gael problemau sy'n dod o fewn y diffiniad o salwch meddwl, ond y gallant fod yn iach iawn yn feddyliol mewn ffyrdd eraill.

Gall problemau iechyd meddwl effeithio ar unrhyw un ohonom ar unrhyw adeg yn ein bywydau.  Felly ni ddylai unrhyw un ohonom deimlo cywilydd i ofyn am help.  Mae gofalu am ein hechyd meddwl a'n lles yr un mor hanfodol a gofalu am ein lles corfforol.

Mae'r asiantaethau ym Mhowys sy'n darparu gwasanaethau iechyd meddwl yn defnyddio 'dull adferiad' yn eu gwaith. 

Mae 'adferiad' yn ymwneud â helpu pobl i gadw rheolaeth o'u bywydau er gwaethaf problemau iechyd meddwl trwy ddatblygu cryfder pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, ac nid trin neu reoli eu symptomau'n unig.  Gall y broses gymryd amser hir ac efallai ni fydd yn hawdd - bydd yn amrywio o berson i berson.  Y prif nod yw rhoi gobaith ei fod yn bosibl cael bywyd ystyrlon, er gwaethaf salwch meddwl difrifol. 

Nod y model adferiad yw helpu pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl i edrych y tu hwnt i 'oroesi' ac i bwysleisio er efallai nad oes gan rywun rheolaeth lwyr dros eu symptomau, y gallant gael rheolaeth lwyr dros eu bywydau.

Os yw problemau iechyd meddwl cynddrwg fel y gall rhywun fod yn berygl i'w hunan neu i bobl eraill, gallant gael eu cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl (1983)

Mae gan bobl a gedwir yn gaeth hawliau o dan y Ddeddf ac (yng Nghymru) o dan y Mesur Iechyd Meddwl (2010)

Sut alla'i gael help?

Yn gyntaf ewch i weld eich Meddyg Teulu.  Mae nifer o bethau y gallant eu gwneud i'ch helpu.  Os ydych angen rhagor o help, byddant yn gallu eich cyfeirio at staff Iechyd Meddwl sy'n gallu helpu pobl sy'n dioddef o :

  • Iselder
  • Pryder ac ymosodiadau o banig
  • Straen
  • Anhawster ymdopi gyda digwyddiadau bywyd

Gallant gynnig:

  • cyngor a chymorth ar ddeunyddiau hunangymorth
  • cyrsiau therapi gwybyddol
  • cyrsiau rheoli straen
  • sesiynau therapi siarad yn seiliedig ar dystiolaeth sy'n canolbwyntio ar dechnegau a strategaethau i oresgyn problemau iechyd cyffredin
  • cynghori
  • cyfeiriad tuag at gymorth tymor hirach os oes angen

Os oes angen cymorth tymor hir, byddwch fel arfer yn cael eich atgyfeirio at y Tim Iechyd Meddwl Cymunedol lleol, gyda chyfle i gael cymorth gan staff iechyd a gweithwyr cymdeithasol.

Rhagor o wybodaeth

Dolenni i wefannau eraill:

Y Ddeddf Iechyd Meddwl (1983)

Mesur Iechyd Meddwl (2010).

www.powysmentalhealth.org.uk/ - Cymdeithas Powys ar gyfer Iechyd Meddwl

www.advocacy-in-powys.org.uk/  - Gwasanaethau Eiriolaeth Annibynnol ar gyfer pobl ag anawsterau Iechyd Meddwl.

www.counselling-directory.org.uk/

Llinell Gymorth lechyd Meddwl ar gyfer Cymru Llinell Gynfor a Gwrando'r Gymuned 0800 132 737, Twitter: @call_247

Clirio

Cyswllt

Prisiau galw

Ymgynghoriadau Cyfredol